Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 5/10/2020

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau gyda Mary Jacob Darlithydd - Dysgu ac Addysgu
Crynodeb Wythnosol o Adnoddau gyda Mary Jacob Darlithydd – Dysgu ac Addysgu

Fel darlithydd ym maes dysgu ac addysgu sy’n gyfrifol am y TUAAU, rwy’n cadw llygad am adnoddau newydd i gynorthwyo ein staff i ddysgu’n effeithiol ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gweminarau allanol, pecynnau cymorth, cyhoeddiadau ac adnoddau eraill. Oherwydd bod dysgu gweithredol yn cael blaenoriaeth ar agenda’r Brifysgol, rwy’n hynod o awyddus i rannu canllawiau ar gyfer symud dysgu gweithredol ar-lein.  

Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth.

Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Sicrhau bod myfyrwyr yn ymroi i’r tasgau ar-lein nad ydynt yn fyw: Safbwynt y Ddamcaniaeth Hunanbenderfynu

Yn ôl arolwg o ddisgwyliadau myfyrwyr a gynhaliwyd yn 2020 gan Wonkhe yn gofyn am sefyllfaoedd lle y byddai cyfyngiad ar sesiynau dysgu wyneb-yn-wyneb, dywedodd 71 y cant y byddent yn ei chael hi’n anodd cadw eu brwdfrydedd a chynnal eu diddordeb mewn dysgu.

Suty gallwn sicrhau bod ein myfyrwyr yn ymroi i’r tasgau ar-lein nad ydynt yn fyw?

Mae’r ddamcaniaeth Hunanbenderfynu (SDT – self-determination theory) gan Deci a Ryan (1985, 2002) yn ddamcaniaeth am ysgogiad sydd, ar hyn o bryd, ymhlith y rhai mwyaf cynhwysfawr, a’r rhai a chanddynt y sylfaen empeiraidd gadarnaf. Mae ymchwil wedi dangos bod Damcaniaeth Hunanbenderfynu yn rhagfynegi amrywiaeth o ganlyniadau dysgu, gan gynnwys perfformiad, dyfalbarhad a bodlonrwydd â chyrsiau (Deci a Ryan, 1985). Gellir defnyddio strategaethau a seilir ar y Ddamcaniaeth hon mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd addysgol, gan gynnwys llwyfannau dysgu ar-lein (Kuan-Chung a Syh-Jong, 2010). Yn ôl y Ddamcaniaeth, pan fydd anghenion seicolegol sylfaenol myfyrwyr yn cael eu bodloni o ran ymreolaeth, cymhwysedd a pherthnasedd, maent yn fwy tebyg o fewnoli eu symbyliad i ddysgu ac o ymroi i’w hastudiaethau.

Image showing the three components of self-determination theory: competence, autonomy and relatedness, all contributing to motivation.

Ffynhonnell: https://ela-source.com/2019/09/25/self-determination-theory-in-education/

Read More

Fforwm Academi 2020/21


Mae’r Fforwm Academi yn darparu llwyfan i rannu arferion da o ran dysgu ac addysgu. Mae’r Fforwm yn agored i aelodau o gymuned y Brifysgol: mae croeso i staff dysgu, tiwtoriaid uwchraddedig, staff cynorthwyol, a myfyrwyr. Bydd pob fforwm yn ystod 2020/21 yn cael eu cynnal ar-lein a gallwch glicio yma i archebu eich lle.

Y Fforymau Academi ar gyfer y flwyddyn 2020/21 yw:

07.10.2020 (14:00-15:30): Creating a Learning and Teaching Community

19.10.2020 (11:00-12:30): Creating Podcasts in Panopto

19.11.2020 (10:00-11:30): Why and how to help students to reflect on their learning?

30.11.2020 (14:00-15:30): Motivation strategies for Online Learning Engagement

27.01.2021 (15:00-16:30): How can I plan online and in person activities?

19.02.2021 (10:00-11:30): How can I make my teaching more inclusive?

Gobeithio y gallwch ymuno â ni ar gyfer y fforymau. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau (udda@aber.ac.uk).

MS Teams: Sesiynau Galw Heibio

Hoffem gynnig cyfle i staff y Brifysgol ymuno â ni yn ein sesiynau galw heibio ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu. Bydd y rhain yn gyfle anffurfiol i chi siarad â’n Harbenigwyr Dysgu Ar-lein ac i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau a allai fod wedi codi yn ystod wythnosau cyntaf y tymor.

Cynhelir pob sesiwn galw heibio drwy MS Teams ac nid oes angen archebu lle, dim ond clicio ar y dolenni isod.

Bydd y sesiynau galw heibio hyn yn cael eu cynnal ar:
06.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

07.10.2020 (14:00-15:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

09.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

13.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

14.10.2020 (14:00-15:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

16.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

Gobeithiwn y bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i chi gael atebion i unrhyw gwestiynau am eich anghenion addysgu.

MS Teams: 10 Cwestiwn Cyffredin

[:cy]Yn dilyn sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd gennym yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu, dyma atebion i 10 cwestiwn cyffredin. Ceir rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio MS Teams yn ein hadran cwestiynau cyffredin, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach (udda@aber.ac.uk).

C1: Os ydw i’n rhannu fy sgrin alla i weld y chat o hyd?
A1: Yn anffodus, oni bai fod gennych ddwy sgrin yna ni fydd hyn yn bosibl. Gallech naill ai ofyn i fyfyriwr neu gydweithiwr fonitro’r chat i chi neu gallech roi’r gorau i rannu eich sgrin o bryd i’w gilydd i wirio beth sydd wedi’i bostio yn y chat. Mae rhai opsiynau rhannu sgrin uwch yn bodoli a allai eich galluogi i weld y chat mewn rhai achosion, ac rydym yn hapus i drafod y rhain gyda chi ymhellach.

C2: Hoffwn ychwanegu unigolyn allanol o’r tu allan i Brifysgol Aberystwyth at un o’m timau, a yw hyn yn bosibl?
A2: Mae’n bosibl ychwanegu unigolion allanol sydd â chyfrif Office 365 gyda pharth ac.uk, ond bydd angen i unrhyw unigolyn allanol sydd heb gyfrif ac.uk gael mynediad yna bydd yn rhaid i chi i lenwi ffurflen gais er mwyn iddynt gael mynediad at Teams Prifysgol Aberystwyth. Fel arall, gallech sefydlu cyfarfodydd gydag unigolion allanol drwy MS Teams heb orfod gofyn am fynediad.

C3: Ar ôl cofnodi cyfarfod, sut byddwn i’n cael gafael ar y recordiad a pha mor hir bydd ar gael?
A3:
Ar ôl dod â chyfarfod i ben bydd y recordiad yn ymddangos yn y chat a bydd hwn ar gael i’w lawrlwytho am 22 diwrnod. Mae’n syniad da eich bod yn ymgyfarwyddo â Pholisi Cipio Darlithoedd y Brifysgol am fanylion am ba fath o sesiynau mae’n briodol eu recordio.

Read More

Rhaglen Datblygiad Staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bydd rhaglen Datblygiad Staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni (2020/21) yn cael ei darparu ar-lein, gyda’r mwyafrif o’r gweithdai yn cael eu blaen-recordio a’u gosod ar y Porth Adnoddau, fel bod modd i staff eu dilyn pan mae hi’n gyfleus iddynt. Mae rhai o’r gweithdai eisoes ar y Porth Adnoddau, ac fe fydd rhagor yn cael eu hychwanegu dros yr wythnosau nesaf.

Yn ogystal â gweithdai sydd wedi’i blaen-recordio, bydd rhai gweithdai yn cael eu cynnal yn fyw. Dyma gipolwg o rai o’r sesiynau a ddarperir yn fyw:

Hydref 2020
Dydd Mawrth (6 Hydref), 09:30-10:00 – Cyfres Iechyd a Lles: chi fel staff a’ch myfyrwyr (1/3)
Dydd Mawrth (13 Hydref), 09:30-10:00 – Cyfres Iechyd a Lles: chi fel staff a’ch myfyrwyr (2/3)
Dydd Mawrth (20 Hydref), 09:30-10:00 – Cyfres Iechyd a Lles: chi fel staff a’ch myfyrwyr (3/3)

Ionawr 2021
Dydd Mercher (27 Ionawr), 15:00-16:30 – Gweminar dysgu ac addysgu (rhannu arfer dda o ddysgu cyfunol)

Mehefin 2021
Dydd Mercher (23 Mehefin), 15:00-16:30 – Gweminar dysgu ac addysgu (rhannu arfer dda o ddysgu cyfunol)
Dydd Mawrth (29 Mehefin) – Cynhadledd Ymchwil y Coleg (ffurf a lleoliad i’w gadarnhau)

Cymerwch olwg ar y rhaglen lawn ar gyfer 2020/21, a dilynwch y ddolen hon i gofrestru.