Blackboard Ultra: Cyfarfod Rhanddeiliaid 1

Blackboard Ultra icon

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn dechrau gweithio ar ein prosiect nesaf, sef trosglwyddo i ddefnyddio Blackboard Ultra. Dros y misoedd nesaf byddwn yn defnyddio ein blog i roi gwybod am hynt y prosiect, yn ogystal â rhannu gwybodaeth bwysig.

Dros y flwyddyn nesaf, mae’n debyg y clywch yr ymadroddion canlynol:

  1. Ultra Base Navigation: yr enw a roddwyd i’r dyluniad a’r ffordd newydd o lywio o fewn Blackboard, cyn i chi fynd i mewn i fodiwl neu gyfundrefn.
  2. Ultra Course View; dyluniad mwy modern a rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio ar gyfer modiwlau, gyda rhai darnau newydd o offer nad ydynt ar gael yn Original Course View.
  3. Original Course View; y dyluniad a’r rhyngwyneb yr ydym yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer modiwlau, ac sy’n dod i ben yn Blackboard.
  4. LTI (Learning Tools Interoperability); mae hyn yn cyfeirio at offer allanol sydd wedi’u hintegreiddio â Blackboard, fel Turnitin a Panopto.

Ceir manteision i ddefnyddio Ultra:

  1. Ffordd fwy greddfol o ddylunio cyrsiau a chreu cynnwys.
  2. Mwy cydnaws â dyfeisiau symudol a chyfrifiaduron llechen.
  3. Yn elwa yn sgil diweddariadau a chefnogaeth barhaus Blackboard.
  4. Estheteg wedi’i diweddaru.

Er ein bod yn cydnabod y manteision hyn, gallai’r newid darfu ar gydweithwyr a myfyrwyr ond byddwn yn gweithio’n galed i sicrhau bod y broses o’i gyflwyno yn un mor esmwyth â phosibl.

Ar gyfer cydweithwyr, byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi y flwyddyn nesaf fel eich bod mor barod â phosibl ar gyfer y newid hwn.

Yn y blogbost cyntaf hwn, byddwn yn rhoi crynodeb o’n cyfarfod ymwneud cyntaf â’r rhanddeiliaid, a gynhaliwyd ddydd Gwener 16 Medi. Gwahoddwyd cyfarwyddwyr dysgu ac addysgu eich adran, ynghyd â rhanddeiliaid eraill, i’r cyfarfod.

Cafodd pawb a oedd yn bresennol daith o amgylch rhyngwyneb Ultra o safbwynt hyfforddwr a diwrnod ym mywyd myfyriwr, wedi eu cyflwyno gan ein cydweithwyr cefnogi cleientiaid o Blackboard. 

Rydym wedi sicrhau bod y cyfarfod ar gael i bawb drwy Panopto.

Yn dilyn y cyfarfod rhanddeiliaid byddwn yn gweithio ar yr agweddau canlynol:

  1. Pryd y gallwn roi Ultra Base Navigation ar waith?
  2. Sut brofiad fydd y broses o greu a chopïo cyrsiau i gydweithwyr?
  3. Sut mae Blackboard Ultra yn ymdopi â chynnwys Cymraeg a Saesneg?

Cadwch lygad am ragor o ddiweddariadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni (udda@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*