Cefnogaeth ar gyfer Dysgu Wyneb yn Wyneb

Wrth inni symud tuag at ddysgu wyneb yn wyneb eto, hoffem atgoffa’r staff nad ydynt ar eu pen eu hunain o ran ailaddasu i ddysgu wyneb yn wyneb, a allai newid eto o ran maint y grwpiau, y dulliau o ddarparu’r dysgu, cadw pellter, a masgiau. Bydd yr eitem hon ar ein blog yn trafod yr offer arferol yn yr ystafelloedd dysgu a sut i ymdrin â disgwyliadau myfyrwyr, yn ogystal â chyfeirio’r staff tuag at adnoddau perthnasol ar gyfer yr agweddau hynny.   

Offer Arferol yr Ystafelloedd Dysgu 

Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi datblygu canllawiau ar ddefnyddio’r offer dysgu arferol yn yr ystafelloedd dysgu canolog. Gallwch wylio rhestr o fideos sy’n arddangos yr offer yn yr ystafelloedd dysgu

Mae’n bosibl y bydd trefn fanylach o ran hylendid a phrotocolau Iechyd a Diogelwch yn dal i fod ar waith ym mis Medi, felly sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf yn eu cylch, gan gynnwys systemau unffordd mewn adeiladau, amseroedd cyrraedd/gadael graddol ar gyfer staff a myfyrwyr, gorsafoedd glanhau, a chynlluniau eistedd.  

Mae arnom eisiau atgoffa’r staff hefyd o bolisi recordio darlithoedd y Brifysgol – fe allai dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb olygu dychwelyd at recordio darlithoedd byw. Bydd nifer o fanteision i wneud recordiadau o ddarlithoedd wrth i ni fynd nôl i ddysgu wyneb yn wyneb. Os bydd myfyrwyr yn methu bod yn bresennol mewn darlith oherwydd salwch gallant ddal i fyny â’r gwaith yn haws. Ac os yw myfyrwyr yn gwybod bod recordiadau o ddarlithoedd ar gael, gallant osgoi dod i ganol pobl os nad ydynt yn teimlo’n hwylus. Mae’r cwbl hyn yn ein cynorthwyo â’r gwaith o warchod iechyd a lles pawb ledled y Brifysgol. Os ydych yn ansicr o gwbl, edrychwch eto ar ein rhestr o fideos ar Panopto. 

Efallai nad yw eich adran mewn ystafell ddysgu ganolog, a bod offer gwahanol i’r offer canolog arferol ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r asesiadau risg perthnasol ar gyfer eich mannau dysgu a gwiriwch sut orau i’w rhoi ar waith gyda’r person priodol yn eich adran.   

Sut y byddwn ni’n ymdrin â disgwyliadau’r myfyrwyr? 

Nid yw rheoli disgwyliadau myfyrwyr yn beth rhwydd ar unrhyw adeg, a gallai hynny fod hyd yn oed yn fwy heriol yn ystod y flwyddyn academaidd sydd o’n blaenau. Er mwyn ymdrin â disgwyliadau yn effeithiol, mae’n hanfodol cynnal trafodaeth barhaus â’r myfyrwyr, gan addasu yn ôl y gallu a hefyd yn ôl yr angen. Wedi’r cyfan, mae’r sefyllfa’n dal i ddatblygu a rhaid i’r Llywodraeth ac i brifysgolion barhau i ymateb. Rydym yn atgoffa pawb felly i ddarllen negeseuon y Brifysgol ynghylch newidiadau i’r rheoliadau yn ofalus pan gânt eu hanfon.  

Yn y pen draw, ein nod yw cefnogi ein myfyrwyr ar eu taith i ddod yn ddysgwyr hyderus, annibynnol. Rhan greiddiol o hynny yw trin myfyrwyr fel partneriaid yn y modd y mae eu dysgu’n cael ei gynllunio. Mae hyn yn golygu bod angen esbonio pam yr ydym yn eu dysgu fel y gwnawn, hyd yn oed os nad dyna’r hyn yr oeddent yn ei ddisgwyl. Un ffordd o fesur disgwyliadau’r myfyrwyr yw cynnal pleidlais bwrpasol ar ddechrau modiwl ynghylch eu disgwyliadau am y semester, a symud ymlaen wedyn i gael trafodaeth agored â hwy ynglŷn â’ch disgwyliadau chi ar gyfer eich myfyrwyr: sut yr ydych yn disgwyl iddynt ymwneud â’u cwrs a sut y byddant yn ymdrin â’u gwaith dysgu? Faint o oriau o waith y dylent fod yn ei wneud y tu hwnt i’w sesiynau wyneb yn wyneb? Mae cael sgwrs am ddisgwyliadau ar gam cynnar yn eich galluogi i’w cyfeirio at adnoddau sydd wedi eu cynllunio i  gefnogi eu dysgu, megis gwasanaethau llyfrgell, eich oriau swyddfa, ac ati. 

Dyma rai adnoddau eraill: 

Mae’r Canllawiau Cyflym ar Lwyddiant Myfyrwyr yn fan cychwyn da i gynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu sgiliau academaidd megis rheoli eu hamser, strategaethau astudio effeithiol a’r gallu i’w hysgogi eu hunain.   

Mae tudalennau SgiliauAber (sydd ar gael trwy Blackboard) yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr gydag amrywiol sgiliau hanfodol gan gynnwys ysgrifennu academaidd, cyfeirnodi neu gyflogadwyedd.   

Mae Adnoddau Lles y Myfyrwyr yn cynnig amrywiol adnoddau i’r myfyrwyr a all eu cynorthwyo i ddatblygu strategaethau ymdopi. 

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*