Beth sy’n newydd yn Blackboard – Chwefror 2025

Yn niweddariad Chwefror, mae Blackboard wedi gwella llif gwaith Aseiniadau a Phrofion, ac wedi cyflwyno gwelliannau pellach i’r Cynorthwyydd Dylunio DA. Ceir opsiynau newydd hefyd i reoli a chreu cynnwys, a chywirdeb pellach wrth uwchlwytho graddau ac adborth.

Aseiniadau, Profion, Marcio a Graddau

Trosi aseiniadau presennol i’r llif gwaith aseiniadau newydd

Arferai’r llwythi gwaith Creu Prawf a Chreu Aseiniad rannu’r un gosodiadau cynnwys, ond gwahanwyd y llifau gwaith ers mis Awst diwethaf. Bydd diweddariad y mis hwn yn rhedeg trosiad swmp awtomatig o unrhyw aseiniadau a grëwyd cyn Awst 2024 i sicrhau bod pob aseiniad (gorffennol a phresennol) yn elwa o’r llif gwaith newydd. Gweler Blog Awst 2024 am fanylion pellach ar wahaniaethau’r llif gwaith.

Aseiniadau yn dilyn y trosi: Ni fydd unrhyw opsiwn i ychwanegu cwestiynau i aseiniadau a dim ond gyda myfyrwyr yn rhyngweithio â’r aseiniad y bydd ymgeisiadau’n cael eu creu, megis cyflwyno ffeil neu ychwanegu cynnwys. Ni fydd clicio ar yr aseiniad yn creu ymgais.

Profion yn dilyn y trosi: Bydd profion gyda chwestiynau yn aros yr un fath. Bydd unrhyw brofion heb gwestiynau yn cael eu gosod Yn guddiedig rhag y myfyrwyr. Pan fyddwch yn copïo profion o fodiwlau blaenorol, byddant hefyd yn cael eu gosod i Yn guddiedig rhag y myfyrwyr. Dilëwyd rhai opsiynau aseiniad-benodol o’r gosodiadau prawf.

  • Casglu cyflwyniadau all-lein
  • Defnyddiwch gyfeireb graddio
  • Uchafswm pwyntiau
  • 2 radd i bob myfyriwr
  • Adolygiad gan gymheiriaid

Yn ogystal, diweddarwyd y swyddogaeth ar gyfer opsiynau gwelededd myfyrwyr ac amodau rhyddhau ar gyfer profion. Bellach, rhaid i hyfforddwyr ychwanegu un neu fwy o gwestiynau at eu prawf i’w wneud yn weladwy i fyfyrwyr neu i ychwanegu amodau rhyddhau. Mae hyn yn sicrhau bod myfyrwyr ond yn gweld asesiadau y gallant ymgysylltu’n weithredol â nhw.

Delwedd 1: Panel gosodiadau gydag opsiynau aseiniad-benodol wedi’u dileu.

Settings panel with assignment-specific options removed

Cuddio Codau Mynediad ar gyfer Profion

Yn y gorffennol, pan oedd goruchwyliwr arholiad yn teipio cȏd mynediad ar gyfer arholiad ar-lein gan ddefnyddio Profion Blackboard, gwelid y cȏd ar y sgrȋn. Peryglai hyn ddiogelwch yr amgylchedd profi. Mae’r cȏd bellach wedi’i guddio (******) i sicrhau gwell diogelwch. Ceir opsiwn i weld y cȏd, ond cuddiedig yw’r cyflwr diofyn ac mae hyn yn darparu gwell preifatrwydd a diogelwch yn ystod arholiadau.

Delwedd 2: Cȏd mynediad wedi’i guddio.

Screenshot of Masked Access Code

Gwell cywirdeb wrth uwchlwytho graddau ac adborth

Gall hyfforddwyr nawr uwchlwytho graddau ac adborth ar gyfer aseiniadau, dyddlyfrau a thrafodaethau gyda chywirdeb gwell. Cyn hyn, byddai graddau a uwchlwythwyd bob amser yn cael eu storio ar y lefel gwrthwneud, a oedd yn gadael unrhyw ymgeisiadau neu gyflwyniadau drafft heb eu graddio. Achosodd hyn i’r baneri Angen Graddio a Chyflwyniad Newydd aros yn weladwy, hyd yn oed pan oedd graddio wedi’i gwblhau all-lein. Mae graddau ac adborth wedi’u llwytho i fyny bellach wedi’u mapio’n gywir i’r ymgais neu gyflwyniad cyfatebol sy’n lleihau dryswch ac yn rhoi gwell eglurder i hyfforddwyr. Gweler y canllawiau ar Weithio All-lein gyda Data Gradd am ragor o wybodaeth.

Cynorthwy-ydd Dylunio DA

Creu mwy o gwestiynau a Modiwlau Dysgu

Wrth ddefnyddio’r Cynorthwyydd Dylunio AI, gall hyfforddwyr nawr osod nifer y cwestiynau a gynhyrchir ar gyfer profion a banciau cwestiynau i uchafswm o 20. Cynyddodd uchafswm nifer y modiwlau dysgu y gellir eu creu gyda’r Cynorthwy-ydd Dylunio AI hefyd i 20. Mae yna opsiwn ychwanegol hefyd i eithrio disgrifiadau o fodiwlau dysgu a gynhyrchwyd gan y Cynorthwyydd Dylunio AI. Bellach mae gan hyfforddwyr yr opsiwn i ysgrifennu eu disgrifiadau eu hunain.

Delwedd 3: Mae’r dudalen ‘Auto-Generate Questions’ yn dangos uchafswm newydd o 20 cwestiwn.

Screenshot of the Auto-Generate Questions page displays a new maximum number of questions of 20.

I gael rhagor o wybodaeth am yr offer sydd ar gael gyda Chynorthwyydd Dylunio DA gweler Offer Cynorthwyydd Dylunio DA

Rheoli a Chreu Cynnwys

Bloc Delwedd Newydd wrth greu Dogfen

Mae Blackboard wedi ychwanegu bloc delwedd newydd at Ddogfennau. Defnyddir blociau delwedd i uwchlwytho’ch delweddau eich hun, defnyddio Cynorthwyydd Dylunio DA i gynhyrchu delweddau, neu ddewis delweddau o ‘Unsplash’. Gellir symud blociau delwedd trwy’r ddogfen, yn union fel mathau eraill o flociau. Mae gennych yr opsiwn i newid maint delweddau, gosod uchder, a chynnal cymarebau agwedd mewn blociau delwedd.

Delwedd 4: Yr opsiwn bloc delwedd newydd yn Dogfennau.

A screenshot of the new image block option in Documents.

Mae bloc delwedd pwrpasol yn gwneud ychwanegu delweddau yn fwy amlwg. Mae ychwanegu delweddau trwy’r bloc delwedd hefyd yn lleihau gofod gwyn o amgylch delweddau ac yn darparu mwy o reolaeth dros ddyluniad cynnwys. I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio Dogfennau yn Blackboard gweler Gwelliannau i Ddogfennau.

Newid Ffolderi i Fodylau Dysgu

Gall hyfforddwyr nawr newid ffolder i fodiwl dysgu neu fodiwl dysgu yn ffolder. Mae manteision newid ffolder i fodiwl dysgu yn cynnwys:

  • Delweddau bawd: Daw modiwlau dysgu gyda delweddau bawd, sy’n darparu profiad cwrs sy’n apelio yn weledol.
  • Dilyniant gorfodol: Gall hyfforddwyr orfodi myfyrwyr i lywio modiwlau dysgu mewn llwybrau llinol.
  • Bar cynnydd: Mae gan fodiwlau dysgu far cynnydd ar gyfer myfyrwyr sy’n amlygu nifer yr eitemau y mae angen iddynt eu cwblhau a’u dilyniant ar yr eitemau hynny.
  • Llywio blaenorol ac nesaf: Gall myfyrwyr lywio’n gyflym i’r eitem nesaf neu flaenorol mewn modiwl dysgu.

Mae hefyd yn bosibl trosi modiwl dysgu yn ffolder, er na fyddem yn argymell hyn gan y bydd yn dileu’r manteision ychwanegol a rhestrwyd uchod.

Delwedd 5: Yr opsiwn newydd i newid ffolder i fodiwl dysgu yn y gwymplen.

Screenshot of the new option to change a folder to a learning module in the dropdown menu.

Cyfnewidfa Syniadau Blackboard (Idea Exchange)

Nod yr adran hon yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwelliannau y gofynnwyd amdanynt ar Gyfnewidfa Syniadau Blackboard. Mae’r tair eitem ganlynol wedi newid eu statws i ‘Cynllunio i weithredu’:
• Cefnogaeth ar gyfer ‘Modd Tywyll’ mewn Cyrsiau Ultra
• Y gallu i ychwanegu metadata at gwestiynau mewn profion a banciau
• Trefnu Cronfeydd Cwestiynau

Os oes gennych gais ar gyfer unrhyw welliannau i Blackboard, cysylltwch gyda’r Grŵp Addysgu Ddigidol.

Beth sy’n newydd yn Blackboard Ionawr 2025

Yn y diweddariad ym mis Ionawr, mae Blackboard wedi gwella’r Cynorthwyydd Dylunio DA trwy ychwanegu mwy o ieithoedd a gwella’r nodweddion Awto-gynhyrchu. Yn ogystal, mae nodweddion newydd ar gyfer Creu Dogfennau ac Amodau Rhyddhau.

Cynnyrch Cynorthwyydd Dylunio DA

Mae Blackboard wedi gwella’r nodweddion awto-gynhyrchu yn y Cynorthwyydd Dylunio DA i gael allbwn cyflymach a mwy cymhlyg. Wrth awto-gynhyrchu modiwlau dysgu er enghraifft, y cyfan sydd ei angen arnoch yw ychydig frawddegau i ddisgrifio’r Modiwlau, ac mae’r Cynorthwyydd Dylunio DA yn creu disgrifiadau hirach sy’n canolbwyntio’n ddyfnach ar y pwnc:

Delwedd 1: Delwedd o Fodiwlau Dysgu a gynhyrchwyd yn awtomatig, gyda’r gwelliannau diweddaraf (ar y dde) er cymhariaeth.

Yn ogystal â modiwlau dysgu, maent yn cynnwys gwelliannau ar gyfer awto-gynhyrchu: Aseiniadau, Trafodaethau, Cyfnodolion, Cwestiynau prawf ac Avatar Sgwrsio DA. Gweler ein tudalennau gwe i gael rhagor o wybodaeth am y Cynorthwyydd Dylunio DA ac mae sesiynau hyfforddi hefyd ar gael yma.

Mwy o ieithoedd yn y Cynorthwyydd Dylunio DA

Mae’r Cynorthwyydd Dylunio DA bellach yn cynnwys allbynnau iaith estynedig. Mae llifoedd gwaith DA bellach yn gweithio mewn Groeg, Catalaneg, Croateg, Gwyddeleg a Slofeneg. Am restr gyflawn o’r ieithoedd sydd ar gael ar gyfer allbynnau DA, cyfeiriwch at dudalen cymorth Blackboard Cynorthwyydd Dylunio DA i Hyfforddwyr. Gweler isod am gyfarwyddiadau ynghylch sut i newid yr iaith:

Delwedd 2: Mae newid iaith yr allbwn ar gael fel opsiwn datblygedig yn y Cynorthwyydd Dylunio DA.

Cofnodi gradd yn uniongyrchol o’r wedd Grid

Gall hyfforddwyr nawr gofnodi graddau aseiniad yn uniongyrchol i’r wedd Grid (a ddewisir drwy ddewis y tab Marciau yn y Llyfr Graddau) gyda gwell cywirdeb a chysondeb.

Delwedd 3: Sgrinlun o’r tab Marciau yn y Llyfr Graddau.

Yn flaenorol, roedd graddau a gofnodwyd yn y gweddau hyn yn cael eu storio ar y lefel diystyru (override), a oedd yn peri dryswch gan fod ymdrechion sylfaenol yn parhau heb eu graddio ac yn parhau i ddangos y baneri Angen Graddio a Chyflwyniad Newydd. Mae’r diweddariad diweddaraf hwn yn sicrhau bod graddau a gofnodir fel hyn yn cael eu mapio’n briodol i’r ymgais neu’r cyflwyniad sylfaenol pan fo’n berthnasol.

NODER: Mae’r nodwedd hon yn berthnasol yn unig yn y tab Marciau, mae graddau’n parhau i gael eu dangos fel diystyru (override) os ydych yn wedd Eitemau y gellir eu marcio. Hefyd, mae graddau a gofnodir trwy uwchlwytho ffeil yn parhau i gael eu storio fel graddau diystyru (override).

Blociau cynnwys i ddylunio Dogfennau

Mae Blackboard wedi gwella’r dylunydd cynnwys wrth greu dogfennau sy’n ei gwneud hi’n llawer haws ei ddefnyddio. Pan fydd hyfforddwyr yn creu neu’n golygu dogfen, nid yw’r bloc cynnwys bellach yn cau pan fyddwch chi’n cywasgu’r ddewislen yn y golygydd. Hefyd, nid yw’r golygydd bellach yn cau wrth olygu gosodiadau tabl. Am ragor o wybodaeth am ddogfennau gweler: Blackboard Learn Ultra: Gwelliannau i Ddogfennau.

Uwchlwytho ffeiliau ar gyfer Dogfennau

Mae’r diweddariad hwn wedi diweddaru’r opsiwn ffeil diofyn pan fydd hyfforddwyr yn uwchlwytho ffeiliau i ddogfennau. Yr opsiwn ffeil diofyn nawr yw Gweld a lawrlwytho ffeil. Mae hi hefyd bellach yn bosibl defnyddio’r nodweddion Dadwneud ac Ail-wneud ar gyfer llwytho ffeiliau. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn os ydych chi wedi uwchlwytho ffeil anghywir i’ch dogfen, gallwch glicio ar y nodwedd ‘dadwneud’.

Delwedd 4: Nodweddion ‘Dadwneud’ ac ‘Ail-wneud’ wedi’u hamlygu isod.

Ychwanegu cynigion cyflwyno ar gyfer amodau rhyddhau

Nawr gallwch ddefnyddio statws cyflwyno eitem ar gyfer amod rhyddhau. Er enghraifft, byddai hyfforddwr sydd eisiau i fyfyrwyr gael mynediad at ddogfen ar ôl cyflwyno cwis yn defnyddio amod rhyddhau. Gall myfyrwyr weld eitemau cynnwys heb orfod aros i radd gael ei phostio.

Delwedd 5: Yr opsiwn Cyflwynwyd ymgais yn y gwymplen ar gyfer eitem graddadwy yn y panel amod Rhyddhau.