Beth sy’n Newydd yn Blackboard Learn Ultra – Mawrth 2024

Y mis hwn, mae Blackboard yn cyflwyno’r gallu i weld ystadegau eitem yn y Llyfr Graddau, y gallu i osod asesiadau heb ddyddiad cyflwyno a rhai newidiadau i hysbysiadau am negeseuon

Ystadegau eitemau Llyfr Graddau

Mae ystadegau eitemau yn rhoi golwg gyffredinol i ni ar berfformiad cyffredinol aelodau’r cwrs ar gynnwys wedi’i raddio. Nawr, gall hyfforddwyr ddewis colofn yn y llyfr graddau i gael mynediad at ystadegau cryno ar gyfer unrhyw eitem sydd wedi’i graddio. Mae’r dudalen ystadegau yn dangos metrigau allweddol megis:

  • Isafswm ac uchafswm gwerth
  • Ystod
  • Cyfartaledd
  • Canolrif
  • Gwyriad safonol
  • Amrywiant

Mae nifer y cyflwyniadau sydd angen graddio a dosbarthiad graddau hefyd yn dangos.

Llun isod: Mynediad i ystadegau eitemau o’r wedd Grid

Mynediad i ystadegau eitemau o’r wedd Grid

Llun isod:  Mynediad i ystadegau eitemau o’r wedd Eitemau Graddadw

Llun isod: Tudalen Ystadegau Eitemau

Tudalen Ystadegau Eitemau

Opsiwn am Dim Dyddiad Cyflwyno ar asesiad

Mae dyddiadau cyflwyno yn agwedd bwysig ar y broses addysgu a dysgu. Mewn rhai sefyllfaoedd, fel dysgu ar eich cyflymdra eich hun, efallai na fydd hyfforddwr eisiau ysgogi gosod dyddiad cyflwyno. Er mwyn gwneud yr opsiwn ar gyfer peidio â chael dyddiad cyflwyno yn fwy amlwg, rydym wedi ychwanegu opsiwn “Dim dyddiad cyflwyno” ar gyfer Profion ac Aseiniadau.

Llun isod: Panel Gosodiadau Prawf yn dangos yr opsiwn newydd “Dim dyddiad cyflwyno”

Panel Gosodiadau Prawf yn dangos yr opsiwn newydd "Dim dyddiad cyflwyno"

Fe wnaethom ddiweddaru’r dyddiad a’r amser diofyn i ddyddiad yfory am 11:59yh.

Llun isod: Panel Gosodiadau Prawf yn dangos y dyddiad cyflwyno ac amser diofyn newydd.

Panel Gosodiaau Prawf yn dangos y dyddiad cyflwyno ac amser diofyn newydd

Efallai y bydd achosion pan fydd y dewis “Dim dyddiad cyflwyno” yn gwrthdaro â’r gosodiadau Canlyniadau Asesu. Pan fydd hyn yn digwydd, gofynnir i’r hyfforddwr adolygu’r gosodiadau.

Llun isod: Mae baner rybuddio yn ymddangos pan fydd y dewis “Dim dyddiad cyflwyno” yn gwrthdaro â’r gosodiadau Canlyniadau Asesu.

Mae baner rybuddio yn ymddangos pan fydd y dewis "Dim dyddiad cyflwyno" yn gwrthdaro â’r gosodiadau Canlyniadau Asesu.

Gall hyfforddwyr lywio i’r adran Canlyniadau Asesu yn y Gosodiadau trwy’r ddolen yn y faner.

Llun isod: Dewisiadau amseru canlyniadau asesu pan nad oes dyddiad cyflwyno.

Dewisiadau amseru canlyniadau asesu pan nad oes dyddiad cyflwyno

Noder, ar gyfer asesiad crynodol sydd â llawer yn y fantol, rydym yn dal i gynghori cael dyddiad ac amser cyflwyno. I drafod eich gofynion o ran gosodiadau profion, cysylltwch â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (eddysgu@aber.ac.uk).

Dangosyddion cyhoeddiadau a marcio cyhoeddiadau fel wedi eu darllen/heb eu darllen

Mae cyhoeddiadau yn sianel gyfathrebu bwysig o fewn cwrs. Mae’n bwysig helpu i greu ymwybyddiaeth o gyhoeddiadau newydd a rheolaethau wedi eu darllen/heb eu darllen.

Nawr, mae yna ddangosydd rhif wrth ymyl y tab cyhoeddiad yn y cwrs. Mae’r dangosydd yn dangos nifer y cyhoeddiadau heb eu darllen sydd ar gael.

Yn ogystal, gall myfyrwyr nawr nodi cyhoeddiadau fel rhai sydd wedi eu darllen neu heb eu darllen. Ar y naidlen Cyhoeddi Cwrs Newydd, mae gan ddefnyddwyr y dewis i nodi’r statws darllen. Gall myfyrwyr hefyd nodi cyhoeddiadau fel rhai wedi’u eu darllen neu heb eu darllen o’r dudalen Cyhoeddiad.

Llun isod: Nifer y Cyhoeddiadau heb eu darllen wrth ymyl y tab Cyhoeddiad

Nifer y Cyhoeddiadau heb eu darllen wrth ymyl y tab Cyhoeddiad

Llun isod: Naidlen Cyhoeddiadau gyda’r opsiwn i farcio fel wedi ei ddarllen/heb ei ddarllen

Naidlen Cyhoeddiadau gyda'r opsiwn i farcio fel wedi ei ddarllen/heb ei ddarllen

Llun isod: Tudalen Cyhoeddiadau gyda’r opsiwn i farcio fel wedi ei ddarllen/heb ei ddarllen

Tudalen Cyhoeddiadau gyda'r opsiwn i farcio fel wedi ei ddarllen/heb ei ddarllen

Llun isod: Paru cyhoeddiad a dangosyddion negeseuon ar gyfer cysondeb

Paru cyhoeddiad a dangosyddion negeseuon ar gyfer cysondeb

Nodyn i’ch atgoffa: Mynediad at Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs ac anfon neges at fyfyrwyr ohono.

Mae’r adroddiad Gweithgaredd y Cwrs yn eich helpu i ddeall pa mor dda mae’ch myfyrwyr yn perfformio a faint maen nhw’n rhyngweithio â’ch cwrs. Mae’r Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs yn galluogi Hyfforddwyr i:

  • Anfon neges at fyfyrwyr sydd ar ei hôl hi a’u hannog i gynyddu eu gweithgaredd ar y cwrs
  • Adnabod myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd yn seiliedig ar eu gradd gyffredinol, dyddiadau cyflwyno a gollwyd, nifer yr oriau y maent yn eu treulio yn eich cwrs, a nifer y diwrnodau ers eu mynediad diwethaf
  • Llongyfarch myfyrwyr sy’n perfformio’n dda yn eich cwrs a gofyn iddynt fod yn fentoriaid
  • Addasu rhybuddion eich cwrs i adnabod myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd pan fydd eu gradd gyffredinol yn gostwng o dan werth penodol, sydd wedi colli dyddiadau cyflwyno, neu nad ydynt wedi ceisio cael mynediad i’r cwrs ers nifer penodol o ddiwrnodau.
  • Lawrlwytho’r wedd tabl i ffeil CSV (gwerthoedd wedi’u gwahanu gan atalnodau) i ddadansoddi’r data gydag adnoddau eraill
  • Lawrlwytho’r plot gwasgariad fel PDF neu ddelwedd i rannu gwybodaeth gyda hyfforddwyr neu fentoriaid eraill y cwrs

I gael mynediad i’r Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs dewiswch Gweithgaredd y Cwrs yn nhab Dadansoddeg eich cwrs.

Llun isod: Cael mynediad at Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs o’r tab Dadansoddeg

Gwedd tabl o’r adroddiad Gweithgaredd y Cwrs ar y tab Dadansoddeg, gyda blwch glas o amgylch Dadansoddeg a Gweithgaredd y Cwrs.

Anfon Negeseuon

Gall hyfforddwyr ddewis myfyrwyr ac anfon negeseuon atynt o Weithgaredd y Cwrs trwy ddewis y botwm Anfon Neges. Pan fyddwch yn anfon neges at nifer o fyfyrwyr, bydd pob myfyriwr yn derbyn neges unigol ac ni fyddant yn gwybod pa fyfyrwyr eraill sydd wedi’u cynnwys.

Llun isod: Myfyriwr a ddewiswyd i gysylltu â nhw a’r botwm Anfon neges wedi’i amlygu

Gwedd tabl o’r adroddiad Gweithgaredd y Cwrs ar y tab Dadansoddeg, gyda blwch glas o amgylch myfyriwr a ddewiswyd ac Anfon neges.

Am fwy o wybodaeth am yr Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs gweler  Tudalen Gymorth Blackboard ar Adroddiad Gweithgaredd y Cwrs.

Nodyn i’ch atgoffa: Graddio Profion gyda Graddio Hyblyg

Mae’n bosib graddio profion naill ai yn ôl myfyriwr neu yn ôl cwestiwn —gan ei gwneud hi’n hawdd cymharu atebion ar draws y cwrs a sicrhau tegwch a chysondeb wrth raddio. Ar hyn o bryd mae marcio yn ôl myfyriwr wedi’i gyfyngu i gyflwyniadau di-enw. Bydd marcio cyflwyniadau dienw yn cael ei gynnwys mewn diweddariad yn y dyfodol

Am fwy o wybodaeth am Raddio Hyblyg gweler Tudalen Gymorth Blackboard ar Raddio Hyblyg.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*