Dr Rob Grieve – Cyflwyniad yn ein Cynhadledd Fechan

Mae’r Grŵp E-ddysgu yn cynnal cynhadledd fechan ar Addysg Gynhwysol Ddydd Mercher 10 Ebrill am 1pm yn E3, Ystafell Hyfforddi E-ddysgu, Academi Aber. Yn ychwanegol at ein postiad blog blaenorol yn cyhoeddi’r siaradwyr ar gyfer y gynhadledd fechan, rydym yn falch o gyhoeddi hefyd y bydd Dr Rob Grieve yn rhoi cyflwyniad wedi’i recordio dan y teitl Stand Up and Be Heard: Student Fear of Public Speaking.

Mae Rob yn Uwch Ddarlithydd mewn Ffisiotherapi yn Adran y Proffesiynau Perthynol i Iechyd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE). Yn ogystal â’i brif faes ymchwil a’i brif weithgareddau dysgu, mae Rob hefyd yn un o ymddiriedolwyr Cymdeithas Atal Dweud Prydain. Yn rhinwedd hynny, mae wedi siarad mewn sawl digwyddiad am ddefnyddio cyflwyniadau fel math o asesu a rhoi i fyfyrwyr y sgiliau angenrheidiol ar gyfer siarad cyhoeddus. Yn y cyflwyniad hwn, bydd Rob yn cyfeirio at ambell un o’r cyflwyniadau y mae wedi’u rhoi yn ddiweddar yn Advance Higher Education. Bydd Rob hefyd yn myfyrio ar weithdai Stand Up and Be Heard y mae wedi bod yn eu cynnal i fyfyrwyr y mae arnynt ofn siarad yn gyhoeddus. Nod y gweithdai oedd cefnogi dysgu ac addysgu ym maes cyflwyniadau a siarad cyhoeddus trwy gyfrwng strategaethau penodol, ac adolygu manteision cyffredinol siarad cyhoeddus fel sgìl trosglwyddadwy ar gyfer y brifysgol, bywyd, a chyflogaeth yn y dyfodol. Mae Rob yn adeiladu ar sail arolwg a gynhaliwyd yn 2012 a dystiodd fod 80% o fyfyrwyr yn dweud iddynt brofi pryder cymdeithasol yn rhan o aseiniadau a oedd yn cynnwys siarad cyhoeddus (Russell a Topham, 2012). Yn ogystal â hyn, canfu astudiaeth bellach (Marinho et al, 2017) fod gan 64% o fyfyrwyr ofn siarad yn gyhoeddus, tra byddai 89% wedi hoffi petai eu rhaglen israddedig wedi cynnwys dosbarthiadau ar wella eu siarad cyhoeddus. Ceir rhagor o wybodaeth am waith Rob yn y postiad blog hwn. Enw ei gyfrif ar Twitter yw @robgrieve17.

Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn ein cynhadledd fechan. Mae ambell le ar gael o hyd. Gallwch archebu eich lle ar-lein.

Cyfeiriadau

Marinho, ACF., de Madeiros, AM., Gama, AC., & Teixeir, LC. 2017. Fear of Public Speaking: Perception of College Students and Correlates. Journal of Voice. 31:1 DOI: 10.1016/j.jvoice.2015.12.012

Russell, G. a Topham, P. 2012. The impact of social anxiety on student learning and wellbeing in higher education. Journal of Mental Health 21:4. Tt. 375-385. https://doi.org/10.3109/09638237.2012.694505

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*