Cynhadledd Fer yr Academi (galwad am gynigion) – ‘Cyngor i Weithredu: Hyrwyddo Arfer Adborth Dda’

Mini Conference Logo


Ar Ddydd Mercher 16eg o Ragfyr, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal y cyntaf o Gynadleddau Byr yr Academi eleni, a hynny ar-lein. Y thema fydd ‘Cyngor i Weithredu: Hyrwyddo Arfer Adborth Dda’, a byddwn yn archwilio sut i wneud adborth yn fwy defnyddiol a diddorol ar gyfer ein myfyrwyr.

Y tri phrif edefyn ar gyfer y Gynhadledd Fer fydd:

  • Marcio asesiadau grŵp
  • Asesu ac adborth gan gymheiriaid
  • Gwella sut mae myfyrwyr yn dysgu drwy adborth

Rydym yn chwilio am gynigion gan staff, cynorthwywyr addysgu ôl-raddedig a myfyrwyr, i roi cyflwyniadau, arddangosiadau, gweithdai a thrafodaethau ar eu harferion adborth ac asesu cyfredol. Hyd yn oed os nad yw eich cynnig yn cyd-fynd yn union â’r edefynnau uchod, croesawn gynigion perthnasol eraill.

Os hoffech gyflwyno cynnig i’r Gynhadledd Fer, llenwch y ffurflen ar-lein hon cyn Dydd Mercher 18fed o Dachwedd.

Gallwch gofrestru i fynychu’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at eddysgu@aber.ac.uk.

Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Hyfforddiant mis Hydref


Hyfforddiant ar gyfer myfyrwyr ymchwil
Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhedeg nifer o weithdai ar gyfer myfyrwyr ymchwil drwy’r flwyddyn fel rhan o’u Rhaglen Sgiliau Ymchwil. Dyma gopi llawn o’r rhaglen ar gyfer 2020/21. Bydd rhaid i chi gofrestru o flaen llaw ar gyfer unrhyw weithdy, a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y ddolen hon.

Dyma gip olwg i chi o’r gweithdai sydd yn rhedeg drwy gydol mis Hydref:

  • Dydd Mawrth (13 Hydref), 11:00-11:30 – ‘Cyfres Iechyd a Lles myfyrwyr ôl-radd (Edrych ar ôl eich hun)’ – Andrew Tamplin (sesiwn 1/3 o’r Gyfres Iechyd a Lles myfyrwyr)
  • Dydd Gwener (16 Hydref), 14:00-16:00 – ‘Sgiliau Addysgu ar gyfer Myfyrwyr Ôl-radd’ – Dyddgu Hywel
  • Dydd Mawrth (20 Hydref), 11:00-12:00 – Rheoli amser a phwysau gwaith (gyda ffocws ar weithio o bell)’ – Mari Ellis Roberts
  • Dydd Gwener (23 Hydref), 11:00-12:00 – ‘Rheoli’ch goruchwyliwr (gyda ffocws ar weithio o bell)’ – Nia Gwynn Meacher a Seren Evans

Hyfforddiant ar gyfer staff
Hefyd, fel rhan o Raglen Datblygu Staff (2020/21), mae’r gyfres ‘Iechyd a Lles: Chi fel Staff a’ch Myfyrwyr’ yn parhau fore Mawrth nesaf (9:30-10:00). Mae croeso mawr i unrhyw aelod o staff gofrestru a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y ddolen hon.

Sesiynau Galw Heibio MS Teams Ychwanegol

Yn dilyn llwyddiant ein sesiynau galw heibio ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu, rydym wedi penderfynu cynnal y sesiynau hyn drwy gydol mis Hydref.

Bydd y rhain yn gyfle anffurfiol i chi siarad â’n Harbenigwyr Dysgu Ar-lein ac i fynd i’r afael ag unrhyw ymholiadau a allai fod wedi codi yn ystod wythnosau cyntaf y tymor. Mae croeso i chi ofyn i ni am gyngor ar unrhyw agweddau sy’n ymwneud â defnyddio MS Teams – o gyngor technegol i gyngor ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer myfyrwyr sydd ddim yn gallu ymuno â sesiynau wyneb yn wyneb.

*Noder y bydd sesiynau gyda seren (*) yn sesiynau dwyieithog, a bydd pob sesiwn heb seren yn cael ei rhedeg fel sesiynau cyfrwng Saesneg.

Bydd y sesiynau galw heibio hyn yn cael eu cynnal ar:

09.10.2020 (10:00-11:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *

13.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *

14.10.2020 (14:00-15:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

16.10.2020 (10:00-11:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *

20.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *

21.10.2020 (14:00-15:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

23.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *

27.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *

28.10.2020 (14:00-15:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

30.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *

Fforwm Academi 2020/21


Mae’r Fforwm Academi yn darparu llwyfan i rannu arferion da o ran dysgu ac addysgu. Mae’r Fforwm yn agored i aelodau o gymuned y Brifysgol: mae croeso i staff dysgu, tiwtoriaid uwchraddedig, staff cynorthwyol, a myfyrwyr. Bydd pob fforwm yn ystod 2020/21 yn cael eu cynnal ar-lein a gallwch glicio yma i archebu eich lle.

Y Fforymau Academi ar gyfer y flwyddyn 2020/21 yw:

07.10.2020 (14:00-15:30): Creating a Learning and Teaching Community

19.10.2020 (11:00-12:30): Creating Podcasts in Panopto

19.11.2020 (10:00-11:30): Why and how to help students to reflect on their learning?

30.11.2020 (14:00-15:30): Motivation strategies for Online Learning Engagement

27.01.2021 (15:00-16:30): How can I plan online and in person activities?

19.02.2021 (10:00-11:30): How can I make my teaching more inclusive?

Gobeithio y gallwch ymuno â ni ar gyfer y fforymau. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau (udda@aber.ac.uk).

MS Teams: Sesiynau Galw Heibio

Hoffem gynnig cyfle i staff y Brifysgol ymuno â ni yn ein sesiynau galw heibio ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu. Bydd y rhain yn gyfle anffurfiol i chi siarad â’n Harbenigwyr Dysgu Ar-lein ac i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau a allai fod wedi codi yn ystod wythnosau cyntaf y tymor.

Cynhelir pob sesiwn galw heibio drwy MS Teams ac nid oes angen archebu lle, dim ond clicio ar y dolenni isod.

Bydd y sesiynau galw heibio hyn yn cael eu cynnal ar:
06.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

07.10.2020 (14:00-15:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

09.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

13.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

14.10.2020 (14:00-15:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

16.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

Gobeithiwn y bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i chi gael atebion i unrhyw gwestiynau am eich anghenion addysgu.

MS Teams: 10 Cwestiwn Cyffredin

[:cy]Yn dilyn sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd gennym yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu, dyma atebion i 10 cwestiwn cyffredin. Ceir rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio MS Teams yn ein hadran cwestiynau cyffredin, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach (udda@aber.ac.uk).

C1: Os ydw i’n rhannu fy sgrin alla i weld y chat o hyd?
A1: Yn anffodus, oni bai fod gennych ddwy sgrin yna ni fydd hyn yn bosibl. Gallech naill ai ofyn i fyfyriwr neu gydweithiwr fonitro’r chat i chi neu gallech roi’r gorau i rannu eich sgrin o bryd i’w gilydd i wirio beth sydd wedi’i bostio yn y chat. Mae rhai opsiynau rhannu sgrin uwch yn bodoli a allai eich galluogi i weld y chat mewn rhai achosion, ac rydym yn hapus i drafod y rhain gyda chi ymhellach.

C2: Hoffwn ychwanegu unigolyn allanol o’r tu allan i Brifysgol Aberystwyth at un o’m timau, a yw hyn yn bosibl?
A2: Mae’n bosibl ychwanegu unigolion allanol sydd â chyfrif Office 365 gyda pharth ac.uk, ond bydd angen i unrhyw unigolyn allanol sydd heb gyfrif ac.uk gael mynediad yna bydd yn rhaid i chi i lenwi ffurflen gais er mwyn iddynt gael mynediad at Teams Prifysgol Aberystwyth. Fel arall, gallech sefydlu cyfarfodydd gydag unigolion allanol drwy MS Teams heb orfod gofyn am fynediad.

C3: Ar ôl cofnodi cyfarfod, sut byddwn i’n cael gafael ar y recordiad a pha mor hir bydd ar gael?
A3:
Ar ôl dod â chyfarfod i ben bydd y recordiad yn ymddangos yn y chat a bydd hwn ar gael i’w lawrlwytho am 22 diwrnod. Mae’n syniad da eich bod yn ymgyfarwyddo â Pholisi Cipio Darlithoedd y Brifysgol am fanylion am ba fath o sesiynau mae’n briodol eu recordio.

Read More

Rhaglen Datblygiad Staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bydd rhaglen Datblygiad Staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni (2020/21) yn cael ei darparu ar-lein, gyda’r mwyafrif o’r gweithdai yn cael eu blaen-recordio a’u gosod ar y Porth Adnoddau, fel bod modd i staff eu dilyn pan mae hi’n gyfleus iddynt. Mae rhai o’r gweithdai eisoes ar y Porth Adnoddau, ac fe fydd rhagor yn cael eu hychwanegu dros yr wythnosau nesaf.

Yn ogystal â gweithdai sydd wedi’i blaen-recordio, bydd rhai gweithdai yn cael eu cynnal yn fyw. Dyma gipolwg o rai o’r sesiynau a ddarperir yn fyw:

Hydref 2020
Dydd Mawrth (6 Hydref), 09:30-10:00 – Cyfres Iechyd a Lles: chi fel staff a’ch myfyrwyr (1/3)
Dydd Mawrth (13 Hydref), 09:30-10:00 – Cyfres Iechyd a Lles: chi fel staff a’ch myfyrwyr (2/3)
Dydd Mawrth (20 Hydref), 09:30-10:00 – Cyfres Iechyd a Lles: chi fel staff a’ch myfyrwyr (3/3)

Ionawr 2021
Dydd Mercher (27 Ionawr), 15:00-16:30 – Gweminar dysgu ac addysgu (rhannu arfer dda o ddysgu cyfunol)

Mehefin 2021
Dydd Mercher (23 Mehefin), 15:00-16:30 – Gweminar dysgu ac addysgu (rhannu arfer dda o ddysgu cyfunol)
Dydd Mawrth (29 Mehefin) – Cynhadledd Ymchwil y Coleg (ffurf a lleoliad i’w gadarnhau)

Cymerwch olwg ar y rhaglen lawn ar gyfer 2020/21, a dilynwch y ddolen hon i gofrestru.

Helo gan un o’ch Arbenigwyr Dysgu Ar-lein newydd

Sionedyn sefyll ar prom Aberystwyth

Helo, Sioned ydw i ac rwy’n un o dri Arbenigwr Dysgu Ar-lein sydd newydd ymuno â’r Uned Gwella Dysgu ac Addysgu (UGDA) yn ddiweddar.

Cefais fy ngeni a’m magu yn Aberystwyth, ac rwy’n teimlo’n gyffrous iawn i ddychwelyd i’r Brifysgol, ar ôl cwblhau fy BSc, MSc a PhD yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (ADGD). Wrth gwblhau fy PhD, bûm yn ffodus iawn o gael y cyfle i ddysgu yn DGES ar amrywiaeth o fodiwlau cyfrwng Cymraeg a Saesneg a deuthum yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch yn 2019. Ym mis Gorffennaf 2019 cefais fy nghyflogi gan Menter a Busnes, yn y lle cyntaf i wneud gwaith ymchwil ar fesur allyriadau nwyon tŷ gwydr ar ffermydd Cymru, ac yna fel Rheolwr Datblygu a Mentora, gan roi arweiniad i arweinwyr sy’n rhedeg grwpiau trafod wyneb yn wyneb ac ar-lein gyda ffermwyr Cymru.

Edrychaf ymlaen at fanteisio ar fy mhrofiadau yn y gorffennol, gan ddysgu gan gyd-weithwyr eraill yn UGDA a chan staff ar draws y Brifysgol, i rannu arferion gorau ar ddarparu addysg o’r ansawdd uchaf ar-lein i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, edrychaf ymlaen yn fawr iawn i gael y cyfle i helpu i ddatblygu’r ddarpariaeth o gyrsiau hyfforddi Cymraeg ar-lein i staff y brifysgol.

Os hoffech drafod unrhyw beth sy’n ymwneud â dysgu ar-lein, mae croeso i chi gysylltu â mi yn Gymraeg neu’n Saesneg ar sil12@aber.ac.uk.