Beth sy’n Newydd yn Blackboard Learn Ultra – Chwefror 2024 

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn gyffrous iawn i rannu manylion y Ffurflenni newydd gyda chi a’r math newydd o gwestiynau Linkert a gyflwynwyd yn y diweddariad ym mis Chwefror. 

Ffurflenni 

Yn aml mae angen i hyfforddwyr gynnal arolwg yn eu dosbarth i gael amcan o ddiddordebau neu farn myfyrwyr ar ystod o bynciau o deithiau maes i adborth cwrs. Nawr, gall hyfforddwyr greu Ffurflen at y diben hwn. 

Cefnogir yr eitemau canlynol mewn Ffurflen: 

  • Cwestiwn Traethawd 
  • Cwestiwn Likert 
  • Cwestiynau amlddewis 
  • Cwestiynau Cywir / Anghywir 
  • Testun 
  • Ffeil leol 
  • Ffeil o storfa gwmwl 
  • Toriad tudalen 
     

Yn ddiofyn, nid yw Ffurflen yn cael ei graddio. Nid oes gan gwestiynau ar ffurflen atebion cywir neu anghywir. Nid yw ffurflenni’n ddienw ar hyn o bryd, bydd y nodwedd hon yn cael ei chynnwys mewn diweddariad yn y dyfodol. 

Llun isod: Enghraifft o Ffurflen heb ei graddio. Ffurflen a ddefnyddir ar gyfer lleoliad addysgu clinigol 

Enghraifft o Ffurflen heb ei graddio a ddefnyddir ar gyfer lleoliad addysgu clinigol

Efallai y bydd rhai hyfforddwyr yn dewis graddio Ffurflen i annog cyfranogiad. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i hyfforddwyr roi gradd â llaw ar gyfer pob cyflwyniad. 

Gall hyfforddwyr weld cyflwyniadau Ffurflen yn ôl myfyriwr neu yn ôl cwestiwn yn y wedd raddio newydd. 

Llun isod: Cyflwyniadau Ffurflen heb ei graddio yn ôl cwestiwn  

Cyflwyniadau Ffurflen heb ei graddio yn ôl cwestiwn

Llun isod: Cyflwyniad Ffurflen wedi’i graddio yn ôl myfyriwr  

Cyflwyniad Ffurflen wedi'i graddio yn ôl myfyriwr

Gall hyfforddwyr lawrlwytho canlyniadau’r Ffurflen o’r dudalen Llyfr Graddau a Chyflwyniadau fel taenlen Excel neu ffeil CSV.

Llun isod: Canlyniadau Ffurflen wedi’i Lawrlwytho o’r wedd Eitemau Graddadwy  

Cyflwyniad Ffurflen wedi'i graddio yn ôl myfyriwr

Llun isod: Canlyniadau Ffurflen wedi’i Lawrlwytho ar gyfer y dudalen Cyflwyniadau  

Canlyniadau Ffurflen wedi’i Lawrlwytho ar gyfer y dudalen Cyflwyniadau

Yng ngwedd grid y Llyfr Graddau, mae cyflwyniadau myfyrwyr ar gyfer Ffurflen heb ei graddio yn ymddangos fel “Cyflwynwyd.” Mae Ffurflenni wedi’u graddio yn arddangos y radd a gofnodwyd â llaw neu statws graddio priodol. 

Cwestiwn Likert 

Mae cwestiynau Likert yn helpu i roi amcan meintiol o farn ac agweddau. Mae’r ymatebion yn aml yn amrywio o anghytuno’n gryf i cytuno’n gryf. Mae’r math hwn o gwestiwn bellach ar gael yn yr asesiad Ffurflen . 

Llun isod: Gosod cwestiwn Likert  

Gosod cwestiwn Likert

Mae gan yr ystod graddfa dri opsiwn yn ddiofyn, gyda labelu awgrymedig ar gyfer opsiynau un a thri fel anghytuno’n gryfacytuno’n gryf. Gall hyfforddwyr ddewis ystod o dri, pump neu saith opsiwn a labelu’r opsiynau fel yr hoffech. Gall hyfforddwyr hefyd ddewis cynnwys yr opsiwn ‘Ddim yn berthnasol’ . 

Llun isod: Cwestiwn Likert enghreifftiol mewn arolwg diwedd uned 

Cwestiwn Likert enghreifftiol mewn arolwg diwedd uned

Noder: Mae cwestiwn Likert mewn arolwg a grëwyd yn y wedd cwrs Learn Original yn trosi/copïo i Ffurflen yng ngwedd cwrs Learn Ultra. Yr amrediad graddfa diofyn yw tri. 

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*