Mae modiwlau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-23 bellach ar gael ar gyfer staff sy’n dysgu ar fodiwlau. Mae hwn er mwyn cynorthwyo staff i baratoi eu modiwlau ar gyfer Mis Medi. Efallai eich bod wedi sylwi bod tab newydd wedi ymddangos ar y ddewislen ar frig eich sgrin Blackboard:
Os ydych wedi cofrestru fel aelod o staff ar y modiwl yn Astra dylech allu gweld eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Os nad oes modd i chi weld modiwl yr ydych wedi cofrestru arno yna cysylltwch â’ch Swyddog Gweinyddol Adrannol. Ni fydd myfyrwyr yn gallu cofrestru ar eich modiwl nes y bydd y cofrestriad wedi’i gwblhau. Os oes arnoch angen rhagor o gymorth, e-bostiwch eddysgu@aber.ac.uk.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r prif siaradwyr gwadd i’r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol eleni (12-14 Medi 2022).
Bydd Kyra Araneta, Jennifer Fraser, a Moonisah Usman o Brifysgol San Steffan yn ymuno â ni’n rhithiol ar gyfer y prif anerchiad, Navigating power lines: Developing principles and practices to support socially just student : staff partnerships.
Yn yr anerchiad hwn, bydd Kyra, Jennifer, a Moonisah yn trafod eu prosiectau am bartneriaethau llwyddiannus rhwng staff a myfyrwyr.
Crynodeb o’r Sesiwn
I lawer ohonom mae prifysgolion ac ystafelloedd dosbarth yn safleoedd llawn posibiliadau (hooks, 1994) a buddsoddwn ni ynddynt ein gobeithion ar gyfer mathau gwahanol o ddyfodol i’r myfyrwyr ac i ninnau. Maent hefyd yn safleoedd o densiwn wrth i ni symud drwy gydberthnasau a dynameg grym sy’n gallu bod yn gymhleth. Mae’r ffordd yr ydym yn ‘byw’ addysg ar gyfer rhyddid wedi dod yn bwysicach byth yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda’r gwrthdystiadau Mae Bywydau Du o Bwys, a’r galwadau am ddad-drefedigaethu prifysgolion. Yn Power Lines: On the Subject of Feminist Alliances mae Aimee Carrillo Rowe yn gofyn ‘Sut ydym yn adeiladu llinellau grym a fydd yn ein cysylltu ni ag eraill mewn cyfiawnder, drwy gyfiawnder, ac ar gyfer cyfiawnder?’ (2008), t. 2). Mae ein hanerchiad yn ymdrin â’r cwestiwn hwn, gan ystyried sut rydym yn datblygu egwyddorion ac arferion i gynnal cydberthnasau partneriaethol rhwng myfyrwyr a staff sydd yn gymdeithasol gyfiawn. Rydym yn dadlau bod perthynas, os yw wedi’i dylunio ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, yn gallu creu awyrgylchoedd gwrth-hiliol a dad-drefedigaethol (Bell, 2018) sy’n dod yn safleoedd llawn posibiliadau. Gan ddefnyddio enghreifftiau o’n gwaith ym Mhrifysgol San Steffan, ymdriniwn â’r mannau lle y mae grym, cynghreiriaeth, cyfiawnder cymdeithasol a phartneriaeth yn dod ynghyd er mwyn ystyried strategaethau ar gyfer llunio rhaglenni lle mae cydberthnasau trawsnewidiol yn greiddiol. Rydym yn rhannu enghreifftiau o sut rydym wedi meithrin cydberthnasau, cyd-greu gwerthoedd rhaglenni, a’u rhoi ar waith mewn prosiectau partneriaethol. Er mwyn dangos sut y gallwn feithrin partneriaethau gyda llinellau grym sy’n ein cysylltu â chyfiawnder cymdeithasol, byddwn yn defnyddio enghraifft y Prosiect Pedagogies for Social Justice (https://blog.westminster.ac.uk/psj/). Mae’r prosiect hwn wedi ymrwymo i roi lle canolog i leisiau myfyrwyr o safbwynt ei werthoedd, ei gredoau a’i brofiadau, ac i ddefnyddio’r rhain i ddatgymalu mathau cyfoes o wladychiaeth mewn cwricwla, cydberthnasau ac ymchwil. Dadleuwn fod partneriaethau’n hanfodol i’r gwaith hwn wrth iddynt gyd-gynhyrchu gwybodaeth; datblygu ffyrdd newydd a beirniadol o ddeall disgyblaethau; ac ymgymryd â chydweithredu, arbrofi a deialog dros gyfnod estynedig. Gan ddeall mai prosesau heriol a chymhleth yw’r rhain, rydym yn cynnig y prif anerchiad hwn fel cam ymlaen yn eich teithiau’ch hun a thaith eich Prifysgol tuag at greu mannau dysgu cymdeithasol gyfiawn i fyfyrwyr a staff.
Tua diwedd mis Gorffennaf byddwn yn dechrau creu modiwlau Blackboard ar gyfer 2022-23.
Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, ni fydd fersiynau gwag o unrhyw gyrsiau presennol yn cael eu creu. Gwnaed y penderfyniad hwn yng nghyfarfod y Bwrdd Academaidd yn ddiweddar.
Bydd cynnwys a ffeiliau’r cyrsiau yn cael eu copïo o’r fersiwn o’r modiwl yn y flwyddyn academaidd flaenorol. Ni fydd mannau cyflwyno Turnitin, recordiadau Panopto na gweithgareddau rhyngweithiol Blackboard yn cael eu cynnwys wrth gopïo; bydd angen ail-greu’r rhain. Mae gennym lawer o Gwestiynau Cyffredini gynorthwyo’r staff gyda hyn.
Os ydych chi’n cynnal modiwl newydd yna bydd y rhain yn cael eu creu gan ddefnyddio’r Templedi Adrannol y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Yn yr un modd, os ydych chi’n cynnal modiwl na chafodd ei gynnal yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yna bydd y rhain hefyd yn cael eu creu’n wag.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon (eddysgu@aber.ac.uk). Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y modiwlau wedi’u creu.
Ar 20 Mai, ymunodd Dr Mary Davies, Stephen Bunbury, Anna Krajewska, a Dr Matthew Jones â’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ar gyfer eu gweithdy ar-lein: Contract Cheating Detection for Markers (Red Flags).
Gyda chydweithwyr eraill, maent yn ffurfio Gweithgor Twyllo ar Gontract Rhwydwaith Uniondeb Academaidd De Ddwyrain Llundain ac maent wedi bod yn gwneud gwaith ac ymchwil hanfodol i’r defnydd cynyddol o felinau traethodau a thwyllo ar gontract.
Roedd y sesiwn yn cynnwys llawer o awgrymiadau ymarferol i gydweithwyr i’w helpu i ganfod y defnydd o Dwyllo ar Gontract wrth farcio.
Mae rhagor o wybodaeth am Ymddygiad Academaidd Annheg ar gael yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd (gweler adran 10).
Diolch yn fawr i’r cyflwynwyr. Rydym wedi cael sesiynau arbennig gan siaradwyr allanol y flwyddyn academaidd hon; edrychwch ar ein blogiau Siaradwyr Allanol i gael rhagor o wybodaeth.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enw ein siaradwr gwadd cyntaf i’r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol am eleni (12-14 Medi 2022).
Bydd Dr Alex Hope yn ymuno â ni i sôn am wreiddio cynaliadwyedd yn ystyrlon yn y cwricwlwm.
Mae Dr Alex Hope yn Ddirprwy i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg) ac yn Athro Cyswllt Moeseg Busnes yn Ysgol Fusnes Newcastle, Prifysgol Northumbria. Mae’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol addysg ledled y gyfadran ac mae’n addysgu, ymchwilio ac ymgynghori mewn meysydd megis addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy, busnes cyfrifol, moeseg busnes, a’r nodau datblygu cynaliadwy. Ochr yn ochr â’i waith yn Ysgol Fusnes Newcastle, mae Dr Hope yn Gyd-Gadeirydd Gweithgor Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar Addysg Rheolaeth Gyfrifol (UN PRME) ac yn gyn Is-Gadeirydd UN PRME y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon. Mae’n aelod o Bwyllgor Dysgu ac Addysgu Cymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes (CABS) ac yn aelod o fwrdd Busnes yn y Gymuned y gogledd ddwyrain, rhwydwaith busnes cyfrifol Tywysog Cymru. Mae ganddo PhD mewn Datblygu Cynaliadwy, MA mewn Ymarfer Academaidd, a BSc (Anrh) mewn Rheoli Amgylcheddol.
Mae Fforymau Academi’r flwyddyn academaidd gyfredol bellach wedi dod i ben. Hoffem ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y trafodaethau.
Mae taflenni’r fforymau eleni bellach ar gael ar ein tudalennau gwe.
Mae’r taflenni’n cynnwys fframweithiau damcaniaethol allweddol yn ogystal ag astudiaethau achos ymarferol a myfyrdodau cydweithwyr ar eu harferion addysgu eu hunain.
Oherwydd llwyddiant y fformat a’r niferoedd uchel a fu’n rhan o’r trafodaethau, rydym yn gobeithio gallu cynnig rhagor o fforymau academi y flwyddyn academaidd nesaf. Os oes gennych bwnc sy’n ymwneud â dysgu ac addysgu yr hoffech ei drafod â chydweithwyr, anfonwch e-bost atom (udda@aber.ac.uk).
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer y degfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth ac fe’i cynhelir rhwng dydd Llun 12 Medi a dydd Mercher 14 Medi 2022.
Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein.
Galwad am Gynigion
Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu. Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein. Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 27 Mai 2022.