Rydym yn chwilio am staff a hoffai rannu eu profiadau o ddefnyddio nodweddion rhyngweithiol Blackboard, e.e. blogiau, cyfnodolion, wicis, profion, byrddau trafod. Rydym yn croesawu achosion achos mewn unrhyw fformat, e.e. testun byr, fideo, memo llais. Byddai’r astudiaethau achos hyn yn cael eu cynnwys ar ein blog ac yn cael eu defnyddio mewn sesiynau hyfforddi yn y dyfodol. Anfonwch eich astudiaethau achos i lteu@aber.ac.uk
I ddysgu mwy am nodweddion rhyngweithiol gwahanol Blackboard:
Hoffem eich gwahodd chi i sesiwn Fforwm yr Academi olaf y flwyddyn a fydd yn cymryd lle ar 24 Mai.
Bydd y sesiwn hon yn gyfle i ni edrych yn ôl ar raglen Fforwm yr Academi eleni, a gynlluniwyd yn benodol i gefnogi staff i addysgu mewn gwahanol ffyrdd mewn ymateb i’r pandemig, a myfyrio ar yr hyn y gallwn ei ddatblygu ymhellach.
Y pynciau y gwnaethom ymdrin â hwy eleni oedd:
Creu Cymuned Dysgu ac Addysgu
Creu Podlediadau yn Panopto
Pam a sut i helpu myfyrwyr i fyfyrio ar eu dysgu
Strategaethau Cymhelliant ar gyfer Ymgysylltu â Dysgu Ar-lein
Sut alla i gynllunio gweithgareddau ar-lein a gweithgareddau wyneb yn wyneb?
Gwnaeth Frederika Roberts, ein siaradwr gwadd yn y gynhadledd fer ar Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm orffen ei chyflwyniad drwy ofyn ‘A all Prifysgol Aberystwyth ddod yn Brifysgol Gadarnhaol?’ (i wylio cyflwyniad Frederika gweler gwefan y gynhadledd fer).
Y syniad o brifysgol gadarnhaol yw un sy’n canolbwyntio ar ‘ddatblygu amgylcheddau addysgol sy’n galluogi’r dysgwr i ymgysylltu â’r cwricwlwm sefydledig yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau i ddatblygu eu lles eu hunain ac eraill’ (Oades, Robinson, Green, a Spence, 2011). Mae’r diffiniad hwn wedi cael ei gynnig gan awduron erthygl Towards a positive university a gyhoeddwyd yn 2011 sy’n cynnwys fframwaith defnyddiol i adeiladu Prifysgolion Cadarnhaol yn seiliedig ar fodel PERMA (Seligman, 2011). Mae PERMA gan Seligman ymhlith y theorïau lles mwyaf adnabyddus sy’n amlygu pump agwedd allweddol i les:
Er bod cynnydd mawr wedi cael ei wneud o ran ymgorffori lles yn y cwricwlwm, nid oes llawer o sefydliadau, yn arbennig yn y sector addysg uwch, yn ymgorffori dull sefydliad-cyfan o ymdrin â lles (Oades et al., 2011). Y Brifysgol Gadarnhaol gyntaf yn y byd oedd Prifysgol Tecmilenio, sefydliad preifat ym Mecsico, a sefydlwyd yn 2002. Gan ddilyn o’u hesiampl, yn 2017, daeth Prifysgol Buckingham yn Brifysgol Gadarnhaol gyntaf Ewrop.
Beth fyddai angen newid er mwyn i Brifysgol Aberystwyth fod yn Brifysgol Gadarnhaol?
Cyflawnir statws Prifysgol Gadarnhaol drwy ymgorffori lles mewn polisïau a gweithdrefnau sefydliadol, ond hefyd drwy ymroddiad unigol i werthoedd addysg gadarnhaol. Er bod Oades a’i gydweithwyr (2011) yn crybwyll pwysigrwydd arweinyddiaeth uwch, maent hefyd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau syml sy’n gyson ag ethos addysg gadarnhaol ac y gellid eu hymgorffori gan staff addysgu a phroffesiynol yn ogystal â myfyrwyr (gweler Tabl 1. t. 434). Yn dilyn y gynhadledd fer ddiweddar, hoffem alw ar yr holl staff i gymryd safiad gweithredol ynglŷn â’u lles a lles eu myfyrwyr a’u cydweithwyr.
I ddod o hyd i enghreifftiau o sut y gallwch ymgorffori lles yn eich addysgu cyfeiriwch at yr erthygl Towards a positive university, recordiadau o’r gynhadledd ynghyd â’r daflen Ymgorffori Lles yn y cwricwlwm a grëwyd gan Samantha Glennie, Rheolwr y Gwasanaethau Cymorth. Hoffem hefyd eich annog i rannu’r adnoddau canlynol â’ch myfyrwyr:
Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon, gwnaeth adrannau amrywiol ledled y Brifysgol gyfrannu at greu Gweddalennau Cefnogi eich Dysgu. Er bod casglu’r holl wybodaeth hanfodol mewn un lle wedi bod yn ddefnyddiol, roeddem yn chwilio am ffordd i gyflwyno’r wybodaeth mewn fformat mwy rhyngweithiol a hygyrch.
Gwnaethom greu’r gyfundrefn Cefnogi eich Dysgu ar Blackboard sy’n cynnwys yr holl wybodaeth o’r gweddalennau ynghyd â rhywfaint o adnoddau ychwanegol megis y Canllaw Cyflym i Lwyddiant Myfyrwyr yn ogystal â phwyntiau cyflwyno ymarfer.
Cynhaliwyd nifer o sesiynau hyfforddi ‘Helpu Myfyrwyr i Fanteisio i’r Eithaf ar Ddysgu Ar-lein’ gydag Arweinwyr Cyfoed, Cynorthwywyr Preswyl, Cynrychiolwyr Myfyrwyr a staff Cymorth i Fyfyrwyr a dangoswyd iddynt y gyfundrefn Cefnogi eich Dysgu. Cafwyd adborth cadarnhaol a gwnaethpwyd newidiadau yn seiliedig ar eu sylwadau. Rydym hefyd wedi gofyn am adborth gan y Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu.
Gall holl fyfyrwyr a staff ddod o hyd i’r gyfundrefn ‘Cefnogi eich Dysgu’ o dan y tab ‘Fy Nghyfundrefnau’.
Gobeithio y bydd yn eu cefnogi i ddod o hyd i wybodaeth hanfodol mewn modd mwy effeithlon yn ogystal â gwella prosesau cynefino amrywiol. Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech rannu’r adnodd hwn â’r holl fyfyrwyr a staff yn eich adrannau a’i ddefnyddio pan fo’n briodol.
Cawsom gyfle yn ddiweddar i gyflwyno sesiynau ‘Gwnewch y gorau o’ch dysgu ar-lein’ i Gynorthwywr Adrannol i Gymheiriaid, Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn ogystal â Chynorthwywyr Preswyl. Roedd y sesiynau hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflwyno myfyrwyr i’r adnoddau sydd ar gael iddynt: y modiwl Cefnogi eich dysgu ar Blackboard (a fydd yn cael ei gyflwyno i’r holl fyfyrwyr yn fuan); a’r Canllawiau Cyflym ar Lwyddiant Myfyrwyr.
Rydym hefyd wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn i ofyn i fyfyrwyr: ‘Beth arall y gallwn ei wneud i’ch cefnogi wrth ichi ddysgu?’. Hoffem rannu â chi rywfaint o’r adborth a gawsom, ynghyd ag awgrymiadau ynghylch sut y gellid ymdrin â’r rhain:
Estyniadau i aseiniadau
Er nad yw hyn yn rhywbeth y gall y staff dysgu ei ddatrys, gallai fod yn fuddiol cynnwys dolen i’r wybodaeth am Estyniadau i Waith Cwrs ynghyd â’r wybodaeth arall am asesiadau.
Strwythur clir
Crybwyllodd rhai myfyrwyr y ffaith eu bod wedi cael anhawster wrth lywio’u ffordd drwy eu llwyth gwaith o safbwynt dysgu ar-lein, a’r angen am strwythur cliriach o ran sut a phryd y bydd y cynnwys yn cael ei ryddhau iddynt. Felly, hoffem annog staff i gynnwys tabl byr ac ynddo ddyddiadau rhyddhau cynnwys (gellir ei gynnwys yng Ngwybodaeth y Modiwl), a chadw at ddyddiadau ac amseroedd y seminarau a’r sesiynau byw a amserlennwyd.
Sesiwn y Fforwm Academi ar gynwysoldeb yr wythnos diwethaf oedd un o’r sesiynau â’r presenoldeb uchaf eleni. Roedd hi’n wych gweld cymaint o ddiddordeb mewn datblygu dysgu sy’n fwy cynhwysol, a chymaint o ymroddiad i wneud hynny hefyd. Cyflwynwyd y sesiwn hon mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. Bu’r Cynghorydd Hygyrchedd Nicky Cashman yn rhoi gwybodaeth i staff am ddemograffeg yn PA, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr.
Dechreuodd y sesiwn â’r cwestiwn eang ‘Beth mae cynwysoldeb yn ei olygu i chi?’ (gweler uchod y cwmwl geiriau a grëwyd gennym). Wedi cyflwyniad Nicky, aethom ymlaen i gynnal gweithgaredd yn seiliedig ar sefyllfaoedd. Cafodd pob grŵp un sefyllfa i weithio â hi. Bob ychydig o funudau, roedd pob grŵp yn cael darn ychwanegol o wybodaeth er mwyn rhoi safbwynt ehangach iddynt ar y sefyllfa.
Mae’r sefyllfaoedd i’w gweld ar waelod y postiad hwn.
Wedi’r gweithgaredd cafwyd trafodaeth ar gyfer y grŵp cyfan. Bu aelodau o staff yn siarad am ‘ddyletswydd gofal’ tuag at eu myfyrwyr ac i ba raddau y disgwylir iddynt fonitro eu myfyrwyr ac y dylent fod yn gwneud hynny. Buom yn trafod hefyd y cydbwysedd rhwng gofalu am fyfyrwyr unigol ac anghenion y garfan gyfan o fyfyrwyr. Roedd y grŵp a fu’n ystyried Sefyllfa Un yn berffaith gywir wrth dynnu sylw at y ffaith y byddai sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu haseinio i grwpiau ymlaen llaw yn ffordd fwy cynhwysol o weithio, er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle mae rhywun yn cael ei eithrio. Cafwyd trafodaeth ynghylch pryd mae asesiadau amgen yn briodol a phryd y byddai cymorth ychwanegol i gwblhau’r asesiadau sy’n bod eisoes yn fwy addas. Yn olaf, trafodwyd pwysigrwydd sefydlu ymddiriedaeth â myfyrwyr, yn ogystal â chysylltu â myfyrwyr a allai fod yn dangos arwyddion cynnar eu bod yn cael anhawster.
Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Nicky ac i’r holl staff a ddaeth i’r sesiwn hon a chyfrannu ati.
Fel y cyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, ddydd Iau 25th Mawrth, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal ail Gynhadledd Fer y flwyddyn academaidd. Y thema fydd ‘Ymgorffori Lles yn y Cwricwlwm’, fydd yn ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng lles a dysgu a sut y gall hyn helpu i gynyddu llwyddiant myfyrwyr a staff.
Rydym ni’n falch i gyhoeddi bod dau siaradwr allanol rhagorol wedi derbyn ein gwahoddiadau i gyflwyno yn ystod y gynhadledd:
Ffynnu yn Aberystwyth – Rhoi Addysg Gadarnhaol ar Waith
Addysg Gadarnhaol yw plethu addysgu ar gyfer canlyniadau academaidd ac ar gyfer lles a datblygu cymeriad er mwyn galluogi’r dysgwr i ffynnu. Mae dechrau ar gwrs astudio academaidd, boed ar lefel israddedig neu uwchraddedig, llawn amser neu ran amser, yn ddigwyddiad bywyd pwysig a all effeithio ar iechyd meddwl a lles. Mae’r flwyddyn academaidd hon wedi bod yn wahanol i unrhyw un arall ac mae ffocws pendant ar les myfyrwyr a staff – y rhai sydd yn addysgu a’r rhai nad ydynt yn addysgu – yn bwysicach nag erioed.
Yn y sesiwn hynod ryngweithiol hon, bydd cyfranogwyr yn dysgu am elfennau allweddol seicoleg gadarnhaol yng nghyd-destun addysg uwch, gan gynnwys:
Pwysigrwydd perthnasoedd cadarnhaol
Defnyddio cryfderau cymeriad wrth addysgu, adborth a datblygu staff
Sut gall persbectifau amser ddylanwadu ar gymhelliant
Bydd staff Prifysgol Aberystwyth yn y sesiwn hon yn cael cyfle i archwilio sut y gall eu harferion dyddiol gefnogi lles eu myfyrwyr, eu cydweithwyr a nhw eu hunain. Bydd y sesiwn yn cynnwys elfennau o adfyfyrio, trafod ac ymarfer gweithgareddau sy’n cefnogi lles. Er y bydd y ffocws yn bennaf ar gefnogi lles myfyrwyr, mae hyn ar ei orau pan fydd staff hefyd yn iach.
Bydd y sesiwn felly hefyd yn cynnig cyfle i’r cyfranogwyr ddatblygu eu strategaethau lles eu hunain ac ystyried sut y gall systemau a gweithdrefnau’r Brifysgol fod yn sail i ddiwylliant o les.
Yn ddiweddar cysylltodd aelod o staff â ni i ofyn am gyngor ynghylch defnyddio rhestrau gwirio yn Blackboard. Tynnwyd ein sylw at nodwedd ddefnyddiol o’r enw Tasgau. Rydym eisoes wedi blogio am ffyrdd o olrhain cynnydd myfyrwyr yn Blackboard drwy ddefnyddio’r nodweddion ‘adolygu’ a ‘rhyddhau addasol’ sy’n eich galluogi i greu llwybrau dysgu rhyngweithiol i fyfyrwyr yn eich modiwl.
Mae’r nodwedd Tasgau, sydd ar gael yn yr Offer Cwrs ar y panel Rheoli Cwrs, yn eich galluogi i greu Tasgau Cwrs, gosod eu blaenoriaeth, dyddiad cyflwyno ac olrhain nifer y myfyrwyr sydd wedi dechrau, sydd wrthi’n cwblhau neu sydd wedi cwblhau’r tasgau.
Pan fyddwch wedi creu eich tasgau cwrs gallwch rannu’r nodwedd Tasgau gyda’r myfyrwyr mewn dwy ffordd. Gallwch naill wneud Tasgau’n weladwy i’r myfyrwyr yn y tab Offer ar gwrs eich modiwl:
Neu gallwch ychwanegu dolen i’r Tasgau yn unrhyw le yn eich cwrs (Offer > Mwy o Offer). Ein hawgrym ni fyddai ei leoli yn Gwybodaeth am y Modiwl.
Wrth gyflwyno Tasgau i’ch myfyriwr gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod disgwyliadau clir:
Pa mor aml y dylai myfyrwyr gadw llygaid am dasgau newydd?
Pa mor aml fyddwch chi’n gwirio am gynnydd?
Beth yw diben defnyddio’r nodwedd? Byddwch yn eglur ynghylch pa mor agos y byddwch chi’n monitro eu cynnydd.
Fel y soniwyd eisoes, bydd hyn yn eich galluogi i weld sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu â’r gweithgareddau yn eich modiwlau, ond hefyd yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr eu hunain olrhain eu cynnydd eu hunain a chadw ar ben eu llwyth gwaith. Gall myfyrwyr weld eu tasgau a’u gosod fel ‘heb ddechrau’ ‘ar y gweill’ neu ‘cwblhawyd’ drwy glicio ar y saeth llwyd am i lawr.
Fel bob amser, rydym yn eich annog i roi cynnig ar y nodwedd hon yn eich modiwlau ymarfer (cewch hyd iddi o dan y tab Fy Sefydliad) a chysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw ymholiadau: lteu@aber.ac.uk
Yn ail, ewch i’n tudalen hyfforddi i archebu lle ar un o’n cyrsiau hyfforddi:
19/01/2021 – Dysgu Gweithredol ac Ymgysylltiad Ar-lein
27/01/2021 – Fforwm Academi 5: Sut mae cynllunio gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb
09/02/2021 – E-ddysgu Uwch: Defnyddio nodweddion datblygedig Panopto
Rydym hefyd yn trefnu i gynnig sesiynau hyfforddi ychwanegol ar ddefnyddio ystafelloedd trafod yn ogystal â sesiynau e-ddysgu galw heibio bob dydd Mawrth rhwng 10:00-11:00 a dydd Iau rhwng 14:00-15:00, o 19 Ionawr tan 4 Chwefror). Mae dolenni i’r sesiynau galw heibio ar gael ar ein blog.
Yn olaf, ewch i’n blog sy’n cynnwys rhagor o awgrymiadau a chanllawiau:
I ailadrodd rhai o’r pwyntiau allweddol o’r adnoddau uchod, o ran addysgu ar-lein, cofiwch:
Gadw pethau’n fyr, ni fydd myfyrwyr yn gallu canolbwyntio ar recordiad awr o hyd.
Gwnewch y sesiwn yn ddiddorol, boed y sesiwn yn recordiad Panopto neu’n sesiwn fyw ar Teams, mae sawl nodwedd a ffordd o hyrwyddo dysgu gweithredol yn hytrach na chreu cynnwys yn seiliedig ar drosglwyddiad.
Cyfannwch eich holl elfennau addysgu, mewn darlithoedd wedi’u recordio cyfeiriwch at seminarau byw, darlleniadau, canolbwyntiwch ar greu llwybr dysgu parhaus i’r myfyrwyr.
Rydym yn hyderus y bydd pob aelod o staff yn bodloni gofynion y sefyllfa bresennol yn llwyddiannus. Cysylltwch os oes gennych unrhyw ymholiadau neu awgrymiadau am hyfforddiant neu adnoddau angenrheidiol: lteu@aber.ac.uk.
Er mwyn cefnogi myfyrwyr yn y flwyddyn arbennig o heriol hon, fe wnaethon ni greu Canllaw Cyflym i Lwyddiant Myfyrwyr gydag awgrymiadau ar reoli amser, yr arferion astudio mwyaf effeithiol, a sut i’ch ysbrydoli’ch hun i ddal ati. Gofynnwn i chi rannu’r fersiwn ryngweithiolhon o’r canllawiau â’ch myfyrwyr (sydd hefyd yn gydnaws â darllenwyr sgrin).