
Sesiwn y Fforwm Academi ar gynwysoldeb yr wythnos diwethaf oedd un o’r sesiynau â’r presenoldeb uchaf eleni. Roedd hi’n wych gweld cymaint o ddiddordeb mewn datblygu dysgu sy’n fwy cynhwysol, a chymaint o ymroddiad i wneud hynny hefyd. Cyflwynwyd y sesiwn hon mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr. Bu’r Cynghorydd Hygyrchedd Nicky Cashman yn rhoi gwybodaeth i staff am ddemograffeg yn PA, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr.
Dechreuodd y sesiwn â’r cwestiwn eang ‘Beth mae cynwysoldeb yn ei olygu i chi?’ (gweler uchod y cwmwl geiriau a grëwyd gennym). Wedi cyflwyniad Nicky, aethom ymlaen i gynnal gweithgaredd yn seiliedig ar sefyllfaoedd. Cafodd pob grŵp un sefyllfa i weithio â hi. Bob ychydig o funudau, roedd pob grŵp yn cael darn ychwanegol o wybodaeth er mwyn rhoi safbwynt ehangach iddynt ar y sefyllfa.
Mae’r sefyllfaoedd i’w gweld ar waelod y postiad hwn.
Wedi’r gweithgaredd cafwyd trafodaeth ar gyfer y grŵp cyfan. Bu aelodau o staff yn siarad am ‘ddyletswydd gofal’ tuag at eu myfyrwyr ac i ba raddau y disgwylir iddynt fonitro eu myfyrwyr ac y dylent fod yn gwneud hynny. Buom yn trafod hefyd y cydbwysedd rhwng gofalu am fyfyrwyr unigol ac anghenion y garfan gyfan o fyfyrwyr. Roedd y grŵp a fu’n ystyried Sefyllfa Un yn berffaith gywir wrth dynnu sylw at y ffaith y byddai sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu haseinio i grwpiau ymlaen llaw yn ffordd fwy cynhwysol o weithio, er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle mae rhywun yn cael ei eithrio. Cafwyd trafodaeth ynghylch pryd mae asesiadau amgen yn briodol a phryd y byddai cymorth ychwanegol i gwblhau’r asesiadau sy’n bod eisoes yn fwy addas. Yn olaf, trafodwyd pwysigrwydd sefydlu ymddiriedaeth â myfyrwyr, yn ogystal â chysylltu â myfyrwyr a allai fod yn dangos arwyddion cynnar eu bod yn cael anhawster.
Rydym ni’n ddiolchgar iawn i Nicky ac i’r holl staff a ddaeth i’r sesiwn hon a chyfrannu ati.
Read More