Myfyrdodau’r Grŵp E-ddysgu ar y Gynhadledd Fach ddiweddar

E-learning Group

Yn dilyn y Gynhadledd Fach ddiweddar ar Addysg Gynhwysol, rydym wedi bod yn myfyrio ar ein profiad o’r digwyddiad. Mae pob aelod o’r Grŵp E-ddysgu wedi ysgrifennu darn byr ar un agwedd ar y Gynhadledd Fach.

Niwroamrywiaeth

Roedd sesiwn Janet a Caroline yn ddiddorol o ran y pwnc a’r ffordd y cafodd ei gyflwyno. Fel hyfforddwr, rwy’n chwilio byth a hefyd am syniadau newydd a ffyrdd newydd o gyflwyno gwybodaeth, ac roedd llawer yn y sesiwn hwn. O ymarferion paru i waith grŵp, roedd hwn yn gyflwyniad arbennig o weithredol.

Yn ogystal â helpu i ddeall bod ymennydd pawb yn gweithio’n wahanol iawn, a bod y rheiny â chyflwr niwroamrywiaeth yn aml yn gorfod gweithio’n galed iawn i gyflawni tasgau y byddai pobl niwronodweddiadol yn eu cymryd yn ganiataol. Er y gallai hyn arwain at fwy o straen a llwyth gwaith, y mae hefyd yn fanteisiol gan y gall pobl â niwroamrywiaeth hefyd fod yn gryf, yn greadigol a chanfod ffyrdd newydd ac arloesol o weithio er mwyn cyrraedd eu deilliannau.

Roedd y sesiwn yn amlygu’r ffaith fod llawer o arwyddion allanol niwroamrywiaeth yn debyg iawn, ac y gall newidiadau bach i’r ffordd yr ydym yn addysgu fod o gymorth.

Cyflwynodd Janet a Caroline eu sesiwn mewn ffordd ryngweithiol oedd yn ennyn diddordeb – a byddaf yn sicr yn cofio’r ymarfer lle gwnaethom geisio egluro gwyliau heb ddefnyddio’r llythyren e! Rhowch gynnig arni … bydd yn rhoi syniad sydyn i chi o sut mae gweithio o gwmpas rhywbeth y mae pawb yn ei gymryd yn ganiataol yn arwain at waith caled iawn, a cham-gychwyn dro ar ôl tro – ond hefyd ffordd newydd a gwahanol o fynegi eich hun.

Gwirydd Hygyrchedd

O ganlyniad i’r sesiwn, mae gennyf bellach agwedd newydd tuag at yr offerynnau a ddefnyddiaf a’r deunyddiau a luniaf ar gyfer fy myfyrwyr fel addysgwr.
Byddaf yn gwneud ymdrech i beidio â meddwl am fyfyrwyr ag anghenion dysgu penodol fel unigolion y mae’n rhaid imi greu deunyddiau pwrpasol personol ar eu cyfer. Nid oes gan fyfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol arddull ddysgu unigryw. Maen nhw’n gwneud dewis fel ag y mae gweddill y myfyrwyr i ryw raddau. Mae’n well meddwl y gall eu harddulliau dysgu neu ddewisiadau penodol fod o fudd i’r holl fyfyrwyr.

Byddaf yn defnyddio offerynnau cynwysedig fel y gwirydd hygyrchedd yn Word. Nid oes angen anfon fy ngwaith at arbenigwr neu ddefnyddio rhaglenni cymhleth. Po fwyaf syml yw’r deunyddiau a gynhyrchaf,  gorau oll yw hynny ar gyfer cydweddu â thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hygyrchedd yn golygu bod yn rhaid imi ddefnyddio ffont ‘comic sans’ ar gyfer pob dim. Pethau bach fel ychwanegu testun amgen ar gyfer llun, defnyddio teitlau a phenawdau’n gywir yn hytrach na chwarae gyda ffontiau. Nid oes disgwyl i bob dim a gynhyrchaf gyfateb i lawysgrif euraidd. Rhaid iddo fod yn ymarferol er mwyn iddo ateb y gofyn o gyflwyno gwybodaeth, sef yr hyn a wnaf wrth addysgu beth bynnag.

Beth hoffech chi ei wneud yn wahanol (1)?

Defnyddio Profion Blackboard i ehangu mynediad i ddysgu

Mae Profion Blackboard yn ffordd wych o greu adnodd dysgu i fyfyrwyr. Fel technolegydd dysgu a rhywun sy’n aml ond yn gweld ochr dechnegol profion, roedd yn ddefnyddiol iawn i glywed Jennifer Wood yn cyflwyno ei phrofiad ei hun o’r manteision niferus o ddefnyddio’r offeryn hwn. Mae Jennifer yn addysgu Sbaeneg yn yr Adran Ieithoedd Modern ac mae defnyddio profion wedi galluogi Jennifer i ryddhau amser gwerthfawr yn y dosbarth i ganolbwyntio ar drafodaethau mwy defnyddiol. Cyn defnyddio Profion Blackboard, byddai myfyrwyr yn treulio cyfran o’u hamser yn y dosbarth yn gwneud profion. Bellach gall myfyrwyr brofi eu gwybodaeth a’u dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth mewn amgylchedd y maen nhw’n teimlo’n gyfforddus ynddo. Gan ddibynnu ar y math o gwestiwn a ddewiswch (ceir llawer o fathau o gwestiynau), gall y profion gael eu marcio’n awtomatig a gall yr adborth gael ei ryddhau i’r myfyrwyr ar ôl iddynt sefyll y prawf.  Wrth gwrs, mae’n rhaid gwneud peth gwaith ar gyfer profion a rhaid ichi sicrhau eich bod yn gwybod pam y dymunwch ddefnyddio’r prawf er mwyn iddo fod yn ddefnyddiol i chi a’ch myfyrwyr.

Fel trwch cynnwys Blackboard, ceir llawer o osodiadau y gallwch eu defnyddio i baru’r prawf i’ch anghenion a’ch gofynion dysgu. Mae’r Grŵp E-ddysgu yn wastad yn barod i wirio prawf, edrych drwy’r gosodiadau neu hefyd gynorthwyo wrth ddewis y math cywir o gwestiwn ar gyfer eich gweithgarwch dysgu. Beth am greu prawf i helpu’ch myfyrwyr â’u gwaith adolygu?

Beth hoffech chi ei wneud yn wahanol (2)?

Siarad Cyhoeddus a mynediad i sgiliau craidd

Fe wnaeth sgwrs Rob Grieve fy helpu i werthfawrogi faint o broblem yw siarad cyhoeddus i rai unigolion. Roedd y cyngor am fod yn ‘siaradwr diffuant’ yn arbennig o ddefnyddiol i mi. Peidio â blaenoriaethu arddull dros sylwedd, canolbwyntio ar y wybodaeth y dymunaf ei chyflwyno a cheisio siarad mewn ffordd sy’n naturiol i mi yw’r strategaethau y bwriadaf eu defnyddio i wella fy ngallu i siarad yn gyhoeddus.

Cefais f’ysbrydoli hefyd gan gyflwyniad Debra Croft ar y Brifysgol Haf. Dyma brosiect sy’n rhoi cyfle amhrisiadwy i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Gwnaeth amrywiaeth y pynciau a drafodir yn ystod 6 wythnos yn unig, gan gynnwys sgiliau bywyd yn ogystal â phynciau academaidd, argraff fawr arnaf. Roedd cynllun hyblyg a chreadigol y gweithgareddau a’r asesiadau wedi’u teilwra ar gyfer anghenion y myfyrwyr yr un mor drawiadol.  Dangosodd y cyflwyniad hwn sut gall darparu ar gyfer y gwahaniaethau gael effaith sylweddol ar fywydau pobl.

Cyflwyno cynnig ar gyfer y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol eleni

Gan fod cynifer o awgrymiadau a myfyrdodau defnyddiol, roedd dewis un ar gyfer pob un ohonom yn dipyn o dasg! Gallwch weld adroddiad llawn am y gynhadledd fach wedi’i rannu yn ddau bostiad blog (Rhan 1 a Rhan 2). Fe’ch atgoffir bod Galwad am Gynigion ar gyfer ein prif Gynhadledd Dysgu ac Addysgu ar gael yma a’n bod yn croesawu cynigion o bob ardal yn y Brifysgol.

Beth hoffech chi ei wneud yn wahanol (3)?

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*