
Ni fydd Turnitin ar gael i’w ddefnyddio rhwng 16:00 a 20:00 ddydd Sadwrn 18 Ionawr 2025 oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Yn ystod y cyfnod, ni fydd modd i chi gyflwyno na graddio asesiadau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Ni fydd Turnitin ar gael i’w ddefnyddio rhwng 16:00 a 20:00 ddydd Sadwrn 18 Ionawr 2025 oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Yn ystod y cyfnod, ni fydd modd i chi gyflwyno na graddio asesiadau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Ym mis Rhagfyr eleni, mae Blackboard wedi ei gwneud hi’n haws gweld negeseuon newydd mewn Trafodaethau a chyflwyniadau hwyr yn Blackboard Assignments (nid Turnitin). Yn ogystal, rydym yn tynnu sylw at ryddhau Sgyrsiau ag AI yn Blackboard a’r Gynhadledd Fer Ar-lein ar 18 Rhagfyr.
Pwnc Blackboard cysylltiedig: Trafodaethau
Mae Blackboard wedi ychwanegu dangosydd “Newydd” sy’n ymddangos wrth ymyl negeseuon ac atebion nad yw defnyddiwr wedi’u gweld eto. Mae hyn yn helpu i gyfeirio ymgysylltiad drwy ei gwneud hi’n haws dod o hyd i drafodaethau newydd.
Llun 1: Y dangosydd “Newydd” ochr yn ochr â neges ac ateb

Gweler hefyd yr adran ar y Y gallu i ‘ddilyn’ trafodaethau ar gyfer ymgysylltu gwell o ddiweddariad mis Awst 2024
Pwnc Blackboard cysylltiedig: Graddio Aseiniadau gyda Graddio Hyblyg
Er mwyn helpu hyfforddwyr i adnabod cyflwyniadau hwyr yn gyflym yn y faner ymgeisio, mae gan gyflwyniadau hwyr bellach ddangosydd Hwyr. Mae Blackboard hefyd wedi diweddaru’r geiriad o Cyflwynwyd yn hwyr <dyddiad> i Cyflwynwyd <dyddiad>.

Mae’r adnodd Cynorthwyydd Dylunio DA ddiweddaraf wedi’i alluogi yn Blackboard.
Mae AI Conversations yn darparu bot sgwrsio i fyfyrwyr ryngweithio ag ef fel rhan o weithgaredd dysgu.
Mae dau opsiwn o fewn AI Conversations:
Ar ôl ei osod, gall myfyrwyr gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r pwnc ymhellach.
Mae myfyrwyr yn teipio ymateb i’r cwestiynau a ofynnir gan y bot sgwrsio DA. Ar ddiwedd y gweithgaredd, mae myfyrwyr yn ymateb i gwestiwn myfyriol i amlinellu sut y gwnaeth y sgwrs helpu gyda’u dealltwriaeth o’r pwnc.
Byddwn yn arddangos AI Conversations yn ein Cynhadledd Fer ar-lein ddydd Mercher 18 Rhagfyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein blog.
E-ddysgu Uwch: Mae cyflwyniad i hyfforddiant Cynorthwyydd Dylunio DA hefyd wedi’i ddiweddaru i gynnwys AI Conversations. Gallwch archebu lle ar y cwrs ar y system archebu Digwyddiadau a Hyfforddiant.
Gweler Sgwrs ag AI am ragor o wybodaeth.

Bydd Mudiadau Ymarfer Blackboard Original yn cael eu dileu ddydd Iau 9 Ionawr 2025.
Mae’r Mudiadau Ymarfer hyn yn Original, sef yr hen fersiwn o Blackboard.
Mae gan bob aelod o staff Fudiadau ymarfer Ultra gyda’r confensiwn enwi Enw Cyntaf, Enw Olaf Cwrs Ymarfer Ultra / Ultra Practice (Ultra_username) y gellir eu cyrchu o’r tab Mudiad ar y ddewislen ar y chwith.
Gellir copïo cynnwys o’r Mudiad Ymarfer ‘Original’ i’r Mudiad Ymarfer ‘Ultra’. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Cwestiwn Cyffredin.
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â symud Mudiadau o Original i Ultra ar gael ar y blogbost hwn.
Cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon.

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.
Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ei digwyddiad olaf o’r flwyddyn.
Ddydd Mercher 18 Rhagfyr (10:00-14:30), byddwn yn cynnal Cynhadledd Fer ar-lein yn edrych ar Bresenoldeb Blackboard Eithriadol.
Rydym yn falch iawn o gael dau gyflwynydd allanol yn ymuno â ni.
Hefyd yn ymuno â ni i rannu eu cyrsiau buddugol mae Panna Karlinger o’r Ysgol Addysg a Lauren Harvey o Adran y Gyfraith a Throseddeg. Cymerodd y ddwy ran yn ein Gwobr Cwrs Eithriadol mewnol y llynedd.
Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn ysbrydoli mynychwyr ac yn rhoi syniadau i gydweithwyr ynghylch sut y gallant ddatblygu eu cyrsiau cyn Semester 2.
Rydym hefyd yn defnyddio’r digwyddiad hwn fel sbardun i ddechrau meddwl am well presenoldeb ar Blackboard.
Ac yn olaf, byddwn yn rhannu’r offer Cynorthwyydd Dylunio DA diweddaraf yr ydym yn bwriadu ei alluogi ym mis Ionawr: AI Conversations. Mae hyn yn adeiladu ar yr offer Cynorthwyydd Dylunio DA eraill yr ydym eisoes wedi’u galluogi yn Blackboard.
Gall cydweithwyr archebu lle ar gyfer y digwyddiad hanner diwrnod hwn drwy’r system archebu ar-lein a bydd gwahoddiad Teams yn cael ei anfon allan.
Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni (eddysgu@aber.ac.uk).
Os ydych chi’n cael trafferth meddwl am syniadau ar gyfer y testun amgen ar eich delweddau, gall Cynorthwyydd Testun Amgen DA Ally roi awgrymiadau i chi.

Dylech bob amser wirio’r awgrym a ddarperir gan y Cynorthwyydd DA oherwydd efallai na fydd yn rhoi disgrifiad cywir o’r ddelwedd. Gallwch olygu unrhyw awgrymiadau a gynhyrchir gan y Cynorthwyydd DA.
Edrychwch ar y canllawiau deunydd dysgu hygyrch i ddarganfod pam mae Testun Amgen yn bwysig. Mae’r offer hyfforddi Poet yn rhoi cyfarwyddyd ar sut a phryd i ddefnyddio Testun Amgen yn ogystal ag adnoddau ar-lein i ymarfer creu testun amgen defnyddiol ar gyfer delweddau (noder bod gwefan Poet yn safle allanol ac nad yw ar gael yn Gymraeg).
Ni fydd Blackboard ar gael i’w ddefnyddio rhwng 10:00-16:00 ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr 2024 oherwydd gwaith cynnal a chadw rheolaidd.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.
Mae diweddariad Blackboard mis Tachwedd yn cynnwys gwelliannau i argraffu Profion, Dogfennau a Golygu Sypiau.
Pwnc Cymorth Blackboard cysylltiedig: Cronfeydd Cwestiynau
Gall hyfforddwyr nawr argraffu profion sy’n cynnwys cwestiynau o Gronfeydd Cwestiynau. Bydd allwedd ateb hefyd yn cael ei hargraffu gyda’r prawf cyfatebol. Mae hyn yn sicrhau bod hyfforddwyr bob amser yn cael allwedd ateb sy’n cyd-fynd â’r prawf. Mae Blackboard yn cynhyrchu’r allwedd ateb ac yn ei hargraffu cyn y prawf. Mae’r allwedd ateb hefyd wedi’i labelu’n glir i sicrhau ymwybyddiaeth.
Mae’r system yn cynhyrchu fersiwn wahanol o’r allwedd ateb a’r prawf bob tro y bydd prawf yn cael ei argraffu. Bydd prawf:
Llun 1: Argraffu prawf

Pwnc Cymorth Blackboard Cysylltiedig: Creu Dogfennau
Er mwyn helpu i newid maint blociau tal fertigol, mae Blackboard wedi addasu’r ddolen newid maint. Nawr, gall hyfforddwyr newid maint bloc trwy ddewis ymyl fertigol bloc. Nid oes angen gosod y llygoden yn uniongyrchol dros y ddolen.
Llun 1: Dolen newid maint mewn dogfen

Am fwy o wybodaeth am Ddogfennau Blackboard gweler ein blogbost blaenorol ar Welliannau i Ddogfennau Blackboard.
Pwnc Cymorth Blackboard Cysylltiedig: Swp-olygu
“Newid dyddiadau i ddyddiad a / neu amser penodol” yw’r opsiwn mwyaf poblogaidd a ddefnyddir wrth olygu swp i newid dyddiadau mewn swp, felly nawr dyma’r opsiwn diofyn. Mae’r newid hwn yn symleiddio’r broses i ddefnyddwyr ac yn helpu hyfforddwyr i baratoi cyrsiau ar gyfer addysgu a dysgu yn gyflymach byth.
Llun 1: Dewis Golygu Dyddiadau yn Swp-olygu


Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Gwobr Cwrs Nodedig 2024-25 ar agor.
Mae’r GCN yn cael ei farnu ar draws 4 categori:
Gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno 3 arfer sy’n sefyll ar wahân ar gyfer eu Cwrs i helpu i fframio eu cais cyn hunanasesu eu cwrs – gall hyn fod yn naratif 1,000 o eiriau neu’n recordiad Panopto 8 munud o hyd.
Yn dilyn yr hunanasesiad, caiff y cyrsiau eu hasesu hefyd gan banel o arbenigwyr.
Mae’r newidiadau i’r ffurflen eleni yn cynnwys:
Er mwyn helpu i baratoi ar gyfer ceisiadau, cynhelir dau weithdy gan yr Grŵp Addysg Ddigidol ar:
Gellir archebu lle drwy’r dudalen archebu ar-lein.
Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o weddalennau’r Grŵp Addysg Ddigidol.
Rhaid ebostio ceisiadau wedi’u cwblhau at eddysgu@aber.ac.uk cyn 12 canol dydd ddydd Gwener 31 Ionawr 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses hon, cysylltwch â’r Grŵp Addysg Ddigidol (eddysgu@aber.ac.uk).