Sut alla i wirio dealltwriaeth wrth addysgu ar-lein?

Mae gwirio dealltwriaeth myfyrwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses ddysgu ac addysgu a gall gadarnhau i’r darlithydd beth sy’n cael ei ddysgu tra hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar eu dysgu eu hunain. Gwirio dealltwriaeth yw un o’r heriau mwyaf wrth addysgu ac mae gorfod gwneud hynny mewn ystafell ddosbarth rithwir hyd yn oed yn fwy heriol nag yn yr ystafell ddysgu draddodiadol lle addysgir wyneb-yn-wyneb! Fodd bynnag, mae sawl nodwedd ddefnyddiol o fewn MS Teams y gellir eu defnyddio i’ch helpu i wirio dealltwriaeth. Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut i wneud y mwyaf o’r nodweddion hyn:

Y nodwedd sgwrsio (chat).
Gallwch ddefnyddio’r nodwedd sgwrsio mewn amrywiaeth o ffyrdd i wirio dealltwriaeth. Mae rhai syniadau’n cynnwys gofyn i’r myfyrwyr grynhoi cysyniad neu syniad, neu aralleirio damcaniaeth mewn ychydig o frawddegau a phostio hynny yn y nodwedd sgwrsio. Gall y nodwedd hon hefyd fod yn werthfawr iawn i wirio dealltwriaeth myfyrwyr tawelach sydd efallai’n dymuno peidio ag ymateb ar lafar i’ch cwestiynau. Dyma rai awgrymiadau ar sut i reoli’r sgwrs yn effeithiol yn MS Teams.

Screenshot showing reactions to a post in the chat

Emojis.
I godi bach o hwyl yn yr ystafell ddosbarth ac fel ffordd o osgoi ymatebion “ie/na”, gallech ofyn i’ch myfyrwyr ymateb i’ch sylw yn y sgwrs i fynegi sut maen nhw’n teimlo am bwnc neu gysyniad. Er enghraifft:

Nodwedd codi eich llaw.
Mae’r nodwedd codi eich llaw o fewn Teams yn caniatáu i ddefnyddwyr hysbysu’r darlithydd fod ganddynt gwestiwn neu sylw i’w wneud, ond gallech hefyd ei ddefnyddio i wirio dealltwriaeth. Beth am ofyn i fyfyrwyr ddefnyddio’r nodwedd mewn ymateb i gwestiwn? Er enghraifft, “codwch eich llaw os ydych am i mi ddangos i chi sut i wneud hynny eto“.
Gallech hefyd ddefnyddio’r nodwedd i annog myfyrwyr i ymhelaethu ar eu hatebion yn y sgwrs, er enghraifft “codwch eich llaw os gallwch ddweud mwy wrthyf am hynny“. Os yw’r myfyrwyr yn bryderus am ymateb ar lafar, gallwch eu hannog i ymateb gydag ymhelaethu yn ysgrifenedig yn y sgwrs.

Read More

Sesiynau galw heibio: Offer e-ddysgu

Hoffem gynnig cyfle i staff y Brifysgol ymuno â ni yn ein sesiynau galw heibio ar ddefnyddio offer e-ddysgu (Blackboard, Panopto, Turnitin a MS Teams) ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu. Bydd y rhain yn gyfle anffurfiol i chi siarad â’n Harbenigwyr Dysgu Ar-lein ac i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau sydd gyda chi.

Cynhelir pob sesiwn galw heibio drwy MS Teams ac nid oes angen archebu lle, dim ond clicio ar y dolenni isod. *Noder y bydd sesiynau gyda seren (*) yn sesiynau dwyieithog, a bydd pob sesiwn heb seren yn cael ei rhedeg fel sesiynau cyfrwng Saesneg.

Bydd y sesiynau galw heibio hyn yn cael eu cynnal ar:

19.01.2021 (10:00-11:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams*
21.01.2021 (14:00-15:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams
26.01.2021 (10:00-11:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams*
28.01.2021 (14:00-15:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams
02.02.2021 (10:00-11:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams*
04.02.2021 (14:00-15:00):Ymunwch â Chyfarfod MS Teams

Gobeithiwn y bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyfle i chi gael atebion i unrhyw gwestiynau am eich anghenion addysgu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch udda@aber.ac.uk.

UKCGE Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da – wedi’i lansio yn ddwyieithog yn y Brifysgol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn lansio’r broses fewnol ddwyieithog ar gyfer Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da Cyngor y DU dros Addysg i Raddedigion. Gellir dod o hyd i fersiwn Gymraeg a Saesneg o’r fframwaith drwy’r ddolen hon.

“Mae’r Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da yn cydnabod, am y tro cyntaf ar lefel genedlaethol, y set eang, hynod gymhleth a heriol o rolau a gyflawnir gan oruchwylwyr ymchwil modern.” Gwefan Cyngor y DU dros Addysg i Raddedigion.

Datganiad gan Yr Athro Colin McInness, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi):

“Gall goruchwylio myfyrwyr ymchwil fod yn un o’r pethau mwyaf boddhaus a wnawn fel cymuned academaidd, ond yn un o’r pethau anoddaf hefyd. Mae’r heriau hyn yn effeithio ar bawb ohonom ni o bryd i’w gilydd, ac yn dal i ymffurfio wrth i ymarfer, dulliau a gwybodeg ymchwil ddatblygu. Bydd y Fframwaith hwn yn rhoi’r adnoddau a’r hyder i’n cymuned ymchwil ni yn Aberystwyth gael parhau gyda’n harferion goruchwylio ardderchog a chefnogi ein Myfyrwyr ymchwil.”

Mae Annette Edwards, o’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu a Reyer Zwiggelaar, Pennaeth Ysgol y Graddedigion, yn cydweithio ar ran y Brifysgol, er mwyn marchnata a datblygu dealltwriaeth o’r fframwaith hwn. Bydd proses fewnol ar gael i bawb sydd â diddordeb mewn ymgeisio am yr achrediad hwn. Ewch i’r dudalen we hon am fwy o wybodaeth ac i fynegi diddordeb mewn gwneud cais trwy’r ffurflen ar-lein.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus: Sesiynau Hanfodion E-ddysgu ym mis Ionawr 2021 – Beth sydd ymlaen?

Dyma drosolwg o’r sesiynau Hanfodion E-ddysgu y mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn eu cynnig i staff y Brifysgol yn ystod mis Ionawr. Cynigir sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg a bydd sesiynau cyfrwng Cymraeg yn ymddangos â theitlau Cymraeg isod ac ar y wefan hyfforddi staff.

DyddiadTeitlAmserManylion
06-01-2021E-learning Essentials: Introduction to Blackboard (L & T: Online)15:00 - 16:00Manylion
07-01-2021E-learning Essentials: Introduction to Turnitin (L & T: Online)11:00 - 12:00Manylion
08-01-2021E-learning Essentials: Introduction to Panopto (L & T: Online)14:00 - 15:00Manylion
11-01-2021E-learning Essentials: Introduction to Component Marks Transfer (L & T: Online)11:00 - 12:00Manylion
12-01-2021Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Blackboard, Panopto a Turnitin (D & A: Ar-lein)10:00 - 11:30Manylion
14-01-2021E-learning Essentials: Moving to Online Teaching (L & T: Online)10:00 - 11:30Manylion
15-01-2021E-learning Essentials: Using MS Teams for Learning and Teaching Activities (L & T: Online)11:00 - 12:00Manylion
18-01-2021Hanfodion E-ddysgu: Defnyddio MS Teams a symud i Addysgu Ar-lein (D & A: Ar-lein)14:00 - 15:30Manylion

Am restr lawn o’r holl sesiynau yn ystod y tymor ac i archebu lle ar unrhyw gwrs, ewch i’r wefan hyfforddi staff. Byddwn ni hefyd yn rhedeg cyfres o sesiynau E-ddysgu Uwch tymor nesaf ac fe gyhoeddwn wybodaeth bellach am y rhain yn y flwyddyn newydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o’n sesiynau, mae croeso i chi anfon e-bost at udda@aber.ac.uk.

Gan bawb o’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, hoffwn ddiolch o galon i chi am gefnogi ein gwaith drwy gydol y flwyddyn, a hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

Nodwedd NEWYDD – Ystafelloedd Trafod yn MS Teams

[:cy]Mae un o’r nodweddion mwyaf disgwyliedig MS Teams wedi cyrraedd o’r diwedd…. Ystafelloedd Trafod (Breakout Rooms)! Mae ystafelloedd trafod yn caniatáu i drefnwyr cyfarfodydd greu ac enwi hyd at 50 o ystafelloedd ar wahân, mewn cyfarfodydd sydd wedi’u hamserlennu ac o fewn cyfarfodydd ‘meet now’. Gall trefnwyr yna benodi mynychwyr i’r ystafelloedd hynny naill ai’n awtomatig neu â llaw.

Byddwn yn rhyddhau canllawiau ar sut i greu a rheoli ystafelloedd trafod (i staff) a sut i gymryd rhan o fewn ystafelloedd trafod (i fyfyrwyr) yr wythnos nesaf. Am y tro, dyma ganllaw gan Microsoft ar sut i greu a rheoli ystafelloedd trafod o fewn Teams.

Breakout Room Icon

Sut mae’r eicon ar gyfer ystafelloedd trafod yn edrych?
Mae’r eicon ar gyfer ystafelloedd trafod wedi’i arddangos fel dau flwch (fel y nodir isod o fewn y blwch glas). Dylai hyn ymddangos ar eich bar rheoli.

Pam na allaf weld yr eicon hwn?
Os na allwch weld yr eicon hwn, mae dau reswm tebygol:

  1. 1. Dim ond trefnwyr cyfarfodydd all greu a rheoli ystafelloedd trafod. Os nad chi yw trefnydd y cyfarfod, yna ni fyddwch yn gallu creu a rheoli ystafelloedd trafod o fewn Teams ac ni fyddwch chwaith yn gallu gweld yr eicon yn ystod y cyfarfod hwnnw.
  2. Efallai fod MS Teams heb ddiweddaru’n awtomatig. I wneud hyn eich hun, cliciwch ar eich delwedd yng nghornel dde uchaf y sgrin (gweler y blwch melyn ar y ddelwedd isod) ac yna dewiswch ‘

Check for Updates ‘ (gweler y blwch oren).

Settings bar in Teams


Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sut i ddefnyddio Teams, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth (gg@aber.ac.uk).

Cynhadledd Fer: ‘Cyngor i Weithredu: Hyrwyddo Arfer Adborth Da’, Dydd Mercher 16 Rhagfyr, 10:30yb

Mini Conference Logo

Ar Ddydd Mercher 16eg o Ragfyr, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal y cyntaf o Gynadleddau Byr yr Academi eleni, a hynny ar-lein.

Y thema fydd ‘Cyngor i Weithredu: Hyrwyddo Arfer Adborth Da’, a byddwn yn archwilio sut i wneud adborth yn fwy defnyddiol a diddorol ar gyfer ein myfyrwyr. Bydd y Gynhadledd Fer yn rhedeg o 10:30-16:30.

Mae’n bleser gyda ni gyhoeddi ein rhaglen:

Dr Naomi Winstone (Darllenydd mewn Addysg Uwch a Chyfarwyddwr Sefydliad Addysg Surrey ym Mhrifysgol Surrey, y DU):

‘From Transmission to Transformation: Maximising Student Engagement with Feedback’ Siaradwr Allanol – mwy o wybodaeth

Angharad James (Y Gyfraith a Throseddeg):

‘Using Rubrics in Law and Criminology Modules’

Anna Udalowska (Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu):

‘Grading Efficiency and Reliability – Using Blackboard and Turnitin Rubrics’

Mary Jacob (Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu):

‘Writing Better Assignments in the Post-Covid19 Era’

Sarah Higgins

‘Marking Multi-faceted Group Projects’

Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni. Gallwch gofrestru i fynychu’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at udda@aber.ac.uk.

NEWYDD: Nodwedd Cyfarfodydd MS Teams sy’n ailddigwydd yn Blackboard

Heddiw, mae nodwedd newydd ar gael yn Blackboard sy’n eich galluogi i greu cyfarfodydd MS Teams sy’n ailddigwydd.

Mae’r nodwedd newydd hon yn gweithio yn yr un modd â’r opsiynau ailddigwydd sydd ar gael yn Outlook. Fel y gwelir yn y ddelwedd isod, gallwch bellach drefnu cyfarfodydd MS Teams drwy Blackboard yn seiliedig ar ba mor aml yr ydych am iddynt ddigwydd; ar ba ddyddiau yr ydych am iddynt ailddigwydd; a phryd yr hoffech i’r ailadrodd ddod i ben.

Dylid annog myfyrwyr i ychwanegu’r ddolen hon at eu calendrau gan y bydd hyn yn ychwanegu’r gyfres gyfan at eu calendrau yn awtomatig.

Llun yn dangos pa ddewisiadau sydd yn y nodwedd newydd

Wrth drefnu eich cyfarfod sy’n ailadrodd, sicrhewch eich bod yn cynnwys gwybodaeth glir am ba sesiynau y dylai’r myfyrwyr ymuno â drwy’r ddolen yr ydych newydd ei greu.

Tabl yn dangos pa sesiynau sy'n gysylltiedig a'r ddolen Teams

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r nodwedd newydd hon, ewch i’n ‘Cwestiynau a Holir yn Aml’.

Gweithgareddau amgen i addysgu wyneb yn wyneb

Efallai y bydd adegau lle nad yw’n ymarferol bosibl i chi ddarparu sesiynau (e.e. seminarau, gweithdai, ayyb) ar yr un pryd wyneb yn wyneb i fyfyrwyr yn yr ystafell ddysgu ac i’r rheini sy’n ymuno drwy MS Teams.

Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio rhai opsiynau ar gyfer darparu gweithgareddau amgen i’r myfyrwyr hynny na allant ymuno â sesiynau wyneb yn wyneb. Cyn i chi ddechrau creu gweithgaredd amgen, ystyriwch y pwyntiau canlynol:

  1. Pa weithgaredd arall a fyddai’n efelychu orau y profiad y mae myfyrwyr yn y sesiwn wyneb yn wyneb yn ei gael?
  2. Beth yw fy nghanlyniadau dysgu arfaethedig a pha weithgareddau fyddai’n cyflawni’r rhain orau?
  3. Faint o amser fydd hi’n cymryd i mi gynllunio gweithgaredd ac a oes gen i ddigon o amser?
  4. Meddyliwch yn ofalus am eich meini prawf asesu – a fydd y gweithgaredd amgen a ddarperwch yn caniatáu i’r myfyrwyr gynnal asesiadau’r modiwl yn llwyddiannus?
  5. Mae eglurder a ffocws wrth wraidd unrhyw weithgaredd ar-lein sydd wedi’i gynllunio’n dda. Sicrhewch fod myfyrwyr sy’n defnyddio eich gweithgaredd amgen yn gwybod yn union beth maen nhw’n ei wneud a pham maen nhw’n ei wneud. Os ydych yn gofyn i’ch myfyrwyr ddefnyddio unrhyw dechnoleg, rhaid i chi roi arweiniad clir a chryno iddynt ar sut i’w defnyddio.

Read More

Datblygiad Proffesiynol Parhaus cyfrwng Cymraeg – Beth sydd ymlaen?

Mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnig nifer o sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) mewn amrywiaeth o bynciau. Cynigir sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg a bydd sesiynau cyfrwng Cymraeg yn ymddangos yn Gymraeg ar wefan hyfforddi staff. Dyma drosolwg o’r sesiynau cyfrwng Cymraeg yr ydym yn eu cynnig drwy weddill y semester:

Tachwedd 2020

16.11.20 (11:00-12:30): CDU: Datblygu eich arferion addysgu (D & A: Ar-lein)

17.11.20 (14:00-15:30): CDU: Defnyddio MS Teams, Offer yr Ystafell Ddysgu ac Addysgu syncronaidd (D & A: Ar-lein)

20.11.20 (14:00-15:00): Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Turnitin (D & A: Ar-lein)

25.11.20 (11:00-12:00): Hanfodion E-ddysgu: Cyflwyniad i Panopto (D & A: Ar-lein)

Read More