Cyhoeddi Rhaglen y Gynhadledd Fer

Accessibility icons showing 3 images: a checklist, a computer workstation, an image

Dydd Mawrth 20 Rhagfyr, bydd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal Gynhadledd Fer yr Academi ar-lein.

Y thema fydd ‘Cynaliadwyedd mewn Addysg Uwch’.

Cynhelir y Gynhadledd Fer o 10:15-14:15.

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen:

  • Dr Georgina Gough – prif siaradwr Embedding Sustainability Goals across the Curriculum
  • Marian Gray: Student Mobility and Cross-Cultural Skills – Global and Sustainable?
  • Dr Louise Marshall – Discipline hopping: Interdisciplinary approaches to a sustainable curriculum

Gweler y rhaglen ar ein tudalennau gwe i gael crynodebau ac amserau’r sesiynau.

Gobeithio y gallwch ymuno â ni. Gallwch gofrestru i ddod i’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch udda@aber.ac.uk.

Cyhoeddi’r Prif Siaradwr: Cynhadledd Fer ar Gynaliadwyedd mewn Addysg Uwch

Accessibility icons showing 3 images: a checklist, a computer workstation, an image

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein prif gyflwyniad ar gyfer y Gynhadledd Fer eleni, sy’n cael ei chynnal ar-lein drwy Teams ar 20 Rhagfyr 2022.

Bydd Dr Georgina Gough yn arwain sesiwn ar gynnwys Nodau Datblygu Cynaliadwy yn y cwricwlwm.

Mae Dr Gough yn Athro Cyswllt mewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Mae’n cydlynu cyfnewidfa wybodaeth arobryn ledled y brifysgol ym maes addysg cynaliadwyedd (KESE) ac yn mentora academyddion i allu cynnwys cynaliadwyedd yn eu dysgu a’u hymarfer proffesiynol. Mae Georgina yn arwain prosiect hirdymor sy’n mapio gweithgarwch academaidd ar sail Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig ac mae’n chwarae rhan weithredol mewn gwaith ar lefel y ddinas i gyflawni’r nodau hynny. Roedd hi’n aelod o’r panel arbenigol a ddatblygodd ganllawiau’r sector addysg uwch ar Nodau Datblygu Cynaliadwy (AU Ymlaen/ASA, 2021) ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr, myfyrwyr a rhanddeiliaid allanol i gynnwys cynaliadwyedd ledled addysg uwch ac i rannu arferion da yn fewnol ac yn allanol. Mae Georgina yn arwain y rhaglen MSc Ymarfer Datblygu Cynaliadwy ac yn dysgu ar fodiwlau daearyddiaeth a busnes i israddedigion, yn ogystal â chyfrannu at fodiwlau cynaliadwyedd a mentrau datblygu academaidd ledled y brifysgol.

Gallwch archebu eich lle yn awr ar gyfer y gynhadledd fer – cofrestrwch ar-lein. Byddwn yn cyhoeddi ein rhaglen lawn yn fuan.

Galw am Gynigion: Cynhadledd Fer – Cynaliadwyedd mewn Addysg Uwch

Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Cynhadledd Fer nesaf.

Ar 20 Rhagfyr, byddwn yn cynnal digwyddiad ar-lein i drafod Cynaliadwyedd mewn Addysg Uwch.

Yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni, cawsom gwmni Dr Alex Hope o Brifysgol Northumbria, a fu’n siarad am sut y gallem gynnwys Cynaliadwyedd yn y Cwricwlwm. Gallwch wrando ar sgwrs Alex o’r gynhadledd ar-lein.

Os hoffech gyfrannu at y digwyddiad, ymatebwch i’r Galw am Gynigion erbyn dydd Gwener 18 Tachwedd 2022.

Gallai’r pynciau posibl gynnwys:

  • Cynaliadwyedd yn y Cwricwlwm
  • Asesu a Chynaliadwyedd
  • Datblygu Myfyrwyr sy’n ymwybodol o Gynaliadwyedd
  • Olrhain Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Mae’n bosibl archebu lle ar gyfer y digwyddiad undydd nawr – archebwch ar-lein.

Bydd cyflwynwyr allanol yn ymuno â ni yn y digwyddiad felly cofiwch gadw llygaid ar ein blog wrth i ni gyhoeddi ein rhaglen.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni: udda@aber.ac.uk.  

Learning and Teaching Conference 2020 Logo

Recordiadau ac adnoddau Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2022 bellach ar gael!

Keynote announcement banner

Hoffem ni yn yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd ac a ymunodd â ni yn ein cynhadledd flynyddol dysgu ac addysgu.

Peidiwch â phoeni os na fu modd ichi fod yn bresennol – mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr holl recordiadau bellach ar gael ar dudalen rhaglen y Gynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu.

Os oeddech yn bresennol yn y gynhadledd eleni, byddai’n dda gennym glywed eich adborth. Llenwch Arolwg Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu 2022. Rydym yn dechrau ar ein paratoadau ar gyfer ein 11eg Cynhadledd Flynyddol Dysgu ac Addysgu a bydd eich adborth o gymorth inni sicrhau mai’r gynhadledd hon fydd yr orau eto!

Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r 10fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, sydd ychydig dros fis i ffwrdd, 12-14 Medi.

Diben thema’r gynhadledd eleni, Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth: Dathlu 10 mlynedd o Gynadleddau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth, yw myfyrio ar yr ymrwymiad sydd gan staff PA i wella profiad dysgu myfyrwyr a chydnabod degawd o gynadleddau. 

Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen lawn.  Byddwn yn cael 2 ddiwrnod ar-lein (dydd Llun 12 Medi a dydd Mercher 14 Medi) ac 1 diwrnod wyneb yn wyneb (dydd Mawrth 13 Medi).

 Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein hon.  

 Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu tri anerchiad allanol eleni: 

  • Cyflwynir y prif anerchiad eleni gan Kyra Araneta, Jennifer Fraser, a Moonisah Usman o Brifysgol Westminster. Byddant yn edrych yn benodol ar waith partneriaethol rhwng staff a myfyrwyr sydd yn gymdeithasol gyfiawn.
  • Bydd ein hail siaradwr allanol, Alex Hope, yn edrych ar ffyrdd ystyrlon y gallwn ymgorffori cynaliadwyedd ar draws ein maes llafur.
  • Mae’n bleser gennym groesawu ein cydweithiwr, Ania Udalowska, yn ôl i gynnal sesiwn ar y prosiect Hyrwyddwyr Dysgu Digidol maen nhw’n ei gynnal ym Mhrifysgol Celfyddydau Llundain.

Mae gennym raglen gyffrous ac amrywiol eleni gyda chynrychiolwyr o bob cyfadran. Yn ogystal â’n siaradwyr allanol, mae gennym bynciau gwych yn cael eu cyflwyno gan gydweithwyr:

  • Bord gron ar ddatblygu galluoedd digidol myfyrwyr gyda chydweithwyr o’r adrannau Busnes, Seicoleg ac Addysg
  • Uniondeb academaidd ar ôl Covid
  • Strategaethau ymgysylltiad myfyrwyr
  • Asesiadau dilys
  • Trawsieithu o fewn cyd-destun dwyieithog

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y gynhadledd, a chofiwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chi gysylltu â ni. 

Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol: Dathlu 10 mlynedd

Eleni yw’r 10fed flwyddyn y trefnir cynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu. Er mwyn dathlu, rydym wedi rhoi ein holl ddeunydd o’r cynadleddau blaenorol ar we-ddalennau’r gynhadledd.

Rydym hefyd wedi cymryd golwg ar ein hystadegau ac wedi crynhoi nifer o ffeithiau i chi.

Ers y gynhadledd gyntaf yn 2013:

  • Bu dros 400 o wahanol aelodau o staff a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn bresennol yn y gynhadledd
  • Daeth mwy na 1000 o bobl i’r cynadleddau

Nifer y sesiynau yn ôl Adran:

Ein 10 prif adran academaidd a gyflwynodd yn y gynhadledd yw:

  1. IBERS gyda 41 sesiwn
  2. Addysg gyda 28 sesiwn
  3. Dysgu Gydol Oes gyda 26 sesiwn
  4. Seicoleg gyda 21 sesiwn
  5. Cyfrifiadureg gyda 18 sesiwn
  6. Ysgol Fusnes Aberystwyth gyda 17 sesiwn
  7. Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyda 14 sesiwn
  8. Ffiseg gyda 13 sesiwn
  9. Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear gyda 12 sesiwn
  10. Y Gyfraith a Throseddeg gydag 11 sesiwn

Y rhan fwyaf o sesiynau gan gyflwynydd

Mae 3 unigolyn yn gydradd gyntaf am y nifer fwyaf o sesiynau a gyflwynwyd gan aelod o staff academaidd. Â chyfanswm o 8 sesiwn, mae Steve Atherton, Addysg, Antonia Ivaldi a Gareth Norris, Seicoleg. Yn gydradd yn y pedwerydd safle, gyda 7 sesiwn, mae Basil Wolf, IBERS a Maire Gorman o Ysgol Graddedigion a Ffiseg. Llongyfarchion a diolch iddyn nhw.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y ddegawd nesaf o gynadleddau. Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn y gynhadledd rhwng 12 a 14 Medi eleni, lle bydd cymysgedd o sesiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein. Archebwch eich lle ar-lein. 

Cyhoeddiad am Brif Siaradwyr Gwadd y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r prif siaradwyr gwadd i’r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol eleni (12-14 Medi 2022).

Bydd Kyra Araneta, Jennifer Fraser, a Moonisah Usman o Brifysgol San Steffan yn ymuno â ni’n rhithiol ar gyfer y prif anerchiad, Navigating power lines: Developing principles and practices to support socially just student : staff partnerships.

Yn yr anerchiad hwn, bydd Kyra, Jennifer, a Moonisah yn trafod eu prosiectau am bartneriaethau llwyddiannus rhwng staff a myfyrwyr.

Crynodeb o’r Sesiwn

I lawer ohonom mae prifysgolion ac ystafelloedd dosbarth yn safleoedd llawn posibiliadau (hooks, 1994) a buddsoddwn ni ynddynt ein gobeithion ar gyfer mathau gwahanol o ddyfodol i’r myfyrwyr ac i ninnau. Maent hefyd yn safleoedd o densiwn wrth i ni symud drwy gydberthnasau a dynameg grym sy’n gallu bod yn gymhleth. Mae’r ffordd yr ydym yn ‘byw’ addysg ar gyfer rhyddid wedi dod yn bwysicach byth yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda’r gwrthdystiadau Mae Bywydau Du o Bwys, a’r galwadau am ddad-drefedigaethu prifysgolion. Yn Power Lines: On the Subject of Feminist Alliances mae Aimee Carrillo Rowe yn gofyn ‘Sut ydym yn adeiladu llinellau grym a fydd yn ein cysylltu ni ag eraill mewn cyfiawnder, drwy gyfiawnder, ac ar gyfer cyfiawnder?’ (2008), t. 2). Mae ein hanerchiad yn ymdrin â’r cwestiwn hwn, gan ystyried sut rydym yn datblygu egwyddorion ac arferion i gynnal cydberthnasau partneriaethol rhwng myfyrwyr a staff sydd yn gymdeithasol gyfiawn. Rydym yn dadlau bod perthynas, os yw wedi’i dylunio ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol, yn gallu creu awyrgylchoedd gwrth-hiliol a dad-drefedigaethol (Bell, 2018) sy’n dod yn safleoedd llawn posibiliadau. Gan ddefnyddio enghreifftiau o’n gwaith ym Mhrifysgol San Steffan, ymdriniwn â’r mannau lle y mae grym, cynghreiriaeth, cyfiawnder cymdeithasol a phartneriaeth yn dod ynghyd er mwyn ystyried strategaethau ar gyfer llunio rhaglenni lle mae cydberthnasau trawsnewidiol yn greiddiol. Rydym yn rhannu enghreifftiau o sut rydym wedi meithrin cydberthnasau, cyd-greu gwerthoedd rhaglenni, a’u rhoi ar waith mewn prosiectau partneriaethol. Er mwyn dangos sut y gallwn feithrin partneriaethau gyda llinellau grym sy’n ein cysylltu â chyfiawnder cymdeithasol, byddwn yn defnyddio enghraifft y Prosiect Pedagogies for Social Justice (https://blog.westminster.ac.uk/psj/). Mae’r prosiect hwn wedi ymrwymo i roi lle canolog i leisiau myfyrwyr o safbwynt ei werthoedd, ei gredoau a’i brofiadau, ac i ddefnyddio’r rhain i ddatgymalu mathau cyfoes o wladychiaeth mewn cwricwla, cydberthnasau ac ymchwil. Dadleuwn fod partneriaethau’n hanfodol i’r gwaith hwn wrth iddynt gyd-gynhyrchu gwybodaeth; datblygu ffyrdd newydd a beirniadol o ddeall disgyblaethau; ac ymgymryd â chydweithredu, arbrofi a deialog dros gyfnod estynedig. Gan ddeall mai prosesau heriol a chymhleth yw’r rhain, rydym yn cynnig y prif anerchiad hwn fel cam ymlaen yn eich teithiau’ch hun a thaith eich Prifysgol tuag at greu mannau dysgu cymdeithasol gyfiawn i fyfyrwyr a staff.

Read More

Cyhoeddi siaradwr gwadd: Y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol

Dr Alex Hope

Mae’n bleser gennym gyhoeddi enw ein siaradwr gwadd cyntaf i’r gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol am eleni (12-14 Medi 2022).

Bydd Dr Alex Hope yn ymuno â ni i sôn am wreiddio cynaliadwyedd yn ystyrlon yn y cwricwlwm.

Mae Dr Alex Hope yn Ddirprwy i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Addysg) ac yn Athro Cyswllt Moeseg Busnes yn Ysgol Fusnes Newcastle, Prifysgol Northumbria. Mae’n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol addysg ledled y gyfadran ac mae’n addysgu, ymchwilio ac ymgynghori mewn meysydd megis addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy, busnes cyfrifol, moeseg busnes, a’r nodau datblygu cynaliadwy. Ochr yn ochr â’i waith yn Ysgol Fusnes Newcastle, mae Dr Hope yn Gyd-Gadeirydd Gweithgor Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar Addysg Rheolaeth Gyfrifol (UN PRME) ac yn gyn Is-Gadeirydd UN PRME y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon. Mae’n aelod o Bwyllgor Dysgu ac Addysgu Cymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes (CABS) ac yn aelod o fwrdd Busnes yn y Gymuned y gogledd ddwyrain, rhwydwaith busnes cyfrifol Tywysog Cymru. Mae ganddo PhD mewn Datblygu Cynaliadwy, MA mewn Ymarfer Academaidd, a BSc (Anrh) mewn Rheoli Amgylcheddol.

Nodyn i atgoffa cydweithwyr bod y cyfnod Cais am Gynigion ar agor ar hyn o bryd (i gau ar 27 Mai 2022).

Mae cyfnod archebu am y gynhadledd hefyd ar agor.

Ceir mwy o wybodaeth ar ein gwefan. Byddwn yn cyhoeddi enwau siaradwyr allanol ychwanegol, gan gynnwys ein prif areithwyr, maes o law.

Gallwch Gofrestru ar gyfer y Gynhadledd nawr

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer y degfed gynhadledd Dysgu ac Addysgu flynyddol. Eleni bydd y gynhadledd Dysgu ac Addysgu yn dwyn y thema Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth ac fe’i cynhelir rhwng dydd Llun 12 Medi a dydd Mercher 14 Medi 2022.

Gallwch gofrestru ar gyfer y gynhadledd trwy lenwi’r ffurflen ar-lein. 

Galwad am Gynigion

Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu. Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein. Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 27 Mai 2022.

Galw am Gynigion: Gynhadledd Dysgu ac Addysgu 2022

Gwahoddir staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig a myfyrwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer 10fed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu, Dydd Llun 12 Medi – Dydd Mercher 14 Medi.

Gallwch gyflwyno a gweld yr alwad am gynigion ar-lein.

Mae thema’r gynhadledd eleni:

Dylunio Addysgu Yfory: Arloesi, Datblygu a Rhagoriaeth

Dathlu 10 mlynedd o Gynadleddau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth

Yn adlewyrchu’r ymroddiad sydd gan staff Prifysgol Aberystwyth i wella profiad dysgu eu myfyrwyr.

Dyma prif gangen y gynhadledd eleni:

  • Addysgeg gynhwysol a chynaliadwy 
  • Dilysrwydd asesu, asesu dilys, ac ymgysylltu ag adborth
  • Sgiliau sgaffaldio ar draws y cwricwlwm a thu hwnt
  • Datblygu cymuned Prifysgol Ddwyieithog
  • Gweithio gyda myfyrwyr fel partneriaid i ddylunio dysgu 
  • Dysgu gweithredol yn y dirwedd addysg uwch heddiw

 Mae croeso i staff, cynorthwywyr dysgu uwchraddedig, a myfyrwyr gynnig sesiynau ar unrhyw bwnc sy’n berthnasol i ddysgu, yn enwedig os ydynt yn canolbwyntio ar ymgorffori a defnyddio technoleg wrth ddysgu. Mae croeso i chi gyflwyno pynciau eraill, hyd yn oed os nad ydynt yn cyd-fynd ag un o’r canghennau uchod.

Rydym yn annog cyflwynwyr i ystyried defnyddio fformatau amgen sy’n cyd-fynd â’r hyn a drafodir yn eu sesiynau. Gan hynny, ni fyddwn yn gofyn am fformat cyflwyno safonol, ond gofynnwn i chi gynnwys fformat, hyd y sesiwn ac unrhyw ofynion eraill a fo gennych wrth i chi wneud eich cynnig isod.

Gofynnwn i chi lenwi’r ffurflen hon erbyn 27 Mai 2022.

Anelwn at roi gwybod i chi am ganlyniad eich cais erbyn 17 Mehefin 2022. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Datblygu ac Addysgu am udda@aber.ac.uk.