Astudiaethau Achos Offer Rhyngweithiol Blackboard – Byrddau Trafod

Mae’n bleser gennym gyflwyno’r astudiaeth achos gyntaf ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard, sef defnyddio byrddau trafod gan Dr Martine Garland o Ysgol Fusnes Aberystwyth.

Roedd byrddau trafod felly yn ffordd o ail-greu’r drafodaeth y gallem fod wedi’i chael yn y dosbarth, ac yn sgil hynny fe gafwyd dros 900 o bostiadau yn ystod y semester.’

Pa offer ydych chi’n ei ddefnyddio a sut?

Rwy’n defnyddio byrddau trafod ar fodiwl marchnata craidd blwyddyn 1af gyda 97 o fyfyrwyr. Caiff y byrddau trafod eu defnyddio mewn ffordd strwythuredig iawn i roi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso theori, model neu fframwaith y maen nhw newydd ddysgu amdano. Yn sgil y dull cyfunol y dechreuwyd ei ddefnyddio mewn ymateb i Covid-19, mi sylwais nad oedd myfyrwyr yn astudio’r cynnwys a recordiwyd yn ei drefn addas, ac nid yn yr wythnos y bwriadwyd iddynt astudio’r pwnc. Roedd hyn yn golygu ei bod yn anodd defnyddio’r sesiynau byw yn MS Teams i wneud ymarferion pwnc-benodol a chreu dadl gan nad oedd llawer o fyfyrwyr wedi astudio’r pwnc eto. Roedd byrddau trafod felly’n ffordd o ail-greu’r drafodaeth y gallem fod wedi’i chael yn y dosbarth, ac yn sgil hynny fe gafwyd dros 900 o bostiadau yn ystod y semester.

Pam wnaethoch chi ddefnyddio’r offer hwn?

Dewisais yr offer hwn gan ei fod yn rhwydd iawn ei ymgorffori yn y strwythur dysgu wedi’i recordio a chyfeirio myfyrwyr ato ar yr adeg berthnasol yn eu hastudiaethau. Roedd gan bob darlith a recordiwyd dri ‘phwynt trafod’ wedi’u cynllunio i gyflawni deilliannau dysgu yn ymwneud â chymhwyso dysgu. Ar ôl gweithio trwy gynnwys dysgu ar-lein ar bwnc, gofynnai’r pwynt trafod iddynt rannu eu profiad neu enghraifft berthnasol, a dechrau sgwrs ddyfnach am gymhwyso damcaniaeth i’r byd go iawn.

Sut wnaethoch chi gynllunio’r gweithgarwch hwn yn defnyddio’r offer hwn?

Yn PowerPoint y ddarlith a recordiwyd, defnyddiais eicon cyson i nodi trafodaeth, yna cynnwys cyfarwyddiadau y dylent oedi’r fideo, gwneud rhai nodiadau, yna pan fyddant wedi gorffen y ddarlith, mynd i’r ‘gofod trafod’ a rhannu eu meddyliau.

Mi wnes i hefyd ddefnyddio swyddogaeth y bwrdd trafod i osod a derbyn gweithgareddau ‘tasg gydweithredol’. Fe allen nhw ddarllen y briff ar frig yr edefyn, ac yna postio allbynnau eu grwpiau yn yr edefyn. Yr enw arno oedd ‘Safle cydweithredu’ ond defnyddio offer y bwrdd trafod yr oedd.

Beth yw barn myfyrwyr am yr offer hwn?

Rwy’n credu ei fod yn gymysg, wnaeth rhai myfyrwyr ddim cymryd rhan o gwbl, er i’r mwyafrif wneud hynny (cofiwch eu bod yn cael marciau am gymryd rhan ac ymgysylltu). Cyfeiriodd sawl myfyriwr at y byrddau trafod yn eu hadborth yn yr holiadur gwerthuso modiwl:

“Roeddwn i wrth fy modd â’r modiwl hwn. Roedd yr athrawes yn rhagorol, ac roedd hi’n glir ei ffocws trwy gydol y modiwl. Y bwrdd trafod oedd rhan orau’r modiwl gan ei fod yn rhoi lle inni gymhwyso’r damcaniaethau. Drwyddi draw, un o’r modiwlau gorau yn fy mlwyddyn gyntaf.”

“Gyda phopeth oedd yn digwydd, mae’r modiwl hwn wedi cael ei redeg yn dda iawn y semester hwn. Mae llawer o gynnwys ar-lein i’w wneud ac mae’r fforymau i fyfyrwyr drafod y pynciau dan sylw wedi ei wneud yn fodiwl difyr iawn.”

A oes gennych unrhyw awgrymiadau i bobl sydd eisiau defnyddio’r offer hwn?

Dylech ei gwneud hi’n glir iawn beth rydych chi’n gofyn iddyn nhw ei wneud a ble gallan nhw ddod o hyd iddo. Anogwch y myfyrwyr i lwytho rhith-ffurf (avatar) fel nad yw’r drafodaeth mor ddi-wyneb. Yn sicr ar gyfer modiwlau blwyddyn 1, ystyriwch ddyfarnu marciau am gymryd rhan ac ymgysylltu â phethau fel byrddau trafod, wici ac ati. Mae adroddiadau Blackboard yn rhoi ffordd gyflym a hawdd i chi weld pwy sy’n gwneud beth, ble a phryd.

Diolch o galon i Dr Martine Garland am rannu’r astudiaeth achos hon. Os hoffech ddysgu rhagor am fwrdd trafod, edrychwch ar bostiad Offer Blackboard ar gyfer Gwaith Grŵp (Blog-bost 4): Trafodaethau a’r cwestiynau a holir yn aml am fyrddau trafod.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*