Mae’r astudiaeth achos hon yn seiliedig ar y bennod The Student-led Planning of Tourism and Hospitality Education: The Use of Wicis to Enhance Student Learning gan Dr Mandy Talbot (Ysgol Funes Aberystwyth) a gyhoeddwyd yn The Routledge Handbook of Tourism and Hospitality Education, ac yn cynnwys detholiadau ohoni.
Pa offeryn ydych chi’n ei ddefnyddio a pham?
Defnyddiodd Dr Mandy Talbot wicis Blackboard i hwyluso ‘prosiect dysgu cydweithredol dan arweiniad myfyrwyr (…) ar y modiwl ail flwyddyn gradd baglor: datblygu twristiaeth ryngwladol. (…) Roedd gwaith cwrs y modiwl yn gofyn i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bach i nodi a gwerthuso’r strategaethau datblygu twristiaeth oedd yn cael eu dilyn mewn cyrchfannau twristaidd penodol a’u cymharu â’r dulliau a ddefnyddid mewn mannau eraill. Oherwydd natur gydweithredol a rhyngweithiol yr aseiniad, yr offeryn gwe mwyaf addas oedd y wici.’
Pam ddewisoch chi’r offeryn hwn?
Cyn cyflwyno’r wicis ‘roedd myfyrwyr yn ymgymryd â’r ymarfer trwy greu a rhoi cyflwyniad PowerPoint grŵp 15 munud i’r dosbarth, gyda 10 munud arall ar gyfer cwestiynau.’ Newidiodd Dr Mandy Talbot fformat yr aseiniad er mwyn:
‘Gwella cydlynrwydd gwaith grŵp y myfyrwyr: Mae fformat wici yn rhoi gofod gwaith cydweithredol i fyfyrwyr ddatblygu eu gwaith’
‘Cynnig mwy o gyfle i fyfyrwyr ryngweithio â gwaith grwpiau eraill: Trwy fformat wici gall myfyrwyr ymweld â chyflwyniadau ei gilydd dros gyfnod estynedig. Mae gan dudalennau wici hefyd flychau ar gyfer sylwadau sy’n galluogi myfyrwyr i holi a chynnal trafodaeth ar y safleoedd eraill.’
‘Datblygu sgiliau TG myfyrwyr: Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i greu a strwythuro tudalennau gwe’.
Mae’r ail astudiaeth achos ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard yn dangos defnydd effeithiol o brofion ar gyfer asesiadau adolygol a ffurfiannol gan Dr Ruth Wonfor o IBERS.
Pa offeryn ydych chi’n ei ddefnyddio a sut?
Rwy’n defnyddio profion Blackboard un ai ar gyfer profion adolygol neu brofion ffurfiannol yn y rhan fwyaf o’m modiwlau.
Pam dewis yr offeryn hwn?
Rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. O ran y profion adolygol, rydw i wedi eu defnyddio mewn modiwl i’r flwyddyn gyntaf ar anatomeg a ffisioleg. Mae’r modiwl hwn yn rhoi llawer o wybodaeth sylfaenol ar fywydeg elfennol a ddefnyddir gan y myfyrwyr ym modiwlau’r dyfodol, felly roedd arna i eisiau cynllunio asesiad a fyddai’n fodd i roi prawf ar amrywiaeth eang o bynciau ar draws y modiwl sy’n bodloni canlyniadau dysgu eithaf eang. Mae profion aml-ddewis wedi gweithio’n dda iawn ar gyfer hyn ac mae’n cyd-fynd yn dda â’r gwaith rwy’n ei wneud yn y modiwl i geisio annog y myfyrwyr i ddefnyddio cardiau fflach i ddysgu. Mae budd y cardiau fflach yn amlwg i’r myfyrwyr yn y prawf hwn.
Ar gyfer yr asesiadau ffurfiannol, rydw i wedi dewis defnyddio profion Blackboard am amrywiaeth o resymau. Yn y gorffennol, rydw i wedi tueddu i’w defnyddio fel ffordd i fyfyrwyr brofi eu dealltwriaeth ar ddiwedd pwnc. Ond, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i wedi dechrau eu defnyddio i ofyn cwestiynau y byddwn i wedi eu gofyn yn y ddarlith i wneud yn siŵr bod pawb yn deall. Mae hyn wedi bod yn wych er mwyn fy helpu i strwythuro’r addysg a gwneud yn siŵr nad yw’r myfyrwyr yn brysio ymlaen i adrannau newydd heb ddeall yn iawn beth oedd angen iddynt ei wneud yn yr adran flaenorol.
Sut wnaethoch chi gynllunio’r gweithgaredd gyda’r offeryn hwn?
Rwy’n cynllunio’r profion Blackboard yn unol â’u defnydd yn llwyr. Mae’r profion adolygol yn eithaf anhyblyg gyda chwestiynau aml-ddewis yn unig. Rwy’n tueddu i ddefnyddio cwestiynau safonol eu ffurf; dewis yr ateb cywir i gwestiwn, dewis y datganiad cywir neu ofyn at ba strwythur yn y ddelwedd mae saeth yn pwyntio. Yn ystod cyfnod Covid-19 pan oedd y myfyrwyr yn sefyll y profion hyn gartref, rydw i wedi bod yn cynnwys rhywfaint o gwestiynau ateb byr yn y prawf aml-ddewis hefyd. Mae’r cwestiynau hyn wedi gweithio’n dda iawn er mwyn atal myfyrwyr rhag chwilio am yr ateb i bob cwestiwn aml-ddewis ac wedi rhannu’r marciau’n dda.
Rwy’n defnyddio ystod ehangach o opsiynau ar gyfer y profion ffurfiannol er mwyn cyd-fynd â’r hyn rydw i eisiau i’r myfyrwyr ei ddysgu. Er enghraifft, rydw i wedi defnyddio’r cwestiynau paru ar ôl mynd trwy’r derminoleg, fel bod yn rhaid i’r myfyrwyr baru’r termau â’r disgrifiad cywir. Rydw i hefyd yn ceisio defnyddio’r adborth i’r cwestiynau ffurfiannol hyn i annog y myfyrwyr i lywio eu dysg eu hunain. Felly yn hytrach na dweud wrth y myfyrwyr eu bod wedi ateb cwestiwn yn anghywir a rhoi’r ateb cywir iddynt, rwy’n defnyddio’r adborth i gyfeirio’r myfyrwyr at y sleid neu’r rhan o’r ddarlith lle mae’r ateb i’w gael. Y gobaith yw bod hyn yn eu hannog i strwythuro mwy ar eu gwaith dysgu ac adolygu.
Yn olaf, yn ystod y cyfnod o ddysgu ar-lein rydw i’n gweld bod rhyddhau deunyddiau’n ymaddasol (adaptive release) ar y cyd â’r profion BB yn fuddiol iawn er mwyn strwythuro pynciau. Byddaf yn aml yn dechrau rhai darlithoedd trwy adolygu rhywfaint o wybodaeth y dylai’r myfyrwyr fod wedi ei astudio yn y modiwlau blaenorol sy’n sail i’r pwnc y byddwn yn ei astudio yn y sesiwn honno. Felly rydw i wedi defnyddio profion BB i wneud y gwaith adolygu hwn. Rwy’n defnyddio’r adborth i gyfeirio’r myfyrwyr at wybodaeth bellach os oes angen iddynt roi sglein ar eu dealltwriaeth ac yna’n defnyddio dull rhyddhau deunyddiau’n ymaddasol i ryddhau’r pwnc iddynt ar ôl iddynt roi cynnig ar y cwis adolygu yn unig. Mae’r myfyrwyr yn cael cyfarwyddiadau clir er mwyn gallu rhoi cynnig ar y cwis a byddant wedyn yn cael mynd ymlaen i bwnc y ddarlith. Roedd hyn i weld yn gweithio’n dda ac felly rwy’n gobeithio dal ati gyda hyn er mwyn rhoi’r gorau i adolygu yn y darlithoedd a threulio mwy o amser yn defnyddio’r wybodaeth a ddysgir yn y darlithoedd.
Beth yw barn eich myfyrwyr am yr offeryn hwn?
Rydw i wedi cael adborth eithaf da gan y myfyrwyr ar y profion BB. Mae llawer ohonynt wedi sôn eu bod yn eu helpu i astudio a mynd dros bynciau er mwyn deall lle mae angen iddynt ymdrechu fwy gyda’u hastudiaeth bellach. Rydw i hefyd wedi helpu i leihau gorbryder myfyrwyr ynglŷn â’r profion adolygol terfynol trwy ddefnyddio profion ffurfiannol trwy gydol y modiwl. Gan fod y prawf adolygol rwy’n ei ddefnyddio yn un ar fodiwl y flwyddyn gyntaf yn semester 1, mae’r myfyrwyr yn aml yn eithaf pryderus ynglŷn â’r hyn i’w ddisgwyl ar lefel prifysgol. Gallaf felly eu cyfeirio at y profion ffurfiannol fel enghreifftiau o lefel y cwestiynau y bydd disgwyl iddynt eu hateb yn yr arholiad.
Oes gennych chi unrhyw gyngor defnyddiol i bobl sydd eisiau defnyddio’r offeryn hwn?
Fy mhrif gyngor fyddai rhoi digon o amser i chi’ch hun i lunio’r profion. Mae’r cam cychwynnol o ysgrifennu cwestiynau ac adborth da i’r myfyrwyr yn cymryd peth amser. Ond ar ôl i chi dreulio’r amser hwnnw, mae’r profion yn barod i’w defnyddio bob blwyddyn. Heb os, mae’n werth yr amser a dreulir er mwyn helpu’r myfyrwyr ac i gael syniad o’u dealltwriaeth, a gweld lle gall fod angen rhoi mwy o eglurhad ar bynciau. Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn sefyll y profion eich hun! Wrth wneud y prawf fy hun, rydw i wedi sylwi ar ambell i gamgymeriad neu gwestiynau sydd angen bod yn fwy eglur ac mae’n ddefnyddiol iawn er mwyn gweld sut bydd fformat terfynol y cwestiynau yn ymddangos i’r myfyrwyr.
Hoffem ddiolch i Dr Ruth Wonfor am rannu ei phrofiadau o ddefnyddio profion Blackboard.
Mae’n bleser gennym gyflwyno’r astudiaeth achos gyntaf ar ddefnyddio offer rhyngweithiol Blackboard, sef defnyddio byrddau trafod gan Dr Martine Garland o Ysgol Fusnes Aberystwyth.
‘Roedd byrddau trafod felly yn ffordd o ail-greu’r drafodaeth y gallem fod wedi’i chael yn y dosbarth, ac yn sgil hynny fe gafwyd dros 900 o bostiadau yn ystod y semester.’
Pa offer ydych chi’n ei ddefnyddio a sut?
Rwy’n defnyddio byrddau trafod ar fodiwl marchnata craidd blwyddyn 1af gyda 97 o fyfyrwyr. Caiff y byrddau trafod eu defnyddio mewn ffordd strwythuredig iawn i roi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso theori, model neu fframwaith y maen nhw newydd ddysgu amdano. Yn sgil y dull cyfunol y dechreuwyd ei ddefnyddio mewn ymateb i Covid-19, mi sylwais nad oedd myfyrwyr yn astudio’r cynnwys a recordiwyd yn ei drefn addas, ac nid yn yr wythnos y bwriadwyd iddynt astudio’r pwnc. Roedd hyn yn golygu ei bod yn anodd defnyddio’r sesiynau byw yn MS Teams i wneud ymarferion pwnc-benodol a chreu dadl gan nad oedd llawer o fyfyrwyr wedi astudio’r pwnc eto. Roedd byrddau trafod felly’n ffordd o ail-greu’r drafodaeth y gallem fod wedi’i chael yn y dosbarth, ac yn sgil hynny fe gafwyd dros 900 o bostiadau yn ystod y semester.
Pam wnaethoch chi ddefnyddio’r offer hwn?
Dewisais yr offer hwn gan ei fod yn rhwydd iawn ei ymgorffori yn y strwythur dysgu wedi’i recordio a chyfeirio myfyrwyr ato ar yr adeg berthnasol yn eu hastudiaethau. Roedd gan bob darlith a recordiwyd dri ‘phwynt trafod’ wedi’u cynllunio i gyflawni deilliannau dysgu yn ymwneud â chymhwyso dysgu. Ar ôl gweithio trwy gynnwys dysgu ar-lein ar bwnc, gofynnai’r pwynt trafod iddynt rannu eu profiad neu enghraifft berthnasol, a dechrau sgwrs ddyfnach am gymhwyso damcaniaeth i’r byd go iawn.
Sut wnaethoch chi gynllunio’r gweithgarwch hwn yn defnyddio’r offer hwn?
Yn PowerPoint y ddarlith a recordiwyd, defnyddiais eicon cyson i nodi trafodaeth, yna cynnwys cyfarwyddiadau y dylent oedi’r fideo, gwneud rhai nodiadau, yna pan fyddant wedi gorffen y ddarlith, mynd i’r ‘gofod trafod’ a rhannu eu meddyliau.
Mi wnes i hefyd ddefnyddio swyddogaeth y bwrdd trafod i osod a derbyn gweithgareddau ‘tasg gydweithredol’. Fe allen nhw ddarllen y briff ar frig yr edefyn, ac yna postio allbynnau eu grwpiau yn yr edefyn. Yr enw arno oedd ‘Safle cydweithredu’ ond defnyddio offer y bwrdd trafod yr oedd.
Beth yw barn myfyrwyr am yr offer hwn?
Rwy’n credu ei fod yn gymysg, wnaeth rhai myfyrwyr ddim cymryd rhan o gwbl, er i’r mwyafrif wneud hynny (cofiwch eu bod yn cael marciau am gymryd rhan ac ymgysylltu). Cyfeiriodd sawl myfyriwr at y byrddau trafod yn eu hadborth yn yr holiadur gwerthuso modiwl:
“Roeddwn i wrth fy modd â’r modiwl hwn. Roedd yr athrawes yn rhagorol, ac roedd hi’n glir ei ffocws trwy gydol y modiwl. Y bwrdd trafod oedd rhan orau’r modiwl gan ei fod yn rhoi lle inni gymhwyso’r damcaniaethau. Drwyddi draw, un o’r modiwlau gorau yn fy mlwyddyn gyntaf.”
“Gyda phopeth oedd yn digwydd, mae’r modiwl hwn wedi cael ei redeg yn dda iawn y semester hwn. Mae llawer o gynnwys ar-lein i’w wneud ac mae’r fforymau i fyfyrwyr drafod y pynciau dan sylw wedi ei wneud yn fodiwl difyr iawn.”
A oes gennych unrhyw awgrymiadau i bobl sydd eisiau defnyddio’r offer hwn?
Dylech ei gwneud hi’n glir iawn beth rydych chi’n gofyn iddyn nhw ei wneud a ble gallan nhw ddod o hyd iddo. Anogwch y myfyrwyr i lwytho rhith-ffurf (avatar) fel nad yw’r drafodaeth mor ddi-wyneb. Yn sicr ar gyfer modiwlau blwyddyn 1, ystyriwch ddyfarnu marciau am gymryd rhan ac ymgysylltu â phethau fel byrddau trafod, wici ac ati. Mae adroddiadau Blackboard yn rhoi ffordd gyflym a hawdd i chi weld pwy sy’n gwneud beth, ble a phryd.
Rydym yn chwilio am staff a hoffai rannu eu profiadau o ddefnyddio nodweddion rhyngweithiol Blackboard, e.e. blogiau, cyfnodolion, wicis, profion, byrddau trafod. Rydym yn croesawu achosion achos mewn unrhyw fformat, e.e. testun byr, fideo, memo llais. Byddai’r astudiaethau achos hyn yn cael eu cynnwys ar ein blog ac yn cael eu defnyddio mewn sesiynau hyfforddi yn y dyfodol. Anfonwch eich astudiaethau achos i lteu@aber.ac.uk
I ddysgu mwy am nodweddion rhyngweithiol gwahanol Blackboard: