Blackboard Ultra: Trafodaethau â Chyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu

Blackboard Ultra icon

Ar 1 a 2 Mawrth, cyfarfu’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu â Chyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu yr Adrannau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am brosiect Blackboard Ultra a thrafod ein cynlluniau ar gyfer hyfforddiant, sut y gallwn fynd i’r afael â heriau, a’r gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer prosiect Ultra.

Gellir lawrlwytho sleidiau’r sesiwn o’r ddolen hon.

Mae’r sleidiau’n cynnwys diweddariad ar amserlen y prosiect, yr hyn y bydd angen i gyd-weithwyr academaidd ei wneud, a chyflwyniad i’n trefn hyfforddi.

Crynodeb o’r drafodaeth

  • Cyswllt er mwyn cael cymorth – os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio offer e-ddysgu cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk a byddwn yn fwy na pharod i’ch helpu.
  • Ychwanegu dolenni at restrau darllen a Panopto – Bydd yn rhaid i aelodau o staff ychwanegu’r dolenni hyn at eu modiwlau. Nid oes modd gwneud hyn yn awtomatig ar hyn o bryd, ond byddwn yn parhau i geisio canfod ffyrdd o wneud hynny.
  • Bydd adrannau’n cael dewis a ydynt eisiau sesiwn hyfforddi wyneb yn wyneb ynteu un ar-lein.
  • Bydd yr uned yn parhau i gynnig hyfforddiant ar ddefnyddio Ultra dros yr haf ac ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd
  • Bydd cyd-weithwyr academaidd yn gallu gweld a chopïo deunydd o fodiwlau’r gorffennol – y cyfnod cadw presennol yw 5 mlynedd + y flwyddyn bresennol.
  • Os oes modd, dylai cyd-weithwyr ddefnyddio nodweddion golygu testun Blackboard i sicrhau bod eu cynnwys mor hygyrch â phosibl.
  • Bydd rhestr wirio yn cael ei pharatoi fel y gall cyd-weithwyr wirio eu bod wedi gwneud popeth sydd ei angen wrth adeiladu eu modiwlau.
  • Byddai cyd-weithwyr yn hoffi cael negeseuon cyson gan y Gwasanaethau Gwybodaeth am y prosiect.
  • Bydd sesiynau hyfforddiant yn cael eu cynnig i bob tîm yn y Gofrestrfa yn ogystal ag i arholwyr allanol a champysau rhyddfraint.
  • Bydd y negeseuon cyfathrebu a’r dull gweithredu yn tanlinellu manteision symud i Ultra ac yn rhoi rhestr o’r nodweddion newydd.
  • Os oes modd, bydd deunyddiau fideo yn cael eu creu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, neu os hoffech siarad â ni am agwedd benodol ar eich cwrs, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*