Recordiadau ac adnoddau Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2021 bellach ar gael!

A dyna ni! Dros dridiau a hanner o gyflwyniadau, y naill ar ôl y llall, gan dros 40 o gyflwynwyr a chyda 150 a mwy o gynadleddwyr yn bresennol. Hoffem ni yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd ac a ymunodd â ni yn ein cynhadledd flynyddol dysgu ac addysgu fwyaf hyd yma.

Peidiwch â phoeni os na fu modd ichi fod yn bresennol – mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr holl recordiadau bellach ar gael ar dudalen rhaglen y Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu.

Os oeddech yn bresennol yn y gynhadledd eleni, byddai’n dda gennym glywed eich adborth. Llenwch Arolwg Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2021. Rydym yn dechrau ar ein paratoadau ar gyfer ein degfed Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu a bydd eich adborth o gymorth inni sicrhau mai’r gynhadledd hon fydd yr orau eto!

Yr wythnos yma byddaf yn ysgrifennu blog neu ddau am y gynhadledd, felly os nad ydych wedi ei weld eisoes, mynnwch gip ar ein blog a chofrestrwch i gael diweddariadau gan dîm yr Uned. Yn olaf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl gyflwynwyr a chynadleddwyr – fyddai’r gynhadledd ddim yn bosibl heb eich cyfraniad!

Diweddariadau i Vevox

Distance Learner Banner

Un o fanteision tanysgrifio i Offer Pleidleisio pwrpasol yw cael diweddariadau rheolaidd. Vevox yw Offer Pleidleisio pwrpasol y Brifysgol. Gallwch ei ddefnyddio i ychwanegu elfen o ryngweithio i’ch sesiynau addysgu yn ogystal â’ch cyfarfodydd.

Mae ein hadnoddau ar gyfer Vevox ar gael ar ein gweddalennau.

Dyma grynodeb o’r ychwanegiadau sydd ar gael y mis hwn:

  • Mae defnyddio LaTeX i greu cwestiynau mewn Polau yn golygu y gall cydweithwyr mewn disgyblaethau megis Mathemateg, Ffiseg, a Chyfrifiadureg ddefnyddio fformiwla wrth greu eu polau. Edrychwch ar daflen gymorth LaTeX Vevox i’ch helpu i osod eich polau.  
  • Gallu rhannu cyfrifoldebau cymedroli ar gyfer Cwestiwn ac Ateb gyda chyflwynydd arall. Gweler eu canllaw ar gyfer rhannu bwrdd Cwestiwn ac Ateb gyda chydweithiwr neu gymedrolwr i gael rhagor o wybodaeth.
  • Mae eglurhad ar gyfer atebion cywir yn eich galluogi i roi adborth ychwanegol i fyfyrwyr pan fyddant yn cael cwestiwn yn gywir. Gall hyn eich helpu i arbed amser wrth gynnal eich cwis. I gael crynodeb fideo, edrychwch ar gyfarwyddyd Vevox ar gyfer Cynnal Cwis.
  • Hidlo eich ymatebion ar gymylau geiriau cyn i chi eu cyflwyno’n ôl i’r dosbarth i sicrhau nad oes unrhyw beth nad ydych eisiau iddynt ei weld. Edrychwch ar eu fideo hyfforddi ar gyfer creu cymylau geiriau.
  • Gellir dangos canlyniadau o bolau fel rhifau yn ogystal â chanrannau nawr, sy’n golygu y gall cyfranogwyr gael syniad faint o bobl sydd wedi ymateb i’r cwestiynau. Erioed wedi defnyddio’r nodwedd bleidleisio yn Vevox o’r blaen? Edrychwch ar eu canllaw ar sut i greu pôl sylfaenol.

Mae Vevox yn integreiddio’n llawn â Teams, sy’n golygu y gallwch gynnal y sesiynau yn eich cyfarfodydd addysgu ar-lein a gall cyfranogwyr ymateb drwy ap Teams heb orfod rhoi cod 9 digid. Cewch ragor o wybodaeth yn ein Cwestiwn Cyffredin Sut mae defnyddio Vevox gyda Microsoft Teams.  

Rydym bob amser yn chwilio am astudiaethau achos felly os ydych chi’n defnyddio meddalwedd pleidleisio Vevox yn eich sesiwn addysgu e-bostiwch ni ar lteu@aber.ac.uk a rhowch wybod i ni sut yr ydych yn ei ddefnyddio.

Gellir gweld yr holl ddiweddariadau hyn ar flog Vevox Mehefin.

Lleoliad Swyddog Cymorth ac Effaith Cynadleddau yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu

Shwmai bawb, Hector ydw i, myfyriwr ar fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol a’r Newid yn yr Hinsawdd. Rwy’n gyffrous i gael ymuno â thîm yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (yr Uned) am dair wythnos ar gyfer y Gynhadledd Addysgu Flynyddol 2021.

Cyn dechrau ar gwrs gradd yn Aberystwyth, bûm yn Weithiwr Cymorth i elusen Leonard Cheshire. Prif feysydd fy niddordebau yw datblygu cynaliadwy, gwleidyddiaeth y newid yn yr hinsawdd, a gwaith elusennol. Rwyf wedi gwirfoddoli deirgwaith gyda’r elusen datblygu cynaliadwy a arweinir gan ieuenctid, sef Raleigh International yn Nepal a Chosta Rica, yn rhan o’r rhaglenni ‘Expedition’ a’r Gwasanaeth Dinasyddion Rhyngwladol (International Citizen Service) a noddir gan y Llywodraeth. Rydw i’n credu’n gryf yn Amcanion Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig 2030 ac wastad yn chwilio am ffordd newydd o gyfrannu iddynt a’u cynorthwyo. Fel un o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth rwy’n aelod brwd o glwb Cerdded Aber ac fe fydda i’n cymryd hyfforddiant Arweinwyr Mynydd dros yr haf er mwyn gallu arwain teithiau i’r gymdeithas yn y dyfodol.

Yn ddiweddar rydw i wedi gweithio fel Stiward Zoom i Gynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Addysg Wyddonol. Fe wnes i fwynhau hynny’n fawr iawn felly pan welais i’r cyfle i ennill mwy o brofiad mewn swydd debyg gyda’r Uned, fe wnes gais amdani. Mae’r lleoliad yn rhan o raglen AberYmlaen 2021. Fy ngwaith fydd cynnig golwg o safbwynt myfyriwr ar yr amrywiol sgyrsiau a draddodir yn y gynhadledd. Trwy wneud lleoliad gyda’r Uned, rwy’n gobeithio datblygu fy sgiliau trefnu a dadansoddi ymhellach. Hefyd rydw i eisiau parhau i ennill profiad gwaith ymarferol a pherthnasol, ac mae’r lleoliad hwn yn gymorth gyda hyn.

Rwy’n teimlo fel myfyriwr nad ydyn ni byth yn sylweddoli’n union faint o waith a meddwl sy’n mynd i mewn i bob agwedd ar ein profiad o ddysgu, ac yn y cyfnod a dreuliais yn yr Uned mae hyn wedi dod yn hynod amlwg wrth weld yr holl waith gwych a wneir ganddynt. Mae gennym ddewis gwych ac eang o sgyrsiau i’w cynnig yn y gynhadledd eleni. Os nad ydych wedi gwneud hynny, cofiwch archebu eich lle, dydy hi ddim yn rhy hwyr! Gobeithio y caf eich gweld yno!

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 27/6/2021

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein  

Adnoddau a chyhoeddiadau

Arall

Teaching Innovation & Learning Enhancement Network (TILE) Call For Best Practice Examples: teaching activity, assessment, and/or feedback approach, submit by 2/7/2021

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 16/6/2021

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein  

Adnoddau a chyhoeddiadau

Arall

Teaching Innovation & Learning Enhancement Network (TILE) Call For Best Practice Examples: teaching activity, assessment, and/or feedback approach, submit by 2/7/2021

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Mewnwelediad Digidol 2018/19: Offer digidol ac apiau defnyddiol ar gyfer dysgu

Yn arolwg Mewnwelediad Digidol 2018/19 gwnaethom ofyn i fyfyrwyr roi enghreifftiau o’r offer digidol sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer dysgu yn eu barn hwy. Rydym am rannu rhai o’r enghreifftiau ar ein blog.

Mynediad i wasanaethau e-ddysgu craidd PA

Ymchwil

  • Endnote – meddalwedd rheoli cyfeirnodau (am ddim i’w lawrlwytho i staff a myfyrwyr PA)
  • Mendeley – meddalwedd rheoli cyfeirnodau a rhwydwaith ymchwilwyr

Trefnu a monitro eich cynnydd

  • ApAber– gwirio eich amserlen, gweld pa gyfrifiaduron sydd ar gael ar y campws, gweld balans eich Cerdyn Aber, edrych ar amserlenni bysiau lleol a llawer mwy
  • GradeHub – offer i olrhain eich cynnydd a rhagfynegi pa farciau sydd eu hangen arnoch i gael eich gradd
  • Asana – rhaglen ar y we a dyfeisiau symudol a luniwyd i helpu timau i drefnu, olrhain a rheoli eu gwaith
  • MyStudyLife – yn anffodus mae’r gwasanaeth hwn yn dod i ben ond rhowch gynnig ar myHomework (ap) yn lle hynny, bydd yn eich helpu i drefnu eich llwyth gwaith

Cymryd nodiadau

Astudio’n well

  • Forest App – ap i’ch helpu i gadw draw o’ch ffôn clyfar a chanolbwyntio ar eich gwaith
  • GetRevising – offer adolygu
  • Anki – meddalwedd ar gyfer creu cardiau fflach
  • Study Blue – cardiau fflach ar-lein, cymorth gyda gwaith cartref a datrysiadau gwerslyfrau
  • Quora – llwyfan i ofyn cwestiynau a chysylltu â phobl sy’n cyfrannu mewnwelediad unigryw ac atebion o safon
  • Memrise – llwyfan iaith sy’n defnyddio cardiau fflach fel cymhorthion cofio, ond sydd hefyd yn cynnig cynnwys a grëwyd gan ddefnyddwyr ar amrywiaeth eang o bynciau eraill
  • GeoGebra – rhaglen geometreg, algebra, ystadegau a chalcwlws ryngweithiol
  • KhanAcademy – cyrsiau, gwersi ac ymarferion ar-lein rhad ac am ddim
  • Tomato Timers – Mae ‘Techneg Pomodoro’ yn ddull o reoli amser, mae’r dechneg yn defnyddio amserydd i dorri’r gwaith yn gyfnodau, fel rheol 25 munud o hyd, wedi’u gwahanu gan egwyliau byr

Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Trydydd siaradwr gwadd – Dr Dyddgu Hywel

Keynote announcement banner

Mae’n bleser gyda ni gyhoeddi ein trydydd siaradwr allanol i Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni, Dr Dyddgu Hywel, uwchddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd ddosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.

Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwchddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i harbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, y defnydd o dechnoleg, ymgysylltiad ag iechyd a lles myfyrwyr. Yn dilyn 8 mlynedd o chwarae rygbi dros ei gwlad yn y crys coch, mae wedi mabwysiadu sawl dull effeithiol o fyw’n iach, cadw meddylfryd positif a meistroli cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.

Bydd gweithdy Dyddgu yn ffocysu ar flaenoriaethu iechyd a lles staff. Bydd y gweithdy o fudd i holl staff academaidd y brifysgol, i adnabod dulliau effeithiol o warchod eu hiechyd a lles personol, yn ogystal â darparu gofal bugeiliol i’r holl fyfyrwyr.

Amcanion y gweithdy:

  • Cyfle i fyfyrio ar eich iechyd a lles personol
  • Ystyried y cydbwysedd cywir rhwng bywyd pob dydd, a phwysau gwaith
  • Adnabod rôl addysgwyr mewn iechyd a lles myfyrwyr
  • Adnabod dulliau rheoli straen, agwedd a meddylfryd positif personol
  • Mabwysiadu dulliau rheoli amser a blaenoriaethu
  • Hybu adnoddau Cymraeg ar gyfer ymlacio a myfyrdod effeithiol

Bydd Dyddgu yn cyflwyno ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn darparu cyfieithu ar y pryd.

Cynhelir y nawfed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol ar-lein rhwng dydd Mawrth 29 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf. Gallwch archebu lle drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.

Crynodeb Wythnosol o Adnoddau – 2/6/2021

Fel arweinydd ein rhaglen TUAAU, rwy’n cadw llygad allan am adnoddau i helpu staff i addysgu’n effeithiol. Mae’r rhain yn cynnwys gweminarau, podlediadau, pecynnau cymorth ar-lein, cyhoeddiadau a mwy. Mae’r pynciau’n cynnwys dysgu gweithredol, addysgu ar-lein/cyfunol, hygyrchedd/cynhwysiant, a dylunio dysgu effeithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth wybyddol. Rwyf wedi rhestru isod eitemau y sylwais arnynt yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Er mwyn eglurder, ein polisi yw dangos y teitlau a’r disgrifiadau yn yr iaith y cyflwynir yr adnoddau ynddi.  

Digwyddiadau a gweminarau ar-lein  

Adnoddau a chyhoeddiadau

Ewch i’r dudalen archebu Hyfforddiant Staff i weld pa hyfforddiant a gynigir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a staff eraill Prifysgol Aberystwyth. Gobeithio y bydd y crynodeb wythnosol hwn o adnoddau yn ddefnyddiol ichi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, cysylltwch â’n tîm ar lteu@aber.ac.uk. Efallai hefyd yr hoffech ddilyn fy nghyfrif Twitter, Mary Jacob L&T.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Cynhadledd Ymchwil Ar-lein (29 Mehefin 2021)

CIRCULAR Funding Projects in Further Education Institutions from the Coleg  Cymraeg Cenedlaethol's Strategic Development Fund

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal Cynhadledd Ymchwil Ar-lein ar 29 Mehefin 2021.  

Cynhadledd yw hon ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i gwrdd ag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian.
 
Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Bydd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy’n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.

Dyma raglen lawn y gynhadledd sy’n cynnwysyr amserlen ynghyd a bywgraffiadau a chrynodebau’r cyfranwyr. 

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy gwblhau y ffurflen gofrestru hon.

Egluro Meini Prawf Asesu

Mae gan Feini Prawf Asesu nifer o swyddogaethau: gwneud y broses farcio’n dryloyw; darparu eglurder ynghylch yr hyn sy’n cael ei asesu a sut; sicrhau tegwch ar draws yr holl gyflwyniadau; a rhoi sicrwydd ansawdd o ran datganiadau meincnodi pynciau. Er bod pob un o’r rhesymau hyn yn ddilys ac yn anrhydeddus, mae nifer o ystyriaethau ar waith:

  1. Mae gan staff reolaeth uwch neu is ar y meini prawf asesu y gofynnir iddynt eu defnyddio wrth farcio gwaith myfyrwyr a gall dehongliadau o’r meini prawf amrywio rhwng gwahanol aelodau o staff sy’n marcio’r un asesiad.
  2. Mae’r meini prawf asesu’n wahanol i safonau a rhaid cyfleu’r gwahaniaeth rhwng y ddau yn glir i fyfyrwyr (h.y. yr hyn sy’n cael ei asesu yn erbyn pa mor dda mae maen prawf wedi’i fodloni).
  3. Yn aml asesu sy’n cymell y myfyrwyr (cf. Worth, 2014) a gall gorbwyslais ar feini prawf neu feini prawf gorfanwl arwain at ymagwedd ticio blychau’n unig.
  4. Ar y llaw arall, gall meini prawf sy’n rhy amwys neu sy’n dibynnu’n ormodol ar wybodaeth ddealledig o’r pwnc fod yn ddryslyd ac yn anhygyrch i fyfyrwyr, yn enwedig ar ddechrau eu gradd.

Dyw’r blog hwn ddim yn honni y gall ddatrys holl broblemau meini prawf asesu ond bydd yn cynnig nifer o strategaethau posibl y gallai staff ac adrannau’n ehangach eu defnyddio i egluro’r meini prawf asesu, a’r prosesau marcio, i fyfyrwyr. Drwy hyn, daw myfyrwyr yn rhan o gymuned o ymarfer, yn hytrach na chael eu trin fel defnyddwyr (cf. Worth, 2014; Molesworth, Scullion & Nixon, 2011). Gellir grwpio gweithgareddau o’r fath yn fras yn gronolegol o ran y rhai sy’n digwydd cyn, yn ystod, neu ar ôl asesiad.

Cyn yr asesiad

  • Defnyddiwch feini prawf asesu i egluro nodau a chanlyniadau ar ddechrau modiwl, gyda phwyntiau gwirio wrth agosáu at ddyddiad cau.
  • Nodwch yr anhawster wrth ddeall meini prawf marcio. Yn aml mae myfyrwyr wedi arfer â diffiniadau cul iawn o lwyddiant gyda datganiadau clir sy’n ‘ennill’ pwyntiau iddynt. O gyfuno hyn ag ofn methu, sy’n gyffredin, gall danseilio eu dealltwriaeth o’r meini prawf. Yn ogystal, mae’n bosibl eu bod yn teimlo na allant farnu eu galluoedd eu hunain yn dda yn y cyd-destun newydd hwn (prifysgol). Gall trafodaethau grŵp, nid ar ystyr meini prawf, ond ar yr hyn mae myfyrwyr yn credu yw eu hystyr, helpu i nodi jargon sydd angen eglurhad, gadael i staff egluro eu dealltwriaeth bersonol (os mai nhw sy’n marcio) a gadael i fyfyrwyr ofyn am eglurhad cyn dechrau ar asesiad.
  • Tynnwch sylw’r myfyrwyr at y gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau (y beth a’r pa mor dda – a sut y caiff hyn ei amlygu yn eich disgyblaeth chi).
  • Bydd neilltuo amser i ymarfer marcio cymheiriaid yn defnyddio’r meini prawf perthnasol gyda thrafodaeth grŵp ddilynol yn helpu myfyrwyr i ddeall y broses yn well.
  • Bydd annog myfyrwyr i farcio eu gwaith eu hunain cyn cyflwyno gan ddefnyddio’r meini prawf priodol hefyd yn eu helpu i ddeall y broses yn well.
  • Gall fod yn ddefnyddiol iawn defnyddio enghreifftiau patrymol i ddangos y meini prawf a’r safonau gydag enghreifftiau penodol. Gall hyn gynnwys myfyrwyr yn marcio enghraifft yn ystod y sesiwn, gyda thrafodaeth ddilynol; enghreifftiau wedi’u hanodi sy’n rhoi cipolwg i’r myfyrwyr ar y broses farcio; neu sesiynau adborth byw lle mae myfyrwyr yn cyflwyno detholiadau o waith sydd ar y gweill a ddefnyddir (yn ddienw) i ddangos y broses farcio i’r grŵp cyfan. Yna mae hyn yn caniatáu ar gyfer cwestiynau ac eglurder ar y penderfyniadau mae marciwr yn eu gwneud wrth weithio drwy gyflwyniad. Efallai y bydd staff yn poeni bod myfyrwyr yn ystyried yr enghreifftiau fel “yr unig ffordd gywir” i ymateb i gyfarwyddyd asesiad – gall darparu amrywiaeth o enghreifftiau, yn enwedig rhai da, wrthweithio’r duedd hon. Gellir defnyddio mathau gwahanol o enghreifftiau:
    • Efallai mai ‘gwir’ aseiniadau yw’r gorau oherwydd eu cymhlethdod cynhenid (cyhyd â bod myfyrwyr y defnyddir eu gwaith yn cydsynio a bod y gwaith yn ddienw).
    • Gall enghreifftiau sydd wedi’u llunio wneud y nodweddion asesu’n fwy gweladwy.
    • Gallai detholiadau (yn hytrach na darnau llawn) fod yn fwy priodol pan fydd myfyrwyr yn dechrau edrych am y meini prawf a sut i’w trosi i’r gwaith yn ogystal â lleddfu pryderon staff am lên-ladrad.

Yn ystod yr asesiad

  • Defnyddiwch yr un iaith: gwneud y cysylltiad rhwng meini prawf asesu, safonau pwnc, a safonau’r brifysgol yn glir drwy ddefnyddio’r un derminoleg mewn adborth ag sy’n ymddangos yn y meini prawf asesu a’r datganiadau meincnodi pwnc.
  • Os bydd marcwyr lluosog yn ymwneud â gwahanol grwpiau o fyfyrwyr ar yr un asesiad, gall cael enghreifftiau i gyfeirio atynt helpu i sicrhau safonau clir ar draws carfannau mwy o faint.

Ar ôl yr asesiad

  • Cyfeiriwch y myfyrwyr yn ôl at y meini prawf asesu a’r trafodaethau blaenorol pan fyddant yn cael adborth a marciau.
  • Pwysleisiwch y gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau.

Dyw cyflwyno’r meini prawf asesu i’r myfyrwyr ddim yn ddigon. Mae’n hanfodol fod staff yn nodi ac yn egluro’r gwahaniaeth rhwng meini prawf a safonau ac yn egluro iaith y meini prawf asesu drwy archwilio’r wybodaeth ddealledig sydd gan staff yn sgil eu profiad. Bydd defnyddio enghreifftiau a thrafodaethau grŵp ar y rhain i bwysleisio sut mae meini prawf a safonau’n trosi i gyflwyniad yn cynnig cipolwg i’r myfyrwyr ar y broses farcio sy’n eu galluogi i ddeall yn well yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud. Yn olaf, dylai staff annog myfyrwyr yn barhaus i wneud defnydd o argaeledd y meini prawf asesu wrth weithio ar eu hasesiadau, a dylai hyn alluogi’r myfyrwyr i deimlo eu bod wedi cael paratoad gwell a bod ganddynt well ffocws yn eu hymatebion.

Cyfeiriadau

References:

Molesworth, M., Scullion, R., and Nixon, E. (eds.) (2011) The Marketisation of Higher Education and the Student as Consumer, London: Routledge

Worth, N. (2014) ‘Student-focused Assessment Criteria: Thinking Through Best Practice’, Journal of Geography in Higher Education, 38:3, pp. 361-372; DOI: 10.1080/03098265.2014.919441