Mae’n bleser gan yr Uned Gwella Dysgu ac Addysgu gyhoeddi gweithdy ar-lein arbennig a gynhelir gan Dr Kate Exley ddydd Mercher 17 Chwefror.
Bydd y gweithdy yn ddefnyddiol i gydweithwyr sy’n addasu a throsglwyddo eu darlithoedd traddodiadol ar gyfer dysgu ar-lein.
Archebwch eich lle ar-lein [link].
Er mwyn i gymaint o gydweithwyr â phosibl allu dod, rydym yn cynnal y gweithdy ddwywaith (11yb-12yp ac 1yp-2yp). Dewiswch ba sesiwn yr hoffech ddod iddi wrth archebu.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch cyn gynted â phosibl.
Trosolwg o’r Sesiwn:
Mae nifer o gydweithwyr wedi bod yn addysgu’n gyfunol neu ar-lein ers nifer o flynyddoedd ond mae pandemig Covid wedi golygu ei bod yn rhaid i ni gyd ddarparu llawer o’n dysgu ac addysgu o bell. Mae hyn wedi golygu symud ein darlithoedd, a draddodwyd o’r blaen mewn darlithfeydd ac ystafelloedd dosbarth mawr, i lwyfannau ar-lein. Mae’r cyflymder y mae’r newid mawr hwn wedi digwydd yn ei hun wedi achosi heriau sylweddol i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae’r gweithdy cyfunol hwn yn bwriadu darparu cyfarwyddyd, enghreifftiau a fforwm i gydweithwyr rannu eu profiadau a’u syniadau ar gyfer gwella’r ddarpariaeth hon.
Cyflwynir y gweithdy mewn dwy ran:
- Bydd cyfres o 3 fideo byr ar gael ar neu cyn 5 Chwefror 2021 a dylid eu gwylio’n annibynnol cyn ymuno â’r fforwm drafod – oddeutu 45 munud o astudio annibynnol.
- Fforwm drafod a gynhelir ar Teams ar 17 Chwefror, ble bydd gan gyfranogwyr gyfle i ofyn cwestiynau, rhannu profiadau a thrafod y pwnc – 1 awr o hyd.







