14eg Gynhadledd Flynyddol Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr: Cyhoeddi’r Rhaglen

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r rhaglen ar gyfer ein 14eg Gynhadledd Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a gynhelir rhwng 8 a 10 Medi 2026.

Gallwch archebu eich lle ar-lein. 

Bydd dydd Mawrth 8 Medi yn cael ei gynnal ar-lein.  Cynhelir dydd Mercher 9 Medi a dydd Iau 10 Medi wyneb yn wyneb.

Ewch i’n tudalen we i weld rhaglen lawn y gynhadledd. 

Bydd ein prif anerchiad yn cael ei gyflwyno gan Dr Hardeep Kaur Basra sy’n Bennaeth Datblygu Addysgol ym Mhrifysgol De Montfort. 

Dr Kaur Basra sydd wedi arwain prosiect Dad-drefedigaethu Prifysgol De Montfort.  Bydd y prif anerchiad a’r gweithdy hwn yn adeiladu ar sail y gwaith rydym ni ein hunain wedi ei wneud ar y Siarter Cydraddoldeb Hil.  Bydd y sesiwn hon yn cael ei hategu gan gydweithwyr sy’n ymwneud â dad-drefedigaethu’r cwricwlwm yn Aberystwyth. 

Rydym yn croesawu’r Athro Ruth Healey o Brifysgol Caer sy’n arbenigwr ar fyfyrwyr fel cyd-grewyr.

Bydd UndebAber yn cyflwyno sesiwn ar sgiliau ochr yn ochr â Jim Dickinson o WONKHE. 

Bydd cydweithwyr o Blackboard yn ymuno â ni i dynnu sylw at fentrau hygyrchedd newydd Blackboard Ally a mapiau o nodweddion newydd.  Byddwn yn rhoi cyflwyniad, gyda’r Adran Gwyddorau Bywyd, ar ddefnyddio cyflawniadau i gofnodi sgiliau. 

Bydd y rhai sydd wedi derbyn y Gwobrau Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr cyntaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am eu 4 prosiect a byddwn yn lansio ail flwyddyn y fenter hon yn y gynhadledd.

Mae gweithdai a chyflwyniadau yn cael eu cynnal ar draws y 3 diwrnod – diolch i’n cydweithwyr a’n myfyrwyr sy’n cyfrannu. 

Gobeithiwn eich gweld yno ac edrychwn ymlaen at ddigwyddiad sy’n argoeli i fod yn anhygoel. 

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*