Blackboard Ultra: Trosolwg o’r Dewisiadau Eraill yn lle Wici

Blackboard Ultra icon

Mae’r postiad blog hwn yn amlinellu’r datrysiadau y mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn gweithio arnynt ar gyfer gweithgareddau Wici. Ar ôl rhoi tro ar y datrysiadau hyn, byddwn yn gweithio ar ddarparu cyfarwyddyd i gydweithwyr.

Y Cefndir

Mae Wicis yn offer cydweithio a ddefnyddir ar gyfer nifer o weithgareddau a asesir a gweithgareddau na chaiff eu hasesu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Nid yw’r offer ar gael ar hyn o bryd yn Blackboard Ultra (er gwaethaf ein ceisiadau i’w ddiwygio) ac nid yw ar fap datblygu Blackboard.

Mae anargaeledd yr offer Wici wedi’i gynnwys ym mhob rhan o’r broses o wneud penderfyniadau i dynnu sylw at hyn fel risg wrth symud i Blackboard Ultra.

Mae union natur wicis yn gydweithredol ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfrannu fel rhan o grŵp. Gall myfyrwyr gynhyrchu adnoddau cyfoethog o ran cyfryngau sy’n cysylltu â chynnwys allanol, fideos, a delweddau. Gellir trefnu’r cynnwys dros nifer o dudalennau, gyda strwythur a roddwyd o flaen llaw gan y tiwtor.

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu nifer o ddewisiadau eraill yn lle Wici. Rhestrir yr opsiynau yn nhrefn ffafriaeth yr UDDA.

Dewis 1: Integreiddio Office 365 gyda Blackboard

Ar hyn o bryd mae’r UDDA wrthi’n galluogi integreiddio dogfennau OneDrive yn Blackboard Ultra.

Unwaith y bydd y llif gwaith hwn yn weithredol, dyma fyddai’r broses:

  1. Gall hyfforddwyr greu dogfen gydweithredol newydd i bob myfyriwr ar gwrs gydweithio arno. Gall rhain fod yn ffeiliau Word, PowerPoint neu Excel. Gall hyfforddwyr hefyd ddewis chwilio am ddogfen bresennol yn eu OneDrive neu ar draws eu cyrsiau a rennir drwy chwilotwr ffeiliau OneDrive. Gallai’r ddogfen gael templed a fyddai’n dynwared adrannau blaenorol y Wici.
  2. Defnyddir rhyddhau addasol ar gyfer y ddogfen fel ei bod wedi’i chyfyngu i’r grŵp
  3. Mae myfyrwyr yn cyfrannu at y defnydd o nodweddion golygu Word wrth greu ffeiliau
  4. Mae dyddiad cyflwyno a man aseiniad Grŵp Blackboard y mae aelodau o’r grŵp yn cyflwyno iddo.
  5. Mae’r darlithydd yn marcio – fel aseiniad grŵp mae’r marciau’n cael eu hychwanegu’n awtomatig i bob aelod o’r grŵp gyda’r opsiwn i ddiwygio’r marc ar gyfer yr unigolyn.

Dewis 2: Dogfen Office 365 yn cael ei chreu yn y OneDrive personol a dolen yn cael ei phostio

Mae’r dewis hwn ar waith yn barod ond mae angen i’r UDDA ymchwilio ymhellach o ran copïau wrth gefn os nad yw’r darlithydd a greodd y ddogfen ar gael.

  1. Mae’r darlithydd yn creu dogfen yn eu OneDrive ac yn diwygio’r caniatâd golygu i unrhyw un sydd â’r ddolen. Caiff dogfen wahanol ei chreu ar gyfer pob grŵp.
  2. Caiff y ddolen i’r ddogfen ei phostio ar y safle Blackboard. Defnyddir rhyddhau addasol i gyfyngu mynediad grŵp i’r grŵp penodol hwnnw.
  3. Mae myfyrwyr yn cyfrannu at y defnydd o nodweddion golygu Word wrth greu ffeiliau
  4. Mae dyddiad cyflwyno a man aseiniad Grŵp Blackboard y mae aelodau o’r grŵp yn cyflwyno iddo.
  5. Mae’r darlithydd yn marcio – fel aseiniad grŵp mae’r marciau’n cael eu hychwanegu’n awtomatig i bob aelod o’r grŵp gyda’r opsiwn i ddiwygio’r marc ar gyfer yr unigolyn.

Dewis 3: mae Wici yn cael ei osod yn Teams a chysylltir ag ef drwy ddolen

Ar hyn o bryd mae’r UDDA yn ymchwilio i hyfywdra integreiddio Blackboard gyda dosbarthiadau Teams. Mae gan Teams swyddogaeth Wici.

  1. Mae angen creu safle Teams ar gyfer y grŵp (os yw dosbarthiadau wedi’i alluogi gall hyn fod yn awtomatig)
  2. Caiff tab Wici ei alluogi (gweler https://support.microsoft.com/en-us/office/add-and-use-a-wiki-tab-in-teams-35ec762d-72ec-4d7f-b858-2949f6cb6014 am ragor o wybodaeth)
  3. Mae dolen i’r dudalen Wici yn MS Teams yn cael ei bostio yn Blackboard a defnyddir rhyddhau addasol i gyfyngu’r Wici i’r grŵp unigol.
  4. Caiff y Wici ei allforio (UDDA i brofi) a’i gyflwyno i aseiniad Grŵp Blackboard
  5. Mae’r darlithydd yn marcio – fel aseiniad grŵp mae’r marciau’n cael eu hychwanegu’n awtomatig i bob aelod o’r grŵp gyda’r opsiwn i ddiwygio’r marc ar gyfer yr unigolyn.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*