Yr adnoddau sy’n deillio o’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Mae Hector, sydd wedi bod yn cydweithio ag ABERymlaen i gefnogi’r Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol, wedi paratoi rhestr o adnoddau a ysbrydolwyd gan y cyflwyniadau a gafwyd yn y gynhadledd. Pe hoffech wylio unrhyw rai o’r sesiynau eto, gallwch wneud hynny drwy fynd i’n  tudalennau gwe.

Prif Araith y Gynhadledd: Dr Chrissi Nerantzi

Yn sicr ddigon, un o uchafbwyntiau’r gynhadledd oedd y brif araith. Gofynnodd Chrissi y cwestiynau canlynol i bobl, a dyma’r canlyniadau:

Mentimeter poll result outlining how much colleagues agree with the following statements:

I am feeling more creative since the pandemic broke out (3.8)

My students react more positively to create tasks since the pandemic broke out (3.2)

I find it easier to be creative in my teaching practice during the pandemic (3.3)

Being creative means risk lowering my evaluation scores linked to my teaching (3)
Mentimeter word cloud results answering the following question: What is your main driver to innovate in your practice?

Os ydych yn dymuno darllen rhagor am waith Chrissi, ewch i’r tudalennau gwe canlynol:

Efallai y bydd y cyhoeddiadau hyn o ddiddordeb ichi hefyd:

Lansio’r Strategaeth Sgiliau Digidol – Tim Davies, Julie Hart, Lauren Harvey a Siân Furlong-Davies

Cafwyd cyflwyniad i’r strategaeth sgiliau digidol newydd, a oedd hefyd yn rhoi sylw i’r ffaith bod y Brifysgol wedi caffael LinkedIn Learning. Cafwyd trosolwg hefyd o ganlyniadau’r Arolwg Mewnwelediadau Digidol a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Dysgwch am ein Menter Sgiliau Digidol ar ein tudalennau gwe. Dysgwch hefyd am ein hadnoddau LinkedIn Learning.

Experiences in creating accessible, interactive web-based learning resources, Neil Taylor

Mae Neil yn ddarlithydd Cyfrifiadureg sydd wedi bod yn creu adnoddau dysgu ar-lein hygyrch a rhyngweithiol.

Gallwch fwrw golwg ar y gwaith a wnaed ar dudalennau gwe Cydnabod Ffynonellau a Chyfeirnodi ynghyd â’r canllawiau sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n ymwneud â Phrosiectau Hir a Byr.

Dialogic feedback in online group tutorials, Mary Jacob

Rhoddodd Mary Jacob, Darlithydd Dysgu ac Addysgu yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, drosolwg o’r gwaith y mae wedi bod yn ei gyflawni â’r rhai sy’n rhan o’r Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch.

Mae’r taflenni sy’n deillio o’r sesiwn Dialogic Feedback in Online Group Tutorials yn rhoi trosolwg o’r newidiadau a wnaed i weithgareddau darparu adborth drwy MS Teams er mwyn creu cymuned ddysgu a hyrwyddo cynhwysiant ymhlith cyfranogwyr.

What will assessment look like in five year’s time? Andy McGregor, JISC

Cynhaliodd Andy weithdy a eglurai sut y gallai gwaith asesu fod ymhen pum mlynedd. Rhoddwyd dwy dasg i bobl: Tasg 1: Dychmygwch eich bod yn fyfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf sy’n cychwyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2022. Beth fyddai’n gwneud profiad asesu delfrydol i chi yn eich blwyddyn gyntaf?

Tasg 2: Dychmygwch eich bod yn fyfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf sy’n cychwyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2030. Beth fyddai’n gwneud profiad asesu delfrydol i chi yn eich blwyddyn gyntaf?

Gallwch ddarllen rhagor am y gwaith y mae JISC wedi bod yn ei wneud o ran cynllunio asesu drwy ddarllen yr adnoddau canlynol:

Active learning about changing environments in a time of change: lessons from some DGES modules, Yr Athro Stephen Tooth

Rhoddodd Stephen drosolwg o’r dysgu gweithredol y mae wedi bod yn ei wneud â’i fyfyrwyr ar ei fodiwl Meistr.

Mae’r daflen hon yn rhoi syniad ichi o’r mathau o weithgareddau Dysgu Gweithredol y mae Stephen wedi bod yn eu cynnal.

Ysbrydolwyd Stephen gan weithdy Kate Exley a oedd yn ymwneud â Symud eich Darlithoedd (PowerPoint) ar-lein.

Yn ogystal â hyn, defnyddiodd Stephen Becoming a Critical Thinker: For your university studies and beyond – Gwasg Prifysgol Rhydychen (oup.com) i’w helpu i gynllunio’r gweithgareddau hyn.

Immersive learning in virtual 3D: fieldtrip to Cadair Idris, Dr Tristram Irvine-Fynn

Rhoddodd Tris drosolwg o’r dechnoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer teithiau maes ar-lein i fyfyrwyr. Defnyddio Tris RoundMe i greu profiad dwys a rhyngweithiol.

Gallwch weld teithiau rhithwir Tris drwy ddilyn y dolenni hyn:

Lessons Learnt: How Blended Learning Impacts Neurodiverse Students Kittie Belltree, Mary Glasser, Cal Walters-Davies a Caroline White

Ymunodd ein cydweithwyr o’r Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr â ni i gynnal gweithdy a oedd yn ymwneud â chynllunio dysgu cyfunol â myfyrwyr niwroamrywiol mewn golwg.

Mae eu canllawiau wedi’u seilio ar ganllaw: Teaching to Include Everyone: A Practical Guide for Teaching Neurodiverse and Disabled Students.

Diolch o waelod calon i bawb am ymuno â ni yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni. Roedd yn hyfryd gweld cynifer ohonoch yn ymuno ac edrychwn ymlaen at gyd-ddathlu ein degfed gynhadledd y flwyddyn nesaf.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*