Ysgrifennwyd gan Angela Connor, Seicoleg
Fe wn y gallai swnio’n rhyfedd i holi a yw eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith eich myfyrwyr. Gallaf eich clywed yn dweud “Wrth gwrs eu bod nhw”. Yn amlwg, rydych chi’n llwytho deunyddiau i fyny yn Gymraeg a Saesneg. Ond nid am hynny rwy’n sôn. I sicrhau bod Blackboard yn hygyrch i gynifer o fyfyrwyr â phosib mae angen i ni roi ein hunain yn eu hesgidiau hwy am ychydig ac edrych ar y dyluniad a’r cynnwys yn wrthrychol i weld a yw’r deunyddiau wedi’u gosod yn y ffordd orau i garfan benodol er mwyn iddyn nhw allu deall eich modiwlau’n rhwydd.
Dywedir yn aml mewn addysg os byddwch yn addasu eich cyflwyno i’r rheini sydd ag anghenion ychwanegol, byddwch yn ei gwneud yn haws i bawb. Efallai y gellid cymhwyso’r ethos hon yn nhermau Blackboard, gan roi’r holl fyfyrwyr mewn sefyllfa i gyflawni eu potensial llawn gyda chyn lleied o straen â phosibl.
Heb os, mae rhai elfennau mewn modiwl Blackboard yn galw am ffurfioldeb a phroffesiynoldeb, fel Arfer Academaidd Annerbyniol, a llawlyfr y modiwl. Mae’r llawlyfr yn gweithredu bron fel cytundeb contract rhwng cydlynydd y modiwl a’r myfyriwr, a’r ffordd arall, gan ei fod yn amlinellu’n glir yr hyn y bydd y modiwl yn ei gyflwyno a’r hyn sy’n ddisgwyliedig gan y myfyrwyr yn eu tro. Ond trwy osgoi jargon addysgol lle bo modd, neu ei gyflwyno’n raddol, gallwch helpu i godi hyder eich myfyrwyr a’u gwneud yn gyfarwydd â’r termau hyn. Er enghraifft, faint o fyfyrwyr oedd wir yn deall y termau “cydamserol” ac “anghydamserol” a hyrddiwyd i mewn yn sydyn i fyd addysg y llynedd? A phan oedden nhw’n ddealledig, a oedden nhw’n cael eu drysu gyda rywbeth arall tebyg o dro i dro? Fe wn i mi gael fy nal unwaith neu ddwy.










