Blackboard Ultra: Cyfarfod Bwrdd Prosiect 1

Blackboard Ultra icon

Ar 3 Tachwedd, cyfarfu ein tîm cymorth cleientiaid Blackboard â Bwrdd Prosiect Ultra. Mae’r bwrdd yn cynnwys aelodau Gwasanaethau Gwybodaeth sy’n gyfrifol am y symudiad i Blackboard Ultra a chydweithwyr academaidd.

Pwrpas y cyfarfod oedd amlinellu cwmpas, cenhadaeth, gweledigaeth, ac amcanion y prosiect.

Roedd rhan o’r gweithgaredd yn cynnwys bwrdd Murol.

Ar y bwrdd Murol hwn gofynnwyd i ni roi amlinelliad o’r amcanion sefydliadol, adrannol, ac unigol roedd arnom ni eisiau eu cyflawni.

Amcanion Sefydliadol

Ein bwriad yw cynnal y profiad rhagorol a gaiff ein myfyrwyr, a gwneud yn siŵr bod y symudiad yn un cynaliadwy i’r holl staff. O safbwynt addysgeg, rydym am i ddysgu gweithredol a myfyrwyr fel partneriaid fod yn ethos ar gyfer y prosiect, a chanolbwyntio ar yr un pryd ar y ffyrdd y gellir datblygu dysgu cyfunol o bell ac asesu ar-lein. Rydym am i’r Amgylchedd Dysgu Rhithiol (ADRh) fod yn adnodd hunanwasanaeth i’n defnyddwyr i raddau helaeth, a chydymffurfio ar yr un pryd â’r ddeddfwriaeth hygyrchedd. Rydym am i ddata lifo’n ddi-dor rhwng systemau eraill a sicrhau bod mwy eglurder wrth brosesu marciau. Mae angen i Blackboard Ultra fod â delwedd glir a brand y mae ei gysylltiad ag Aberystwyth yn hawdd i’w adnabod. Dylai fod yn gwbl ddwyieithog, yn hawdd llywio o’i amgylch, ac  arbed amser i ddefnyddwyr lle bo modd. Mae cysondeb ar draws modiwlau o ran y dull llywio yn parhau i fod yn ysgogydd mawr, gyda gwaelodlin safonol o arfer gorau a thempled sefydliadol. Dylai fod cyfleoedd i staff arloesi, gydag enghreifftiau o addysgu a gweithgareddau dysgu rhagorol. Mae angen i ni wneud yn fawr o’n buddsoddiad a sicrhau bod yr ADRh yn cydymffurfio â’r GDPR.

Nodau Adrannol

Gobaith yr adrannau yw pontio i’r system newydd mor esmwyth â phosib a chael cyfleoedd i rannu eu harferion gorau o fewn eu hadrannau a thu hwnt. Byddai lleihau’r angen am gefnogaeth a chanolbwyntio ar weithgareddau datblygu yn cael ei groesawu. Mae gan adrannau sefydliadau adrannol sy’n cynnwys amrywiol ddarnau o wybodaeth berthnasol – mae hyn yn rhywbeth yr hoffem ei weld yn cael ei ddatblygu a’i safoni ar gyfer myfyrwyr. Fel rhan o’r prosiect, mae’r adrannau angen prosesau adrodd clir ar gyfer cysylltu â thîm y prosiect yn ogystal â’r prifysgolion canolog.

Amcanion Unigol

Mae angen i lwythi gwaith fod yn realistig ac mae angen rhoi amser i gydweithwyr baratoi cyrsiau ar Ultra. Mae cyfle i unigolion archwilio arferion y diwydiant, a symud y pwyslais er mwyn canolbwyntio ar arloesi. Mae aelodau staff wedi treulio llawer o amser yn datblygu a chynnal gweithgareddau ar Blackboard Original felly bydd angen cymorth ar gyfer hynny. Dylai pob aelod o staff allu cyflawni’r isafswm presenoldeb, a dylem fod yn ceisio sicrhau cyn lleied â phosib o amhariadau.

Byddwn yn parhau i flogio am y symudiad i Ultra a bydd rhagor o wybodaeth am y prosiect yn cael ei rannu drwy’r Bwletin Wythnosol.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*