Defnyddio’r adnoddau sgrindeitlo a chwisiau yn Panopto

Panopto yw meddalwedd Cipio Darlithoedd y Brifysgol. Yn haf 2018, symudodd Panopto i’r cwmwl sy’n golygu yn ogystal â llai o amser segur, gwnaethom hefyd fanteisio ar ddiweddariadau a gwelliannau rheolaidd i’r feddalwedd. Er mai defnyddio Panopto ar gyfer cipio darlithoedd yw’r brif swyddogaeth o hyd, rydym hefyd wedi gweld cynnydd mewn defnydd arloesol ar draws y Brifysgol, gan gynnwys ei defnyddio i recordio asesiadau, ei defnyddio i greu aseiniadau a hefyd i greu perfformiadau.

Yn dilyn diweddaru Panopto ym mis Rhagfyr i fersiwn 6.0, cyflwynwyd cwisiau, sgrindeitlo a gwell ystadegau er mwyn i chi allu gweld rhagor o wybodaeth am sut mae gwylwyr yn defnyddio eich cynnwys Panopto. Mae’r neges flog hon yn edrych yn benodol ar ddefnyddio’r adnodd sgrindeitlo a hefyd defnyddio’r cwisiau (os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwelliannau i’r ystadegau, edrychwch ar y neges flog hon a’n Cwestiwn Cyffredin).

Defnyddio’r adnodd sgrindeitlo yn Panopto

Er nad yw’n gywir 100%, gallwch fewnforio sgrindeitlau awtomatig ar gyfer eich recordiadau. I wneud hyn, ewch i’r fideo yn abercast.aber.ac.uk yr hoffech gael sgrindeitlau ar ei gyfer a dilynwch y canllawiau yn y Cwestiwn Cyffredin hwn. Yn ogystal â darparu trawsgrifiadau i’r rhai sydd eisiau gweld y ddarlith, efallai y byddai unigolion sydd eisiau cynnal cyfweliadau yn rhan o’u hymchwil neu’u traethawd estynedig yn gweld yr adnodd sgrindeitlo awtomatig yn sail ddefnyddiol ar gyfer trawsgrifio. Os hoffech recordio cyfweliad, lawrlwythwch Panopto, crëwch recordiad a mewnforio’r capsiwn.

Defnyddio’r adnodd gwisiau yn Panopto

Yn ogystal â gallu sgrindeitlo recordiadau, mae Panopto bellach yn gallu ychwanegu cwisiau er mwyn i’r gwylwyr allu rhyngweithio â recordiadau darlith mewn ffordd fwy ystyrlon. Ar hyn o bryd mae tri chwestiwn gwahanol a’r gallu i rwystro gwyliwr rhag symud ymlaen drwy’r recordiad nes eu bod wedi ateb y cwestiynau. Gallwch hefyd lawrlwytho’r canlyniadau er mwyn i chi allu gweld cynnydd. Rydym yn gweld cynnydd enfawr yn y defnydd o Panopto yn ystod cyfnod yr arholiadau. O ddiwedd y tymor ym mis Rhagfyr 2018 tan ddiwedd cyfnod yr arholiadau ym mis Ionawr 2019, gwyliwyd 768,594 munud o recordiadau. Mae hyn yn gyfwerth â 12810 awr neu 534 diwrnod. Bydd ychwanegu cwisiau i recordiadau Panopto yn golygu y bydd modd i wylwyr brofi eu gwybodaeth wrth wylio. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio cwisiau darllenwch y Cwestiwn Cyffredin hwn a’r canllaw hwn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio sgrindeitlo neu gwisiau yn Panopto cysylltwch â ni (eddysgu@aber.ac.uk / 01970 62 2472). Rydyn ni hefyd yn cynnal sesiwn Hyfforddiant E-ddysgu Uwch ar Ddefnyddio Offer E-ddysgu ar gyfer Gweithgareddau Adolygu ddydd Mercher 27 Mawrth am 3yp. Gallwch archebu lle ar y cwrs yma.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*