Rydym yn falch iawn o gadarnhau ein rhaglen ar gyfer digwyddiad olaf y flwyddyn ddydd Iau 18 Rhagfyr.
Cynhelir ein Cynhadledd Fer ar DA Cynhyrchiol rhwng 09:30 a 15:30. Rydyn ni’n cynnal hwn fel digwyddiad hybrid. I’r rhai sydd eisiau ymuno wyneb yn wyneb, fe’i cynhelir yn Adeilad y Ganolfan Ddelweddu, VC, 0.06.
Rydym yn falch iawn o gadarnhau ein siaradwyr allanol:
Bydd James Fern a Richard Mason yn ymuno â ni i rannu’r dull 2-lôn o Gynllunio Asesiad DA Cynhyrchiol sydd wedi’i fabwysiadu ym Mhrifysgol Caerfaddon.
Yn gynharach eleni, yn y 13fed Cynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr, cyhoeddwyd Cronfa Gwobr Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr gan yr Athro Anwen Jones.
Rydym yn falch iawn o gadarnhau’r enillwyr eleni a’r 4 prosiect gwella y byddant yn eu harwain dros y flwyddyn i ddod:
Dr Elizabeth New, Hanes a Hanes Cymru: The Aber Medieval Physic Garden
Emma Sheppard, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: Developing a Sustainable Student Gear Hub
Dr Kate Woodward, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: Inclusivity and Accessibility in Assessment Design and Feedback Practices
Dr Scott Tompsett, Adran y Gwyddorau Bywyd: Pulling together – supporting teamwork assessment more effectively
Diolch i’r holl ymgeiswyr am gyflwyno cynigion ac i’r panel gwobrau.
Bydd cyfleoedd i glywed mwy am y prosiectau hyn yn y Gynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr y flwyddyn nesaf.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r dyddiadau ar gyfer y 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Flynyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cynhelir y gynhadledd rhwng dydd Mawrth 8 Medi a dydd Iau 10 Medi 2026.
Byddwn yn dechrau gweithio ar gynllunio a sefydlu themâu a siaradwyr gwadd ar gyfer y gynhadledd.
Bydd themâu’r gynhadledd, galwadau am gynigion, a siaradwyr allanol yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Cadwch lygad ar ein tudalennau gwe a’n blog i gael gwybodaeth ychwanegol.
Os oes pwnc penodol yr hoffech i’r gynhadledd ymdrin ag ef, cysylltwch â ni drwy eddysgu@aber.ac.uk.
Yn y 13fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol, cyhoeddodd yr Athro Anwen Jones gronfa o £10,000 i gydweithwyr anfon cynigion i gael uchafswm o £2,000 ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig â thema’r gynhadledd:
Meithrin cyswllt ac asesu tosturiol
Iechyd a lles mewn cyd-destun dysgu ac addysgu
Hygyrchedd a chynhwysiant (dysgu cynhwysol a dylunio addysgu)
Mae’r Brifysgol yn darparu hanner cyfanswm y cyllid, a’r gweddill yn dod oddi wrth Medr, rheoleiddiwr prifysgolion Cymru.
Rydym yn chwilio am ystod eang o brosiectau ar draws pob maes o’n cymuned a fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’n haddysg a phrofiad y myfyrwyr.
Croeso cynnes i aelodau newydd o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth
Ein nod yn y blogbost hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am dechnoleg wrth ddysgu ac addysgu, ein darpariaeth o ran hyfforddiant, sianeli cymorth, a digwyddiadau rydyn ni’n eu cynnal.
Rydyn ni’n ysgrifennu blog sy’n llawn o’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os oes arnoch angen cysylltu â ni, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio eddysgu@aber.ac.uk.
Cyflwyniad i Offer E-ddysgu
Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard
Mae gan bob modiwl ei gwrs pwrpasol ei hun yn Blackboard. Gall myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth am y modiwl, deunyddiau dysgu, a chanllawiau e-gyflwyno, yn ogystal â dolenni i restrau darllen a recordio darlithoedd.
Wrth addysgu wyneb yn wyneb, cofiwch y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo gan staff i fyfyrwyr) gan ddefnyddio Panopto, ein meddalwedd recordio darlithoedd.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr argymhellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol.
Ar gyfer hyn, rydym yn defnyddio ein hadnoddau e-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu nodwedd paru testun awtomatig. Rydym yn defnyddio Profion Blackboard i gynnal arholiadau ar-lein.
Adnodd Pleidleisio: Vevox:
Vevox yw adnodd pleidleisio Prifysgol Aberystwyth.
Gellir defnyddio’r adnodd pleidleisio mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu yn ogystal â chyfarfodydd i wneud y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn gydweithredol. Mae sawl ffordd wahanol o’i ddefnyddio.
Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu rydym yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi ar draws y meysydd canlynol:
Hanfodion E-ddysgu: wedi’i gynllunio ar gyfer cydweithwyr sy’n newydd i’r brifysgol, sy’n addysgu, neu a hoffai gael sesiwn loywi. Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu bodloni polisïau dysgu ac addysgu digidol y brifysgol.
E-ddysgu Uwch: wedi’i gynllunio i adeiladu ar sail y sgiliau a gafwyd yn ein cyfres hanfodion e-ddysgu, bydd cydweithwyr yn creu gweithgaredd neu asesiad sy’n unigryw i’w cyd-destunau dysgu ac addysgu.
Rhagoriaeth E-ddysgu: wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i gydweithwyr greu cyfleoedd dysgu ac addysgu eithriadol – yn aml rhai unigryw ac yn arwain y sector.
Ceir hyd i fanylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle i fynychu drwy’r dudalen Archebu Cwrs.
Mae’r rhain oll yn gyfleoedd gwych i gwrdd â phobl ar draws y brifysgol a thrafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu
Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae gennym nifer o siaradwyr allanol yn y gynhadledd eleni.
Prif Siaradwr:
Bydd Dr Neil Currant yn rhoi’r prif gyflwyniad ar Asesu Tosturiol. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gweithdy dosbarth meistr a bydd cydweithwyr yn gallu cymhwyso’r egwyddorion hyn i’w sefyllfaoedd eu hunain. Gweler ein blog am ragor o wybodaeth.
Siaradwyr Gwadd:
Mae gennym dri siaradwr allanol arall wedi’u trefnu. Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni isod:
Nawr, mae’r Athro John Traxler yn ymuno â ni ar gyfer trafodaeth banel arbennig ar DA Cynhyrchiol.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal brynhawn ddydd Mawrth 8 Gorffennaf dros Teams.
Mae John Traxler, FRSA, MBCS, AFIMA, MIET, yn Athro Dysgu Digidol. Mae ganddo Gadair UNESCO ym maes Dysgu Digidol Anffurfiol Arloesol mewn Cyd-destunau Difreintiedig a Datblygu, a Chadair y Gymanwlad Dysgu ar gyfer arloesi mewn addysg uwch. Ef yw Cyfarwyddwr Academaidd Labordy Avallain, yn arwain ymchwil ar agweddau moesegol ac addysgegol DA addysgol. Cyfeirir at ei bapurau tua 12,000 o weithiau ac mae Stanford yn parhau i’w restru ymhlith y 2% uchaf yn ei ddisgyblaeth. Mae wedi ysgrifennu dros 40 o bapurau a saith llyfr, ac mae wedi darparu gwasanaeth ymgynghori i asiantaethau rhyngwladol gan gynnwys UNESCO, yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (ITU), y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO), Asiantaeth yr Unol Daleithiau dros Ddatblygu Rhyngwladol (USAID), Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID), yr Undeb Ewropeaidd, Asiantaeth Cymorth a Gwaith y Cenhedloedd Unedig (UNRWA), y Cyngor Prydeinig ac UNICEF.
Roedd yn arloeswr ym maes dysgu symudol, gan ddechrau yn y 2000au gyda thechnoleg ac addysgeg ond, yn y 2010au, yn ymwneud ag effaith a chanlyniadau symudedd a chysylltedd ar gymdeithasau, diwylliannau a chymunedau, ac ar natur anfantais. Mae ganddo ddiddordeb yn yr effaith a gaiff DA ar anfantais yn fyd-eang ac o ran yr unigolyn a dad-drefedigaethu technolegau digidol dysgu ac addysg.
Rydym yn falch iawn y bydd cydweithwyr o Higher Education Partners (HEP) yn ymuno â ni ar ddiwrnod olaf ein cynhadledd.
Bydd Kate Lindsay o HEP yn cyflwyno ac yn arwain trafodaeth bord gron yn rhan o’r gynhadledd. Ar hyn o bryd mae Kate yn Uwch Is-lywydd Gwasanaethau Academaidd yn Higher Education Partners, yn gweithio gyda Phrifysgolion y DU i gynyddu eu capasiti a’u gallu i gynllunio profiadau dysgu ar-lein o ansawdd uchel.
Cyn hynny, bu Kate yn gweithio yn y Coleg Prifysgol Rheoli Ystadau fel Pennaeth Addysg Ddigidol, gan arwain y gwaith o drawsnewid rhaglenni cwbl ar-lein. Cyn hynny roedd Kate yn Bennaeth Addysg trwy gyfrwng Technoleg / Cyfarwyddwr Gwasanaethau Academaidd ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae gan Kate brofiad o weithio ar strategaeth addysgu, dysgu ac asesu, strategaeth addysg ddigidol, ymgynghoriaeth cynllunio dysgu, rhuglder digidol staff, cynllunio cwricwlwm, a rhaglenni arloesi TG.
Mae’r Brifysgol wedi partneru â HEP ar y prosiect dysgu ar-lein newydd fel rhan o’r ffrwd Buddsoddi i Dyfu.
Bydd cydweithwyr mewn adrannau academaidd sy’n gweithio gyda HEP ar gyfer y gyfres gyntaf o gyrsiau yn ymuno â ni hefyd.