![](http://wordpress.aber.ac.uk/e-learning/files/2023/09/BlackboardLearn_black_highresolution-1024x272.jpg)
Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych yn benodol nodwedd Llyfr Graddau Blackboard Learn Ultra. Y Llyfr Graddau (Gradebook) yw’r enw newydd ar gyfer y Ganolfan Raddau.
Fe’i defnyddir i gadw holl farciau’r myfyrwyr ar Gwrs Blackboard.
Mae’r Llyfr Graddau wedi’ leoli ar ddewislen uchaf bob cwrs.
![Cwrs Ultra gyda'r Llyfr Graddau wedi'i amlygu](https://wordpress.aber.ac.uk/e-learning/files/2023/09/image-4.png)
Mae’r myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y modiwl yn ymddangos yn awtomatig yn y Llyfr Graddau.
Ar ôl mynd i mewn i’r llyfr graddau, gallwch doglo eich gwedd.
Y wedd ragosodedig yw rhestr o eitemau y gellir eu marcio ar un tab a’r myfyrwyr ar un arall:
![Gwedd List y Llyfr Graddau](https://wordpress.aber.ac.uk/e-learning/files/2023/09/image-3.png)
Gallwch doglo’r wedd fel bod yr eitemau y gellir eu marcio a’r myfyrwyr i’w gweld ar yr un pryd.
![Gwedd Grid y Llyfr Graddau](https://wordpress.aber.ac.uk/e-learning/files/2023/09/image-5.png)