Padlet

[Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bûm yn dilyn cwrs FutureLearn o’r enw Using Technology in Evidence-Based Teaching and Learning sy’n cael ei redeg gan y Coleg Addysgu Siartedig ac yn canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau dysgu mewn addysg gynradd ac uwchradd. Er bod y cyd-destun yn wahanol i addysg uwch, bu’n gwrs diddorol a goleuedig iawn. Bu’n ddefnyddiol i ganfod mwy am y system addysg y daw ein myfyrwyr ohoni, ac mae’n dda hefyd i ddysgu mwy am wahanol offerynnau a thechnolegau na ddefnyddiwn i’r un graddau efallai mewn prifysgolion.

Screenshot of a Padlet board

Un o’r offerynnau y mae athrawon mewn ysgolion yn ei ddefnyddio’n aml yw Padlet. Gwyddom fod Padlet yn cael ei ddefnyddio mewn prifysgolion ac efallai bod defnyddwyr Padlet ymhlith ein darllenwyr. Ond, nid oedd yn rhywbeth yr oeddwn i wedi’i ddefnyddio ryw lawer, felly penderfynais gael golwg arno.

Mae Padlet (https://padlet.com/) yn ei ddisgrifio ei hun yn ‘feddalwedd cynhyrchiant’ sy’n gwneud cydweithredu yn haws. Fe’i cynlluniwyd o amgylch y syniad o wal neu fwrdd y gallwch chi a defnyddwyr eraill ychwanegu cerdiau neu nodiadau ato. Gall y cerdiau gynnwys testun, lluniau, dolenni cyswllt, fideos a ffeiliau.

I greu bwrdd Padlet, bydd yn rhaid ichi greu cyfrif – gallwch gael cyfrif am ddim sy’n darparu 3 bwrdd a hawl i uwchlwytho 10Mb. Byddwch hefyd yn gweld hysbysebion yn y fersiwn hwn. Gallwch gofrestru drwy Google neu greu eich cyfrif eich hun. Gall myfyrwyr gyfrannu at y byrddau heb greu cyfrif, ond os byddant yn dymuno gwybod pwy sydd wedi postio beth, bydd yn rhaid iddynt greu cyfrif. Gall byrddau fod yn breifat neu’n gyhoeddus, a gallwch reoli pwy i’w gwahodd i bostio i’r byrddau. (Mynnwch olwg ar ein post ar feddalwedd pleidleisio ac ystyriaethau preifatrwydd).

Ceir dau ddefnydd posibl amlwg ar gyfer Padlet – gweithgareddau curadu neu ymchwilio yw’r cyntaf, a chasglu adborth i fyfyrwyr yw’r ail.
Gallwch ddod o hyd i lawer o astudiaethau achos o ysgolion, colegau a phrifysgolion yn defnyddio Padlet i alluogi myfyrwyr i gasglu adnoddau a deunyddiau ar y cyd, e.e. ar gyfer cyflwyniadau a phrosiectau grŵp neu ar gyfer paratoi seminarau. Mae gwaith israddedigion Blwyddyn Sylfaen Seicoleg Prifysgol Sussex yn enghraifft hyfryd (https://journals.gre.ac.uk/index.php/compass/article/view/714)

Mae’n bosib y bydd llawer ohonom hefyd wedi gweld Padlet yn cael ei ddefnyddio i hwyluso rhyngweithio mewn darlithoedd neu gyflwyniadau. Gall myfyrwyr bostio eu cwestiynau ar wal Padlet yn ystod darlith i alluogi’r darlithydd i weld sylwadau a chwestiynau. O’i ddefnyddio yn y modd hwn, mae gan Padlet rai o’r un offerynnau â mathau eraill o feddalwedd pleidleisio. Er nad yw’n galluogi cyfranogwyr i ateb cwestiynau, mae’n ffordd wych o gasglu ymatebion ysgrifenedig y gellir eu defnyddio’n ddiweddarach, neu eu harchifo i gyfeirio atynt yn y dyfodol.

Ceir set ddefnyddiol iawn o adnoddau o Brifysgol Derby (https://digitalhandbook.wp.derby.ac.uk/menu/toolbox/padlet/). Dylech fod yn ymwybodol fod y set yn cynnwys gwybodaeth benodol ar gyfer staff Derby, ond dylai’r syniadau fod yn ddefnyddiol i chi. Os ydych eisoes yn defnyddio Padlet, cysylltwch â ni; rydym yn chwilio am flogwyr gwadd o hyd. Gallech chi hefyd ystyried cyflwyno cynnig ar gyfer papur yn y gynhadledd Dysgu ac Addysgu ym mis Gorffennaf.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*