Modiwlau Rhiant a Phlentyn

Image of Blackboard logo and parent-child

Gan fod modiwlau 2021-22 bellach ar gael i staff, gallwn eu cysylltu gyda’i gilydd ar gais cydgysylltydd y modiwl. Cyfeirir at y drefn hon fel trefn rhiant a phlentyn. Mae cysylltu modiwlau gyda’i gilydd yn ffordd effeithiol o drafod modiwlau ar wahân a chanddynt yr un cynnwys er mwyn osgoi uwchlwytho deunyddiau ar gyfer dau neu ragor o wahanol fodiwlau.

Yn ôl y drefn hon, bydd un modiwl yn rhiant, a’r modiwl(au) arall/eraill yn blentyn. Ni chyfyngir ar nifer y modiwlau plentyn ond ni ellir cael mwy nag un rhiant.

Os ydych yn gydgysylltydd modiwlau ac os hoffech gysylltu eich modiwlau yn ôl y drefn hon, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan roi’r codau modiwl ar gyfer y modiwlau rhiant a phlentyn.

Enghreifftiau o Aberystwyth

Mae llawer o aelodau staff eisoes yn defnyddio modiwlau rhiant a phlentyn ar draws y sefydliad. Dyma rai enghreifftiau:

  1. Dysgir yr un cynnwys ar y modiwlau ond mae modiwl ar gael i flynyddoedd gwahanol
  2. Modiwlau â’r un cynnwys a ddysgir yn Gymraeg a Saesneg
  3. Modiwlau sy’n dod â gwahanol gynlluniau gradd at ei gilydd a chanddynt wahanol gyfeirnodau modiwl, er enghraifft modiwlau traethodau estynedig

Yn y bôn, mae pob modiwl sy’n rhannu’r un cynnwys yn ddelfrydol ar gyfer modiwlau rhiant a phlentyn.

Beth mae’r myfyrwyr yn ei weld?

Bydd y myfyrwyr yn gweld enw’r modiwl y maen nhw wedi’i gofrestru ar ei gyfer (hyd yn oed os mai’r modiwl plentyn yw hwnnw) wrth fewngofnodi i Blackboard ond byddant yn gweld yr holl gynnwys a osodir yn y modiwl rhiant. Ni chaiff hyfforddwyr osod cynnwys yn y modiwl plentyn.

I’w ystyried

Nawr, cyn dechrau’r tymor ac wrth i gynnwys modiwlau gael ei greu, yw’r amser perffaith ar gyfer cysylltu eich modiwlau. Er bod cysylltu modiwlau yn arbed amser wrth lwytho deunyddiau, fe ddylech hefyd ystyried yr isod:

  • Gellir gweld yr holl gynnwys cyn gynted ag y bydd y modiwlau yn cael eu cyfuno (cyn belled â bod y myfyrwyr wedi’u cofrestru ar y modiwl). Yn ogystal â sleidiau PowerPoint, deunyddiau darlithoedd, mae’n cynnwys hefyd Gyhoeddiadau ac offerynnau rhyngweithiol eraill ar eich modiwl rhiant
  • Ni fydd rhyngweithiadau myfyrwyr hanesyddol ar fodiwl plentyn (megis defnyddio blog neu bostio mewn byrddau trafod) ar gael ar ôl i’r modiwlau gael eu cyfuno
  • Ni fydd modd gweld unrhyw fannau cyflwyno a grëwyd ar fodiwl plentyn cyn y cyfuno. Fe’ch cynghorir i’w creu o’r newydd yn y modiwl rhiant

Sut gallaf reoli’r cynnwys er mwyn sicrhau mai myfyrwyr y modiwl hwnnw yn unig fydd yn ei weld?

Er bod modd gweld yr holl gynnwys yn awtomatig ar ôl i’r modiwlau gael eu cyfuno, gallwch ddefnyddio grwpiau a rhyddhau’n ymaddasol os dymunwch i’r cynnwys gael ei weld gan garfan benodol o fyfyrwyr. Gall fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os ydych wedi cyfuno modiwl 2il a 3edd flwyddyn ond bod gan y myfyrwyr ar y gwahanol fodiwlau aseiniadau annibynnol. Gallwch ddefnyddio grwpiau – 1 ar gyfer myfyrwyr yr 2il flwyddyn ac un ar gyfer myfyrwyr y 3edd flwyddyn a chyfyngu ar bwy all weld y wybodaeth am yr aseiniadau a’r man cyflwyno. Dilynwch ein cyfarwyddiadau ar greu grŵp a rhyddhau’n ymaddasol os dymunwch wneud hyn.

Canolfan Raddau Rhiant a Phlentyn a Throsglwyddo Marciau Elfennau

Ar ôl cyfuno, bydd pob myfyriwr yn ymddangos yng Nghanolfan Raddau’r modiwl rhiant. Fodd bynnag, gallwch bennu a ydynt wedi’u cofrestru ar y modiwl plentyn gan fod y wybodaeth yma yn ymddangos wrth enw’r myfyriwr yng ngholofnau’r Ganolfan Raddau. 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y drefn neu os oes gennych gwestiynau penodol, cysylltwch â ni (eddysgu@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*