Cyhoeddiad am y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

#aultc22 #pacda22

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi’r thema a’r agweddau ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol eleni.

Dyddiad i’r Dyddiadur: cynhelir y gynhadledd eleni rhwng 12 a 14 Medi 2022. Y gobaith yw y byddwn yn gweld rhai o’r elfennau wyneb yn wyneb yr ydym wedi’u mwynhau yn y gorffennol yn dychwelyd.

Thema’r gynhadledd eleni yw

Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth

Dathlu 10 mlynedd o Gynadleddau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth

Gyda’r agweddau canlynol:

·    Addysgeg gynhwysol a chynaliadwy 

·    Dilysrwydd asesu, asesu dilys, ac ymgysylltu ag adborth

·    Sgiliau sgaffaldio ar draws y cwricwlwm a thu hwnt

·    Datblygu cymuned Prifysgol Ddwyieithog

·    Gweithio gyda myfyrwyr fel partneriaid i ddylunio dysgu 

·    Dysgu gweithredol yn y dirwedd addysg uwch heddiw

Mae’n anodd credu mai hon yw’n degfed gynhadledd flynyddol, gyda’r un cyntaf yn dechrau yn 2013. Bydd gennym lawer o uchafbwyntiau o’r deng mlynedd diwethaf. Cyn y gynhadledd, byddwn yn sicrhau bod ein harchif o ddeunyddiau ar gael felly cadwch lygad am y rheini.

Cadwch y dyddiad ac edrychwch allan am yr alwad am gynigion, siaradwyr gwadd, a chyhoeddiadau archebu ar ein blog a’n tudalennau gwe.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*