Cadarnhau Templed Cwrs Blackboard Ultra

Blackboard Ultra icon

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wedi bod yn gweithio i gadarnhau’r templedi a fydd yn cael eu defnyddio mewn cyrsiau Ultra newydd.

Yn wahanol i’r drefn mewn blynyddoedd a fu, ni fydd templedi adrannol ar gael mwyach. Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Gwella Academaidd a’r ymgynghori â Deoniaid Cyswllt y Ddarpariaeth Academaidd cyfrwng Cymraeg, crëwyd 3 thempled ar gyfer Ultra:

  • Templed Cymraeg
  • Templed Saesneg
  • Templed dwyieithog

Bydd templed eich cwrs yn seiliedig ar yr iaith gyflwyno a nodwyd ar gyfer y modiwl yn AStRA.

Bydd cyrsiau lle nodwyd bod yr iaith gyflwyno yn ‘100’ o ran y Gymraeg yn cael eu creu gyda thempled Cymraeg. Bydd gan gyrsiau ‘NULL’ neu ‘0’ dempled Saesneg. Os yw’r sgôr rhwng ‘1’ a ‘99’, bydd templed dwyieithog yn cael ei ddefnyddio. Yn wahanol i ddewislenni gwreiddiol Blackboard, bydd yr hyfforddwyr yn gallu golygu templedi cyrsiau.

Mae templed cynnwys y cwrs yn cynnwys 3 ffolder:

  • Gwybodaeth am y Modiwl / Module Information
  • Asesu ac Adborth / Assessment and Feedback
  • Arholwyr Allanol / External Examiners (cuddiedig)

Gwelir delwedd o’r templed dwyieithog isod:

template

Y cam nesaf yn ein Prosiect Ultra yw creu sefydliadau ymarfer ar gyfer yr holl staff. Bydd y sefydliadau hyn yn fannau lle gallwch edrych ar nodweddion ymarferol Ultra a chopïo cynnwys cyrsiau o fodiwlau presennol. Byddwn hefyd yn defnyddio’r sefydliadau ymarfer hyn yn ein rhaglen hyfforddi i staff, a fydd yn cael ei rhannu â chi dros y misoedd nesaf.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brosiect Ultra, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*