Mae’r Grŵp E-ddysgu’n cynnal nifer o Fforymau Academi trwy gydol y flwyddyn. Diben y Fforymau Academi yw dod ag aelodau ynghyd ar draws y Brifysgol i drafod mater yn ymwneud â Dysgu ac Addysgu. Roedd ein Fforwm Academi ddiwethaf yn canolbwyntio ar Feithrin Hunanddisgyblaeth mewn Dysgwyr. Cafodd y pwnc hwn ei awgrymu yn dilyn Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol y llynedd. Yn y gynhadledd, gwnaeth Dr Simon Payne, Liz Titley a Liam Knox roi cyflwyniad ar hunanddisgyblaeth. Yn ogystal â hyn gwnaeth y Grŵp E-ddysgu gynnal Arddangosfa Academi ble roedd Simon yn cyflwyno strategaethau ar gyfer meithrin hunanddisgyblaeth.
Mae nodiadau llawn o’r Fforymau Academi ar gael ar Wici arbennig sydd ar gael yn y modiwl Dysgu trwy gyfrwng Technoleg, ac mae gan bob aelod o staff fynediad i hwn.
Ceir crynodeb o’n trafodaethau isod:
- Strategaethau ar gyfer annog hunanddisgyblaeth mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu
- Mae myfyrwyr yn treulio mwy o amser yn dysgu y tu allan i’r dosbarth felly fe ddylem fod yn eu dysgu sut i ddysgu
- Pa sgiliau sydd gan fyfyrwyr pan fônt yn cyrraedd a beth sydd angen i ni eu dysgu er mwyn iddynt fod yn ddysgwyr hunan-ddisgybledig
- Sut allwn ni bwysleisio a mesur gwelliant
Os hoffech ymchwilio ymhellach i hunanddisgyblaeth gallwch wylio’r recordiad o Arddangosfa Academi Simon yn ddiweddar. Yn ogystal â hyn, efallai y bydd yr erthyglau hyn o ddiddordeb:
- Cassidy, S. 2011. Self-regulated learning in higher education: Identifying component process Studies in Higher Education 36: 8. tt. 989-1000. https://doi.org/10.1080/03075079.2010.503269
- Zimmerman, B. J. 2002. Becoming a Self-Regulated Learner: An Overview. Theory into Practice. 41: 2. tt. 64-70. https://www.jstor.org/stable/1477457
Cynhelir ein Fforwm Academi nesaf ar 9 Mai am 11yb a bydd yn canolbwyntio ar y pwnc ‘Sut mae gwybod fy mod yn addysgu’n llwyddiannus?’ Mae’r fforymau’n ffordd dda o rannu profiadau a dysgu gan eraill a hefyd myfyrio ar eich dulliau eich hun o ymdrin â’r pwnc. Os hoffech awgrymu pwnc ar gyfer Fforwm Academi y flwyddyn nesaf cysylltwch â ni. Gallwch gofrestru ar gyfer y Fforwm Academi drwy archebu ar-lein.