Nodwedd ‘Tasgau’ yn Blackboard – ffordd hawdd o alluogi myfyrwyr i olrhain eu cynnydd!

Yn ddiweddar cysylltodd aelod o staff â ni i ofyn am gyngor ynghylch defnyddio rhestrau gwirio yn Blackboard. Tynnwyd ein sylw at nodwedd ddefnyddiol o’r enw Tasgau. Rydym eisoes wedi blogio am ffyrdd o olrhain cynnydd myfyrwyr yn Blackboard drwy ddefnyddio’r nodweddion ‘adolygu’ a ‘rhyddhau addasol’ sy’n eich galluogi i greu llwybrau dysgu rhyngweithiol i fyfyrwyr yn eich modiwl.

Mae’r nodwedd Tasgau, sydd ar gael yn yr Offer Cwrs ar y panel Rheoli Cwrs, yn eich galluogi i greu Tasgau Cwrs, gosod eu blaenoriaeth, dyddiad cyflwyno ac olrhain nifer y myfyrwyr sydd wedi dechrau, sydd wrthi’n cwblhau neu sydd wedi cwblhau’r tasgau.

A screenshot showing where you can find the Tasks tool under the course management
A screenshot showing the Tasks tool interface

Pan fyddwch wedi creu eich tasgau cwrs gallwch rannu’r nodwedd Tasgau gyda’r myfyrwyr mewn dwy ffordd. Gallwch naill wneud Tasgau’n weladwy i’r myfyrwyr yn y tab Offer ar gwrs eich modiwl:

a screenshot showing where you can find Tasks on the course menu

Neu gallwch ychwanegu dolen i’r Tasgau yn unrhyw le yn eich cwrs (Offer > Mwy o Offer). Ein hawgrym ni fyddai ei leoli yn Gwybodaeth am y Modiwl.a screenshot showing where you can find Tasks under tools

Wrth gyflwyno Tasgau i’ch myfyriwr gwnewch yn siŵr eich bod yn gosod disgwyliadau clir:

  • Pa mor aml y dylai myfyrwyr gadw llygaid am dasgau newydd?
  • Pa mor aml fyddwch chi’n gwirio am gynnydd?
  • Beth yw diben defnyddio’r nodwedd? Byddwch yn eglur ynghylch pa mor agos y byddwch chi’n monitro eu cynnydd.

Fel y soniwyd eisoes, bydd hyn yn eich galluogi i weld sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu â’r gweithgareddau yn eich modiwlau, ond hefyd yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr eu hunain olrhain eu cynnydd eu hunain a chadw ar ben eu llwyth gwaith. Gall myfyrwyr weld eu tasgau a’u gosod fel ‘heb ddechrau’ ‘ar y gweill’ neu ‘cwblhawyd’ drwy glicio ar y saeth llwyd am i lawr.

Fel bob amser, rydym yn eich annog i roi cynnig ar y nodwedd hon yn eich modiwlau ymarfer (cewch hyd iddi o dan y tab Fy Sefydliad) a chysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw ymholiadau: lteu@aber.ac.uk

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*