Mae Lauren Harvey a Caroline Whitby, o Adran y Gyfraith a Throseddeg, wedi ennill Gwobr Cwrs Eithriadol am fodiwl LC31520: Dispute Resolution in Contract and Tort.
Yn ogystal, cafodd y modiwl canlynol statws Canmoliaeth Uchel:
Panna Karlinger o Ysgol Addysg am fodiwl ED20820: Making Sense of the Curriculum
Nod y Wobr Cwrs Eithriadol, a sefydlwyd naufed mlynedd yn ôl, yw rhoi cydnabyddiaeth i’r arferion dysgu gorau. Mae’n rhoi cyfle i aelodau staff rannu eu gwaith gyda’u cydweithwyr, gwella eu modiwlau presennol ar Blackboard, a chael adborth er mwyn gwella.
Caiff modiwlau eu hasesu ar draws 4 maes: cynllun y cwrs, rhyngweithio a chydweithio, asesu, a chymorth i ddysgwyr. Mae natur y wobr, sy’n seiliedig ar hunanasesiad, yn rhoi cyfle i’r aelodau staff ystyried eu cyrsiau a gwella agweddau ar eu modiwlau cyn i banel asesu bob cais yn erbyn y cyfarwyddyd.
Hoffai’r panel a’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch i’r holl ymgeiswyr am yr amser a’r ymdrech a roddwyd i’r ceisiadau ac i’r modiwlau eleni.
Rydym yn edrych ymlaen at gael mwy o geisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf a llongyfarchiadau mawr i enillwyr gwobr eleni.
Y mis hwn, mae Blackboard yn cyflwyno’r gallu i weld ystadegau eitem yn y Llyfr Graddau, y gallu i osod asesiadau heb ddyddiad cyflwyno a rhai newidiadau i hysbysiadau am negeseuon
Ystadegau eitemau Llyfr Graddau
Mae ystadegau eitemau yn rhoi golwg gyffredinol i ni ar berfformiad cyffredinol aelodau’r cwrs ar gynnwys wedi’i raddio. Nawr, gall hyfforddwyr ddewis colofn yn y llyfr graddau i gael mynediad at ystadegau cryno ar gyfer unrhyw eitem sydd wedi’i graddio. Mae’r dudalen ystadegau yn dangos metrigau allweddol megis:
Isafswm ac uchafswm gwerth
Ystod
Cyfartaledd
Canolrif
Gwyriad safonol
Amrywiant
Mae nifer y cyflwyniadau sydd angen graddio a dosbarthiad graddau hefyd yn dangos.
Llun isod: Mynediad i ystadegau eitemau o’r wedd Grid
Llun isod: Mynediad i ystadegau eitemau o’r wedd Eitemau Graddadw
Llun isod: Tudalen Ystadegau Eitemau
Opsiwn am Dim Dyddiad Cyflwyno ar asesiad
Mae dyddiadau cyflwyno yn agwedd bwysig ar y broses addysgu a dysgu. Mewn rhai sefyllfaoedd, fel dysgu ar eich cyflymdra eich hun, efallai na fydd hyfforddwr eisiau ysgogi gosod dyddiad cyflwyno. Er mwyn gwneud yr opsiwn ar gyfer peidio â chael dyddiad cyflwyno yn fwy amlwg, rydym wedi ychwanegu opsiwn “Dim dyddiad cyflwyno” ar gyfer Profion ac Aseiniadau.
Llun isod: Panel Gosodiadau Prawf yn dangos yr opsiwn newydd “Dim dyddiad cyflwyno”
Fe wnaethom ddiweddaru’r dyddiad a’r amser diofyn i ddyddiad yfory am 11:59yh.
Llun isod: Panel Gosodiadau Prawf yn dangos y dyddiad cyflwyno ac amser diofyn newydd.
Efallai y bydd achosion pan fydd y dewis “Dim dyddiad cyflwyno” yn gwrthdaro â’r gosodiadau Canlyniadau Asesu. Pan fydd hyn yn digwydd, gofynnir i’r hyfforddwr adolygu’r gosodiadau.
Llun isod: Mae baner rybuddio yn ymddangos pan fydd y dewis “Dim dyddiad cyflwyno” yn gwrthdaro â’r gosodiadau Canlyniadau Asesu.
Gall hyfforddwyr lywio i’r adran Canlyniadau Asesu yn y Gosodiadau trwy’r ddolen yn y faner.
Llun isod: Dewisiadau amseru canlyniadau asesu pan nad oes dyddiad cyflwyno.
Noder, ar gyfer asesiad crynodol sydd â llawer yn y fantol, rydym yn dal i gynghori cael dyddiad ac amser cyflwyno. I drafod eich gofynion o ran gosodiadau profion, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).
Dangosyddion cyhoeddiadau a marcio cyhoeddiadau fel wedi eu darllen/heb eu darllen
Mae cyhoeddiadau yn sianel gyfathrebu bwysig o fewn cwrs. Mae’n bwysig helpu i greu ymwybyddiaeth o gyhoeddiadau newydd a rheolaethau wedi eu darllen/heb eu darllen.
Nawr, mae yna ddangosydd rhif wrth ymyl y tab cyhoeddiad yn y cwrs. Mae’r dangosydd yn dangos nifer y cyhoeddiadau heb eu darllen sydd ar gael.
Yn ogystal, gall myfyrwyr nawr nodi cyhoeddiadau fel rhai sydd wedi eu darllen neu heb eu darllen. Ar y naidlen Cyhoeddi Cwrs Newydd, mae gan ddefnyddwyr y dewis i nodi’r statws darllen. Gall myfyrwyr hefyd nodi cyhoeddiadau fel rhai wedi’u eu darllen neu heb eu darllen o’r dudalen Cyhoeddiad.
Llun isod: Nifer y Cyhoeddiadau heb eu darllen wrth ymyl y tab Cyhoeddiad
Llun isod: Naidlen Cyhoeddiadau gyda’r opsiwn i farcio fel wedi ei ddarllen/heb ei ddarllen
Llun isod: Tudalen Cyhoeddiadau gyda’r opsiwn i farcio fel wedi ei ddarllen/heb ei ddarllen
Llun isod: Paru cyhoeddiad a dangosyddion negeseuon ar gyfer cysondeb
Nodyn i’ch atgoffa: Mynediad at Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs ac anfon neges at fyfyrwyr ohono.
Mae’r adroddiad Gweithgaredd y Cwrs yn eich helpu i ddeall pa mor dda mae’ch myfyrwyr yn perfformio a faint maen nhw’n rhyngweithio â’ch cwrs. Mae’r Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs yn galluogi Hyfforddwyr i:
Anfon neges at fyfyrwyr sydd ar ei hôl hi a’u hannog i gynyddu eu gweithgaredd ar y cwrs
Adnabod myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd yn seiliedig ar eu gradd gyffredinol, dyddiadau cyflwyno a gollwyd, nifer yr oriau y maent yn eu treulio yn eich cwrs, a nifer y diwrnodau ers eu mynediad diwethaf
Llongyfarch myfyrwyr sy’n perfformio’n dda yn eich cwrs a gofyn iddynt fod yn fentoriaid
Addasu rhybuddion eich cwrs i adnabod myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd pan fydd eu gradd gyffredinol yn gostwng o dan werth penodol, sydd wedi colli dyddiadau cyflwyno, neu nad ydynt wedi ceisio cael mynediad i’r cwrs ers nifer penodol o ddiwrnodau.
Lawrlwytho’r wedd tabl i ffeil CSV (gwerthoedd wedi’u gwahanu gan atalnodau) i ddadansoddi’r data gydag adnoddau eraill
Lawrlwytho’r plot gwasgariad fel PDF neu ddelwedd i rannu gwybodaeth gyda hyfforddwyr neu fentoriaid eraill y cwrs
I gael mynediad i’r Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs dewiswch Gweithgaredd y Cwrs yn nhab Dadansoddeg eich cwrs.
Llun isod: Cael mynediad at Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs o’r tab Dadansoddeg
Anfon Negeseuon
Gall hyfforddwyr ddewis myfyrwyr ac anfon negeseuon atynt o Weithgaredd y Cwrs trwy ddewis y botwm Anfon Neges. Pan fyddwch yn anfon neges at nifer o fyfyrwyr, bydd pob myfyriwr yn derbyn neges unigol ac ni fyddant yn gwybod pa fyfyrwyr eraill sydd wedi’u cynnwys.
Llun isod: Myfyriwr a ddewiswyd i gysylltu â nhw a’r botwm Anfon neges wedi’i amlygu
Nodyn i’ch atgoffa: Graddio Profion gyda Graddio Hyblyg
Mae’n bosib graddio profion naill ai yn ôl myfyriwr neu yn ôl cwestiwn —gan ei gwneud hi’n hawdd cymharu atebion ar draws y cwrs a sicrhau tegwch a chysondeb wrth raddio. Ar hyn o bryd mae marcio yn ôl myfyriwr wedi’i gyfyngu i gyflwyniadau di-enw. Bydd marcio cyflwyniadau dienw yn cael ei gynnwys mewn diweddariad yn y dyfodol
Yn ddiweddar cymeradwyodd y Pwyllgor Gwella Academaidd rai newidiadau i’r broses flynyddol o greu cyrsiau:
Bydd cyrsiau’n cael eu creu’n wag gyda thempled cymeradwy’r Brifysgol
Bydd creu cyrsiau bob amser yn digwydd ar y dydd Llun cyntaf ym mis Mehefin (dydd Llun 3 Mehefin fydd hyn y flwyddyn hon).
Mae rhai staff wedi gofyn am fwy o wybodaeth ynghylch pam y bydd y cwrsiau yn cael ei greu’n wag. Mae’r blog hwn wedi’i gynllunio i helpu i egluro’r rhesymau dros y penderfyniad hwn.
Yn y blynyddoedd blaenorol roedd y broses o gopïo cyrsiau yn cael ei wneud drwy ddefnyddio Building Blocks. Nid yw Building Blocks bellach yn cael ei gefnogi gan Blackboard ac ni ellir ei ddefnyddio (efallai y byddwch yn cofio mai dyma un o’r rhesymau dros symud i Ultra). Nid yw adnodd copïo cyrsiau Blackboard wedi’i ddiweddaru, felly nid oes gennym ffordd dechnegol o gopïo cyrsiau.
Mae’r llif gwaith copïo cyrsiau yn haws yn Ultra nag ydoedd yn y gwreiddiol. A chan y byddwn yn copïo o gyrsiau Ultra i Ultra, bydd modd i chi gopïo blociau mwy o gynnwys.
Mae cyrsiau gwag yn golygu y gellir defnyddio templedi wedi’u diweddaru a gosodiadau ychwanegol ar gyfer cyrsiau. Mae Blackboard wedi newid llawer ers yr haf diwethaf, ac mae yna osodiadau newydd a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer cyrsiau’r flwyddyn nesaf. I ddefnyddio’r rhain byddai angen i’r staff eu hychwanegu at bob cwrs â llaw.
Roedd copïau o’r cyrsiau blaenorol yn cynnwys colofnau llyfr graddau. Ar ôl sawl blwyddyn dechreuodd hyn achosi dryswch i’r staff a gwneud y llyfr graddau’n anodd ei lywio. Gallai copïo dolenni drosodd ar gyfer Turnitin, Panopto a Talis hefyd beri dryswch – nid yw’n hawdd dweud a yw’r dolenni hyn wedi cael eu diweddaru ai peidio, a byddai angen i staff wirio pob un â llaw.
Ni fydd rhai cyrsiau wedi’u creu yn Ultra (er enghraifft cyrsiau sy’n rhedeg bob dwy flynedd yn unig). Mae angen creu’r rhain yn wag fel cyrsiau Ultra beth bynnag.
Bydd creu cyrsiau gwag hefyd yn helpu i osgoi copïo cynnwys sydd wedi dyddio.
Mae gwybodaeth am sut i gopïo cynnwys ar gael o safle cymorth Blackboard. Bydd arweiniad a chefnogaeth ar gael dros yr haf, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.
Fel rhan o brosiect Blackboard Learn Ultra, rydym bellach yn troi ein sylw at Fudiadau yn barod ar gyfer Medi 2024.
Safleoedd ar Blackboard yw Mudiadau sydd at ddibenion anacademaidd. Yr un yw eu swyddogaeth â Chyrsiau Blackboard a gellir eu defnyddio i roi gwybodaeth, hyfforddiant ar-lein, a mynediad at ddeunyddiau. Yn wahanol i Gyrsiau, mae Mudiadau yn cael eu creu heb unrhyw dempled. Mae gan Fudiadau yr un nodweddion a swyddogaethau ymarferol â Chyrsiau.
Mae yna 3 math o Fudiad:
Mudiadau Adrannol
Mae gan bob adran 3 Mudiad adrannol: 1 ar gyfer myfyrwyr Israddedig, 1 ar gyfer myfyrwyr Uwchraddedig, ac 1 ar gyfer staff Adrannol. Mae’r rhain yn cael eu creu yn awtomatig.
Mudiadau Pwrpasol a Mudiadau Hyfforddi
Mudiadau yw’r rhain y mae unigolion wedi gofyn amdanynt. Gellir eu creu i gynnwys ffrydiau awtomatig, megis mathau o fyfyrwyr, myfyrwyr ar gynlluniau astudio penodol, neu aelodau o staff mewn adran benodol. Mae gan rai o’r Mudiadau hyn becynnau hyfforddi y gofynnir i ni eu gwneud.
Mudiadau Ymarfer
Mae’r rhain yn unigol ar gyfer pob aelod o staff ac nid oes myfyrwyr wedi cofrestru arnynt. Fel rhan o’r newid i Ultra, rydym wedi creu Mudiad Ymarfer Ultra personol i bob aelod o staff.
Wrth i ni symud i Blackboard Learn Ultra i Fudiadau, rydym wedi gweithio ar bolisi Mudiadau newydd sy’n amlinellu’r mathau o weithgareddau y gellir defnyddio Mudiadau ar eu cyfer yn ogystal â’u cyfnod cadw. Cymeradwywyd y polisi newydd hwn gan y Pwyllgor Gwella Academaidd ar 7 Chwefror a gellir ei weld ar ein tudalennau gwe.
Mudiadau Adrannol
Bydd Mudiadau Ultra Adrannol Newydd yn cael eu creu yn fuan ond ni fyddant ar gael i fyfyrwyr tan fis Medi 2024.
Bydd gan bob adran Fudiad ar wahân ar gyfer myfyrwyr Israddedig, Uwchraddedig, a Staff yn eu hadran.
Mae’r rhain ar ffurf:
DEPT-[llythyren adrannol]-UG (e.e. DEPT-N-UG)
Bydd myfyrwyr newydd ac aelodau newydd o staff yn cael eu ffrydio’n awtomatig i’r Mudiad unwaith y byddant wedi actifadu eu cyfrif. Unwaith y bydd y Mudiadau hyn ar gael, byddwn yn cysylltu â Chyfarwyddwyr Adrannol Dysgu ac Addysgu, Cofrestryddion y Cyfadrannau, a Phenaethiaid Adran i helpu i hwyluso’r symud i Fudiadau Ultra.
Mudiadau Pwrpasol a Mudiadau Hyfforddi
Mudiadau yw’r rhain y gofynnwyd amdanynt yn unigol at ddiben penodol. Nid ydym erioed wedi dileu Mudiad o’r blaen (oni bai y gofynnwyd am hyn).
Fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn:
Rhwystro mynediad i’r holl Fudiadau pwrpasol nad ydynt wedi cael eu defnyddio am 3 blynedd gyda’r bwriad o ddod â’r Mudiad i ben.
Cysylltu â’r rhai sy’n dal i fod â chyfrifoldeb am Fudiadau sy’n bodoli eisoes i weld a oes eu hangen a hwyluso’r newid i Ultra ar gyfer y Mudiadau hyn.
Mudiadau Ymarfer
Ar hyn o bryd mae gan aelodau o staff fynediad at ddau Fudiad Ymarfer – un yn Blackboard Original ac un yn Ultra.
Byddwn yn dod â Mudiadau Blackboard Originial i ben ym mis Medi 2024. Rhaid i gydweithwyr gopïo unrhyw ddeunyddiau y maent am eu cadw i fersiwn Ultra y Mudiad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Fudiadau, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).
Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn gyffrous iawn i rannu manylion y Ffurflenni newydd gyda chi a’r math newydd o gwestiynau Linkert a gyflwynwyd yn y diweddariad ym mis Chwefror.
Ffurflenni
Yn aml mae angen i hyfforddwyr gynnal arolwg yn eu dosbarth i gael amcan o ddiddordebau neu farn myfyrwyr ar ystod o bynciau o deithiau maes i adborth cwrs. Nawr, gall hyfforddwyr greu Ffurflen at y diben hwn.
Cefnogir yr eitemau canlynol mewn Ffurflen:
Cwestiwn Traethawd
Cwestiwn Likert
Cwestiynau amlddewis
Cwestiynau Cywir / Anghywir
Testun
Ffeil leol
Ffeil o storfa gwmwl
Toriad tudalen
Yn ddiofyn, nid yw Ffurflen yn cael ei graddio. Nid oes gan gwestiynau ar ffurflen atebion cywir neu anghywir. Nid yw ffurflenni’n ddienw ar hyn o bryd, bydd y nodwedd hon yn cael ei chynnwys mewn diweddariad yn y dyfodol.
Llun isod: Enghraifft o Ffurflen heb ei graddio. Ffurflen a ddefnyddir ar gyfer lleoliad addysgu clinigol
Efallai y bydd rhai hyfforddwyr yn dewis graddio Ffurflen i annog cyfranogiad. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i hyfforddwyr roi gradd â llaw ar gyfer pob cyflwyniad.
Gall hyfforddwyr weld cyflwyniadau Ffurflen yn ôl myfyriwr neu yn ôl cwestiwn yn y wedd raddio newydd.
Llun isod: Cyflwyniadau Ffurflen heb ei graddio yn ôl cwestiwn
Llun isod: Cyflwyniad Ffurflen wedi’i graddio yn ôl myfyriwr
Gall hyfforddwyr lawrlwytho canlyniadau’r Ffurflen o’r dudalen Llyfr Graddau a Chyflwyniadau fel taenlen Excel neu ffeil CSV.
Llun isod: Canlyniadau Ffurflen wedi’i Lawrlwytho o’r wedd Eitemau Graddadwy
Llun isod: Canlyniadau Ffurflen wedi’i Lawrlwytho ar gyfer y dudalen Cyflwyniadau
Yng ngwedd grid y Llyfr Graddau, mae cyflwyniadau myfyrwyr ar gyfer Ffurflen heb ei graddio yn ymddangos fel “Cyflwynwyd.” Mae Ffurflenni wedi’u graddio yn arddangos y radd a gofnodwyd â llaw neu statws graddio priodol.
Cwestiwn Likert
Mae cwestiynau Likert yn helpu i roi amcan meintiol o farn ac agweddau. Mae’r ymatebion yn aml yn amrywio o anghytuno’n gryf i cytuno’n gryf. Mae’r math hwn o gwestiwn bellach ar gael yn yr asesiad Ffurflen .
Llun isod: Gosod cwestiwn Likert
Mae gan yr ystod graddfa dri opsiwn yn ddiofyn, gyda labelu awgrymedig ar gyfer opsiynau un a thri fel anghytuno’n gryfacytuno’n gryf. Gall hyfforddwyr ddewis ystod o dri, pump neu saith opsiwn a labelu’r opsiynau fel yr hoffech. Gall hyfforddwyr hefyd ddewis cynnwys yr opsiwn ‘Ddim yn berthnasol’ .
Llun isod: Cwestiwn Likert enghreifftiol mewn arolwg diwedd uned
Noder: Mae cwestiwn Likert mewn arolwg a grëwyd yn y wedd cwrs Learn Original yn trosi/copïo i Ffurflen yng ngwedd cwrs Learn Ultra. Yr amrediad graddfa diofyn yw tri.
Isod ceir rhai o’r gwelliannau diweddaraf yn niweddariad mis Ionawr Blackboard Learn Ultra yr hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw Hyfforddwyr atynt.
Batch Edit: Newid i ddyddiad a/neu amser penodol.
Yn aml, mae hyfforddwyr eisiau newid y dyddiad a’r amser ar gyfer nifer o eitemau dethol yn eu cwrs ar yr un pryd. Y broblem gyda gwneud y newid hwnnw yw y byddai’n ddiflas iawn pe bai’n rhaid i chi newid un eitem ar y tro.
Gan ddefnyddio Batch Edit, gall hyfforddwyr nawr newid y dyddiad a/neu’r amser presennol ar gyfer eitemau a ddewiswyd. Mae’r un nodwedd hefyd yn gweithio ar ddyddiadau ac amseroedd ‘dangos ar’ a ‘chuddio ar ôl’.
Noder: Mae Batch edit ar gyfer dyddiadau/amser ond yn gweithio gydag eitemau sydd â gwerthoedd dyddiad ac amser sy’n bodoli eisoes. Ni chymhwysir dyddiad ac amser i eitemau nad oes ganddynt werth dyddiad neu amser.
Llun isod: Mynediad i Batch Edit o Gynnwys y Cwrs.
Llun isod: Newid i opsiwn dyddiad a/neu amser penodol ar gyfer Batch Edit.
Cyfrifiadau Colofn Cyfanswm a Phwysoliad.
Mae angen llyfr graddau ar hyfforddwyr sy’n cefnogi senarios graddio amrywiol. Mae’r llyfr graddau’n cefnogi creu colofnau wedi’u cyfrifo a gradd cwrs gyffredinol. Rydym yn ehangu nodweddion y llyfr graddau i gefnogi colofnau cyfrifo cyfanswm a phwysoliad. Mae’r mathau hyn o gyfrifiadau’n ddefnyddiol ar gyfer digwyddiadau neu gyfnodau penodol, megis arholiadau canol tymor neu arholiadau terfynol.
Gall colofnau cyfrifo cyfanswm fod yn gyfrifiadau seiliedig ar bwyntiau neu wedi’u pwysoli. Yn yr un modd â gosod Gradd Gyffredinol, gall hyfforddwyr gysylltu/dadgysylltu eitemau mewn categori yn y cyfrifo. Gallant hefyd ddewis eithrio categorïau o’r cyfrifo. Ar gyfer categori wedi’i gynnwys, gall hyfforddwyr olygu’r rheol gyfrifo. Mae’r rheol cyfrifo yn caniatáu i hyfforddwyr ollwng sgoriau neu i gynnwys y sgôr isaf neu uchaf yn y categori yn unig.
Efallai yr hoffai hyfforddwyr ddiffinio colofn cyfrifo cyfanswm at eu defnydd eu hunain. Yn yr achos hwn, gallant ddewis cuddio oddi wrth fyfyrwyr. Os dymunir, gall hyfforddwyr gynnwys colofn cyfrifo cyfanswm yn y cyfrifiad gradd gyffredinol.
Llun isod: Ychwanegu colofn Cyfrifo Cyfanswm o’r wedd Grid.
Llun isod: Ychwanegu colofn Cyfrifo Cyfanswm o’r wedd Eitemau Graddadwy.
Llun isod: Golygu Colofn Cyfrifo Cyfanswm wedi’i Bwysoli.
Llun isod: Diffinio rheolau ar gyfer colofn Cyfrifo Cyfanswm wedi’i Bwysoli.
Cofnodion ymgais am well uniondeb asesu ar gyfer Profion ac Aseiniadau Blackboard
Mae’r Cofnodion Ymgais yn nodwedd anhepgor ar gyfer dilysu materion y gallai myfyrwyr ddod ar eu traws yn ystod asesiad. Mae’r cofnodion hefyd yn helpu hyfforddwyr i adnabod arwyddion o anonestrwydd academaidd.
Noder: Gellir defnyddio cofnodion ymgais gyda Phrofion ac Aseiniadau Blackboard, ond nid gyda Turnitin.
Ar gyfer Profion, mae’r cofnodion yn darparu’r canlynol:
Gwybodaeth fanwl, gan gynnwys y dyddiad ac amser cychwyn a’r atebion i bob cwestiwn.
Manylion cwestiwn-benodol, megis rhif y cwestiwn, rhagolwg o’r cwestiwn, ac amcangyfrif o’r amser a dreulir ar bob cwestiwn.
Rhif derbynneb cyflwyno, gradd derfynol, a gradd ymgais.
Hawdd toglo rhwng pob ymgais sydd ar y gweill a phob ymgais a gyflwynwyd i sicrhau olrhain asesu cynhwysfawr.
Llun isod: Cofnod ymgais prawf gydag ymgeisiau lluosog a wnaed gan y myfyriwr
Ar gyfer Aseiniadau, mae’r cofnodion yn cynnig:
Dyddiad ac amser cychwyn a chyflwyno.
Rhif derbynneb cyflwyno.
Toglo rhwydd rhwng ymgeisiau gwahanol i gael gwedd cyfannol.
Llun isod: Cofnod ymgais Aseiniad.
Gall hyfforddwyr gael mynediad i’r Cofnodion Ymgais o ddwy brif ardal:
Dewislen Cyd-destun ar y Dudalen Gyflwyno – yn gyfyngedig i asesiadau unigol.
Tab Graddau o dan y Dudalen Trosolwg Myfyrwyr – ar gael ar gyfer asesiadau grŵp ac unigol.
Llun isod: Mynediad o’r tab Cyflwyno
Llun isod: Mynediad o’r tab Graddau o’r trosolwg myfyrwyr.
Ar gyfer asesiadau dienw, daw’r adroddiad yn weithredol ar ôl postio’r graddau a chodi’r anhysbysrwydd. Mae hyn yn sicrhau bod yr adroddiad Cofnodion Ymgais yn nodwedd gadarn hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle mae hunaniaethau myfyrwyr yn cael eu cuddio i ddechrau.
Gradd sy’n weladwy i fyfyrwyr yn y Llyfr Graddau pan fydd yr eitem wedi’i chuddio gan amodau rhyddhau.
Mae amodau rhyddhau yn darparu opsiynau ar gyfer llwybrau dysgu penodol trwy gynnwys y cwrs. Pan fydd hyfforddwyr yn gosod amodau rhyddhau, nid yw’r cynnwys ar gael nes bod myfyrwyr yn bodloni’r amodau hynny. Mae opsiwn i ‘Guddio’ cynnwys dethol rhag fyfyrwyr ar gael. Mae’r gosodiad hwn hefyd yn cuddio’r radd o wedd myfyrwyr y llyfr graddau.
Nawr, gall hyfforddwyr osod amodau rhyddhau heb boeni am guddio graddau. Waeth beth fo’r gosodiad yn “Pryd fydd y cynnwys yn ymddangos?” gall myfyrwyr weld y radd. Mae holl nodweddion eraill yr amodau rhyddhau yn aros yr un peth.
Llun isod: Gosodiadau amodau rhyddhau gyda dyddiad/amser yr amod rhyddhau wedi’i osod ar y cyd â’r cyflwr cuddio yn “Pryd fydd y cynnwys yn ymddangos?”
Llun isod: Gwedd llyfr graddau myfyrwyr yn dangos gradd y myfyriwr waeth beth fo gosodiad yr amod rhyddhau yn y llun uchod.
Noder: Mae’n dal yn bosibl i Hyfforddwyr guddio graddau a cholofnau Llyfr Graddau os bydd hyn yn angenrheidiol at ddibenion byrddau arholi neu gymedroli. Unwaith y bydd y Prawf neu’r Asesiad cysylltiedig wedi’i gwblhau; Cliciwch ar y golofn yn y Llyfr Graddau, dewiswch Golygu, yna addaswch yr Amodau Rhyddhau i Cuddio rhag Fyfyrwyr.
Llun isod: Newid Amodau Rhyddhau i Cuddio rhag Fyfyrwyr.
Nodwedd rheoli ffeiliau nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Er mwyn helpu hyfforddwyr i ddeall y defnydd a wneir o’r ffeiliau yn eu cwrs a lleihau eu hôl troed digidol, mae Blackboard wedi creu’r nodwedd Ffeiliau heb eu Defnyddio. Mae’r nodwedd hon yn helpu hyfforddwyr i ddod o hyd i ffeiliau cwrs a dileu’r rhai nad ydynt yn cael eu defnyddio. Gall hyfforddwyr ddod o hyd i’r nodwedd Ffeiliau heb eu Defnyddio yn y ddewislen tri dot ar dudalen Cynnwys y Cwrs.
Llun isod: Nodwedd Ffeiliau heb eu Defnyddio.
Mae dwy wedd ar gael: ffeiliau heb eu defnyddio (gwedd ddiofyn) neu pob ffeil. Enw’r ffeil, dyddiad uwchlwytho, ac arddangos maint y ffeil ynghyd ag opsiwn i lawrlwytho copi o’r ffeil leol. Gall hyfforddwyr ddileu ffeiliau heb eu defnyddio’n hawdd.
Ydych chi erioed wedi meddwl beth mae’r deialau wrth ymyl eich cynnwys yn ei olygu yn Blackboard?
Ydych chi wedi gweld Adroddiad Hygyrchedd Ally yn eich cwrs Blackboard ond ddim yn siŵr beth i’w wneud ag ef?
Ydych chi am wneud eich cynnwys Blackboard yn fwy hygyrch, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau?
Os mai YDW yw eich ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, fe allai’r cwrs Cyflwyniad i Ally newydd fod yn addas i chi.
Ac os ydych chi’n pendroni beth yw Ally hyd yn oed, yna mae’r cwrs hwn yn bendant yn addas i chi.
Hanfodion E-Ddysgu: Bydd y cwrs Cyflwyniad i Blackboard Ally (26 Chwefror) yn mynd â chi drwy’r pethau sylfaenol o ddefnyddio Ally i wirio a datrys problemau hygyrchedd mewn dogfennau yr ydych wedi’u huwchlwytho i Blackboard. Cyflwynwyd Ally nôl ym mis Medi (gweld y blog sy’n cyflwyno Ally) ac mae ar gael ym mhob un o gyrsiau Blackboard 2023-24.
Os oes gennych ddiddordeb mewn creu dogfennau hygyrch gan ddefnyddio offer mewn pecynnau Microsoft Office megis Word a PowerPoint, mae gennym hefyd sesiwn Creu Deunyddiau Dysgu Hygyrch sy’n rhedeg ar 7 Mawrth.
Ar gyfer cydweithwyr a allai fod yn newydd i’r Brifysgol, cydweithwyr sy’n dychwelyd o absenoldeb ymchwil a chyfnodau eraill o absenoldeb, a’r rhai sydd eisiau gloywi, rydym yn rhedeg ein Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard Learn Ultra ym mis Ionawr
Mae gennym ein canllaw Blackboard Learn Ultra i staff ar ein tudalennau gwe yn ogystal â rhestr chwarae i’ch tywys drwy osod eich Modiwl Blackboard Learn Ultra.
Y mis hwn hoffai’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu dynnu sylw at dri o welliannau i Hyfforddwyr yn niweddariad Blackboard Learn Ultra ym mis Rhagfyr.
Opsiynau mewnosod delwedd ychwanegol
Mae delweddau’n helpu i wella dealltwriaeth o gynnwys y cwrs a’r ymgysylltiad ag ef. Mae hyfforddwyr a myfyrwyr eisiau defnyddio delweddau o ansawdd uchel mewn cynnwys a chyflwyniadau. Er mwyn helpu â hyn, mae botwm delwedd newydd wedi’i ychwanegu i’r golygydd cynnwys yn y mannau canlynol:
Cyhoeddiadau
Cwestiynau Asesu
Atebion myfyrwyr ar gwestiynau (uwchlwytho ffeiliau lleol yn unig)
Adborth cyflwyno (gwedd safonol)
Cofnodion a sylwadau mewn dyddlyfrau
Llun isod: Gwedd hyfforddwr – botwm delwedd ar olygydd cynnwys ar gyfer Cyhoeddiadau
Graddio hyblyg – rheoli didoli ar y tab myfyrwyr
Gall graddio nifer fawr o gyflwyniadau heb ffordd i’w trefnu fod yn ddiflas. Nawr, gall hyfforddwyr gymhwyso gwahanol opsiynau didoli gyda graddio hyblyg:
Dyddiad cyflwyno (hynaf – diweddaraf) o’r ymgais ddiweddaraf
Dyddiad cyflwyno (hynaf – diweddaraf) o’r ymgais ddiweddaraf
Cyfenw (A – Y)
Cyfenw (Y – A)
Enw Cyntaf (A – Y)
Enw Cyntaf (Y – A)
Cyfeirnod Myfyriwr (esgynnol)
Cyfeirnod Myfyriwr (disgynnol)
Mae’r rhyngwyneb graddio yn storio’r opsiwn didoli a ddefnyddiwyd fwyaf diweddar. Os yw hyfforddwr yn rhoi’r gorau i raddio asesiad ac yn ailddechrau graddio yn ddiweddarach, cymhwysir yr opsiwn didoli olaf.
Hefyd, os ydych yn didoli’r cyflwyniadau yn ôl cyfenw neu statws graddio, mae’r opsiwn didoli a ddewiswyd yn cario drosodd i’r rhyngwyneb graddio.
Llun isod: Opsiynau didoli fel y dangosir o’r tab Myfyrwyr yn y graddio hyblyg.
Eithriadau dyddiadau cyflwyno asesiadau grŵp
Efallai y bydd hyfforddwyr am bennu dyddiadau cyflwyno gwahanol ar gyfer pob grŵp sy’n gweithio ar asesiad grŵp.
Yn y gorffennol, nid oedd unrhyw ffordd i glustnodi dyddiadau cyflwyno amrywiol ar gyfer pob grŵp sy’n gweithio ar asesiad grŵp. Nawr, gall hyfforddwyr neilltuo dyddiad cyflwyno unigryw i bob grŵp gan ddefnyddio’r llif gwaith eithriadau.
Ar y dudalen Cyflwyniadau yn yr asesiad grŵp, gall yr hyfforddwr ychwanegu neu olygu eithriadau ar gyfer grŵp.
Llun isod: Gwedd hyfforddwyr – ychwanegu neu olygu opsiwn eithriadau ar y dudalen Cyflwyniadau asesiad grŵp.
Mae’r panel Eithriadau yn dangos gwybodaeth berthnasol megis enw’r aseiniad ac enw’r grŵp dethol. Mae hyn yn helpu i sicrhau cywirdeb eithriad. Gall hyfforddwyr ddewis dyddiad cyflwyno ar gyfer y grŵp gan ddefnyddio’r dewisydd dyddiad ac amser.