Mae staff addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gwneud defnydd rhagorol o swyddogaethau sylfaenol Blackboard, maent yn ei gadw’n gyson ac yn hylaw, gan gyflawni anghenion eu myfyrwyr. Mae rhai aelodau o staff yn mynd y tu hwnt i Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard, gan ddefnyddio swyddogaethau rhyngweithiol ychwanegol mewn nifer o wahanol ffyrdd creadigol. O ystyried y pwyslais presennol ar ddysgu ar-lein a defnydd o weithgareddau ar-lein wedi’u recordio hoffem gyflwyno i chi rai o’r offerynnau uwch (ond sy’n dal yn hawdd eu defnyddio!) sydd yn Blackboard:
- Dyddiaduron a Blogiau
- Wikis
- Profion
Rydym ni eisoes wedi ysgrifennu am y bwrdd trafod – y mwyaf hyblyg o offerynnau Blackboard o bosibl. Yn y blog hwn byddwn yn canolbwyntio ar flogiau a dyddiaduron a’r gwerth y gallai’r offerynnau hyn ei ychwanegu i’ch addysgu.
Mae dyddiaduron a blogiau, a ysgrifennir fel arfer mewn arddull anffurfiol, yn offerynnau sy’n cynnig eu hunain ar gyfer adfyfyrio a mynegiant personol. Pennir y gwahaniaeth o ran eu defnydd gan y bwriad i’w rhannu gydag eraill ai peidio. Gellir sefydlu dyddiaduron yn Blackboard mewn un o ddwy ffordd:
- Dyddiaduron preifat: ni all y rhain fod yn ddienw, a dim ond y darlithydd a’r myfyriwr a’u hysgrifennodd sy’n eu gweld. Gellir galluogi i fyfyrwyr eraill eu gweld ond nid i wneud sylwadau na golygu.
- Dyddiaduron grŵp: mae’r rhain yn galluogi i fyfyrwyr ysgrifennu cofnodion unigol mewn un dyddiadur grŵp. Gall aelodau o’r grŵp weld a gwneud sylwadau ar yr holl gofnodion.
Gwyliwch diwtorial ar greu dyddiaduron




