Myfyrdod ar redeg Prosiect Peilot Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr

Gan Anna Udalowska

Mae llenyddiaeth addysgegol yn pwysleisio pwysigrwydd ymwneud gweithredol gan fyfyrwyr ym mhob menter sy’n effeithio ar eu profiad dysgu nhw. Gan ein bod ni, yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu, yn gweithio mor agos â’r staff addysgu yn eu cynghori ar arferion gorau mewn dysgu ac addysgu, roeddem ni’n teimlo y byddai ein darpariaeth yn elwa o gael cyfraniad uniongyrchol gan fyfyrwyr. Penderfynwyd creu partneriaeth gyda grŵp o fyfyrwyr, yn gweithio fel Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr, i ganolbwyntio ar un o’r materion a godir yn fwyaf amlwg mewn adborth gan fyfyrwyr – cynllun modiwlau Blackboard.

Gwnaed llawer eisoes i wella llywio a chysondeb modiwlau Blackboard, e.e., cyflwynwyd dewislenni Blackboard adrannol ac Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard. Mae enghreifftiau rhagorol o fodiwlau Blackboard i’w cael, gyda rhai’n cael eu harddangos yn ein Gwobrau Cwrs Nodedig. Fodd bynnag mae sylwadau ar anawsterau o ran llywio a diffyg cysondeb modiwlau Blackboard yn dal i ymddangos yn adborth y myfyrwyr (e.e. Arolwg Digital Insights).

Cyn dechrau’r prosiect, cafodd yr Uned gyfle i fynd i weithdy ar bartneriaeth myfyrwyr-staff a gyflwynwyd gan Ruth a Mick Healey sy’n ymgynghorwyr blaenllaw ar yr agwedd hon ar ymgysylltu â myfyrwyr. Roedd y sesiwn, yn ogystal ag ymgynghoriad dilynol oedd yn edrych yn benodol ar y prosiect Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr, yn hynod o werthfawr. Er bod ein prosiect yn canolbwyntio’n bennaf ar ymgynghori â myfyrwyr, gwnaethom ein gorau i gyflwyno gwerthoedd sylfaenol partneriaethau myfyrwyr-staff, grymuso myfyrwyr i berchnogi’r prosiect, eu helpu i wireddu effaith eu gwaith a myfyrio ar sut y bu’n fuddiol i’w twf.

Hysbysebwyd prosiect y Llysgenhadon Dysgu Myfyrwyr drwy gynllun GwaithAber a llwyfan GyrfaoeddAber yn ogystal ag ymhlith Cynorthwywyr i Gymheiriaid a Chynrychiolwyr Myfyrwyr. Yn ystod yr wythnos cyn dechrau’r prosiect cwblhaodd myfyrwyr eu hymsefydlu oedd yn cynnwys cyfarwyddo â gweithdrefnau gwaith iechyd a diogelwch, canllawiau diogelwch gwybodaeth a diogelu data, a chyflwyniad i’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu.

Dechreuon ni ddydd Llun 12 Gorffennaf, gyda sesiwn ddwyawr oedd yn cynnwys gweithgareddau torri’r iâ, sefydlu rheolau sylfaenol, mynd drwy amserlen y prosiect a chyflwyno myfyrwyr i safle Teams y prosiect a ddefnyddiwyd i gyfathrebu fel grŵp y tu allan i’r sesiynau byw. Yn y sesiwn hon, pwysleisiwyd y rheswm y tu ôl i’r prosiect yn ogystal â’r effaith y bydd yn ei gael. Yn ystod y sesiwn gyntaf, dechreuon ni daflu syniadau am yr hyn mae modiwl Blackboard sydd wedi’i gynllunio’n dda’n ei olygu i ni, gan greu rhestr o eitemau y dylid eu cynnwys mewn modiwl Blackboard a’u categoreiddio. Drwy gydol y sesiwn hon a sesiynau eraill defnyddiwyd cyfuniad o weithgareddau grŵp llawn a gweithgareddau grŵp llai mewn ystafelloedd trafod i ganiatáu cyfraniad cytbwys. Ar ôl y sesiwn gyntaf, cyfunwyd ein nodiadau a’u gosod ar y safle Teams. Yna gofynnwyd i’r myfyrwyr fwrw golwg ar y ddogfen derfynol a gwneud unrhyw sylwadau a newidiadau oedd eu hangen yn eu barn nhw.

Treuliwyd ail a thrydydd diwrnod y prosiect yn profi defnyddioldeb modiwlau Blackboard yr oedd eu cydlynwyr wedi cytuno i wirfoddoli ar gyfer y gweithgareddau. Yn ystod y broses profi defnyddioldeb, buom yn gweithio gyda phob myfyriwr yn unigol gan ofyn yn gyntaf iddynt archwilio tudalen groeso Blackboard ac yna bob un o’r modiwlau. Ar y diwedd, gofynnwyd hefyd iddynt ddangos modiwl o’u hadran nhw yr oeddent yn ei hoffi ac yn ei gael yn hawdd ei lywio. Gorffennwyd gyda sgwrs fer ar yr hyn yr hoffen nhw ganolbwyntio arno yn eu blog. Dewisodd pob myfyriwr un agwedd ar gynllun modiwlau Blackboard e.e. gwybodaeth asesu, llawlyfr, manylion cyswllt ac ati, gan egluro’r hyn oedd yn ddefnyddiol iddyn nhw.

Ar ddiwrnod pedwar, daethom yn ôl at ein gilydd i gwblhau dau weithgaredd olaf. Yn gyntaf, crëwyd bwrdd gyda phroblemau cynllunio cyffredin o fewn Blackboard, eu heffaith, ac argymhellion ar gyfer eu datrys. Yna ar ôl rhoi amser i’r Llysgenhadon gyfarwyddo â’r RMP, aethom gyda’n gilydd drwy bob adran o’r ddogfen yn gwneud addasiadau’n seiliedig ar eu sylwadau.

Daeth yr wythnos i ben gyda chynnig gweithdy dewisol ychwanegol i’r Llysgenhadon i’w helpu i fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y prosiect, pa sgiliau a ddysgwyd a sut y gallent arddangos yr hyn a wnaethon nhw mewn ceisiadau a chyfweliadau am swyddi.

Gwnaeth ansawdd gwaith y Llysgenhadon argraff dda iawn arnaf i. Erbyn diwedd y prosiect cynhyrchodd y myfyrwyr y canlynol:

  • Beth y dylid ei gynnwys mewn modiwl (Diwrnod 1)
  • Profi Defnyddioldeb – adborth cyffredinol (Diwrnod 2 a 3)
  • Profi Defnyddioldeb – adborth modiwl 1 (i’r cydlynydd modiwl)
  • Profi Defnyddioldeb – adborth modiwl 2 (i’r cydlynydd modiwl)
  • Argymhellion i staff ar broblemau cyffredin Blackboard
  • Newidiadau arfaethedig i RMP
  • Myfyrio ar redeg y prosiect SLA

Blogiau myfyrwyr:

Ydy eich modiwlau Blackboard yn siarad iaith y myfyriwr? –

Gan Angela Connor

Gwybodaeth am Asesiadau – Awgrymiadau Myfyrwyr –

Gan Elisa Long Perez a Gabriele Sidekerskyte

Cyflwyno ‘Offer ar gyfer Ysgrifennu Academaidd’ ar draws pob adran –

Gan Lucie Andrews

Pwysigrwydd llawlyfrau modiwl cynhwysfawr –

Gan Nathalia Kinsey

Trefnu cynnwys Blackboard – Awgrymiadau Myfyrwyr –

Gan Erin Whittaker, Katie Henslowe a Charlotte Coleman

Pwysigrwydd Rhannu’r Rhestr Ddarllen –

Gan Ammaarah James

Gan nad yw fy rôl fel arfer yn cynnwys gweithio’n uniongyrchol gyda myfyrwyr, roedd cael y cyfle i gynnal y prosiect hwn yn foddhaus iawn. Dyma rai argymhellion y gallaf eu cynnig i’r rheini sy’n cynnal mentrau tebyg:

  • Cynhwyswch sesiynau torri’r iâ a chymerwch amser i ddod i adnabod y myfyrwyr ac iddyn nhw ddod i adnabod ei gilydd.
  • Ceisiwch beidio â bod yn rhy ffurfiol, mwynhewch y prosiect a’i drin â chywreinrwydd – bydd hyn yn trosglwyddo i’r ffordd y bydd eich myfyrwyr yn ei weld.
  • Gadewch i’r myfyrwyr berchnogi’r prosiect cymaint â phosibl e.e. cynhwyswch agweddau o’r prosiect lle mae ganddynt reolaeth i ddewis ffocws.
  • Gweithiwch gyda nhw’n unigol a gyda’i gilydd, bydd hyn yn eich helpu i wrando ar bob unigolyn, ond hefyd yn gadael i’r grŵp drafod a thaflu syniadau gyda’i gilydd.
  • Helpwch nhw i fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd. Mae’n hawdd cwblhau darn trawiadol o waith ac anghofio’n gyflym yn union beth a wnaed i’w gyflawni. Gallwch ychwanegu gwerth i’ch prosiect drwy gynnig adran ddewisol sy’n helpu myfyrwyr i weld sut y gallant ddefnyddio’r hyn a wnaed ganddynt i ddatblygu eu cynlluniau.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*