MS Teams: 10 Cwestiwn Cyffredin

[:cy]Yn dilyn sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd gennym yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu, dyma atebion i 10 cwestiwn cyffredin. Ceir rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio MS Teams yn ein hadran cwestiynau cyffredin, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach (udda@aber.ac.uk).

C1: Os ydw i’n rhannu fy sgrin alla i weld y chat o hyd?
A1: Yn anffodus, oni bai fod gennych ddwy sgrin yna ni fydd hyn yn bosibl. Gallech naill ai ofyn i fyfyriwr neu gydweithiwr fonitro’r chat i chi neu gallech roi’r gorau i rannu eich sgrin o bryd i’w gilydd i wirio beth sydd wedi’i bostio yn y chat. Mae rhai opsiynau rhannu sgrin uwch yn bodoli a allai eich galluogi i weld y chat mewn rhai achosion, ac rydym yn hapus i drafod y rhain gyda chi ymhellach.

C2: Hoffwn ychwanegu unigolyn allanol o’r tu allan i Brifysgol Aberystwyth at un o’m timau, a yw hyn yn bosibl?
A2: Mae’n bosibl ychwanegu unigolion allanol sydd â chyfrif Office 365 gyda pharth ac.uk, ond bydd angen i unrhyw unigolyn allanol sydd heb gyfrif ac.uk gael mynediad yna bydd yn rhaid i chi i lenwi ffurflen gais er mwyn iddynt gael mynediad at Teams Prifysgol Aberystwyth. Fel arall, gallech sefydlu cyfarfodydd gydag unigolion allanol drwy MS Teams heb orfod gofyn am fynediad.

C3: Ar ôl cofnodi cyfarfod, sut byddwn i’n cael gafael ar y recordiad a pha mor hir bydd ar gael?
A3:
Ar ôl dod â chyfarfod i ben bydd y recordiad yn ymddangos yn y chat a bydd hwn ar gael i’w lawrlwytho am 22 diwrnod. Mae’n syniad da eich bod yn ymgyfarwyddo â Pholisi Cipio Darlithoedd y Brifysgol am fanylion am ba fath o sesiynau mae’n briodol eu recordio.

C4: Alla i lanlwytho recordiad o gyfarfod MS Teams i Blackboard?
A4:
Gallwch – ar ôl lawrlwytho recordiad o’r cyfarfod o’r chat i’ch dyfais, gallwch ei lanlwytho i Panopto ac yna darparu dolen (neu fideo wedi’i fewnblannu) yn ffolder modiwlau yn Blackboard, yr un ffordd ag y byddech yn gwneud ar gyfer unrhyw recordiad darlith arall.

C5: A oes opsiwn i eithrio rhywun rhag ymddangos mewn recordiad o gyfarfod?
A5:
Yn gyntaf, gallech ofyn i bawb nad yw am ymddangos ar y recordiad i ddiffodd eu camerâu a’u meicroffonau. Yn ail, gallech atal y recordiad i gymryd cwestiynau neu sylwadau gan unrhyw unigolion nad ydynt am ymddangos ar y recordiad ac yna ailgychwyn y recordiad ar ôl cymryd y cwestiynau neu’r sylwadau hyn. Mae’n syniad da i chi ymgyfarwyddo â’n canllawiau ar gofnodi sesiynau Teams.

C6: Alla i droi meicroffon cyfranogwyr eraill mewn cyfarfod ymlaen ac i ffwrdd?
A6:
O’r rhestr cyfranogwyr mewn cyfarfod, gallwch droi meicroffon cyfranogwr penodol i ffwrdd neu ddewis y botwm i droi meicroffon pob cyfranogwr i ffwrdd. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cyfyngu ar sŵn cefndir. Nid oes modd i chi droi meicroffonau unrhyw gyfranogwyr eraill ymlaen, bydd angen i’r cyfranogwyr wneud hyn eu hunain.

C7: Os ydw i’n cyflwyno sleid PowerPoint mewn cyfarfod, a fydd myfyrwyr yn dal i allu fy ngweld wrth i mi ddarlithio?
A7:
Os yw eich camera ymlaen yna bydd eich delwedd yn ymddangos ar ochr dde isaf sgrin y myfyrwyr. Does dim angen i chi ddewis unrhyw osodiadau penodol, bydd hyn yn digwydd yn awtomatig.

C8: Os ydw i’n defnyddio nodwedd y bwrdd gwyn mewn cyfarfod, a allaf gadw copi o’r hyn a ysgrifennwyd/a dynnwyd ar y bwrdd gwyn?
A8:
Gallwch allforio’r bwrdd gwyn fel delwedd yn dilyn y sesiwn neu fel arall gallech gymryd sgrin brintiedig o’r bwrdd gwyn.

C9: Pryd bydd ystafelloedd trafod (breakout rooms) yn cael eu cyflwyno yn MS Teams?
A9:
Mae Microsoft wedi dweud y bydd ystafelloedd trafod yn cael eu cyflwyno ym mis Hydref 2020. Byddwn yn rhyddhau canllawiau ar ddefnyddio’r swyddogaeth hon unwaith y bydd wedi dod yn fyw. Yn y cyfamser, os oes gwir angen ichi ddefnyddio ystafelloedd trafod yna mae modd sefydlu ystafelloedd trafod drwy greu ‘timau’ a ‘sianeli’, ond mae’n llafurus iawn. Byddem yn awgrymu eich bod yn aros i ystafelloedd trafod gael eu cyflwyno os oes modd i chi wneud.

C10: Beth yw uchafswm y cyfranogwyr y gallwch eu gweld ar y sgrin ar un adeg?
A10:
Ar hyn o bryd, uchafswm y cyfranogwyr y gallwch eu gweld ar y sgrin ar unrhyw un adeg yw 49 (mewn fformat 7×7).[:]

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*