
Mae’r Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol wedi cynhyrchu Llyfrgell Promptiau DA.
Mae’r promptiau hyn yn rhoi rhai syniadau i chi ynghylch sut y gallech chi ddefnyddio DA Cynhyrchiol mewn ffordd foesegol a chyfrifol.
Wrth gwrs, nid oes disgwyliad eich bod chi’n defnyddio DA – gweler ein blogbost diweddar ar Beth os nad ydw i eisiau defnyddio DA?
Mae ein canllaw wedi’i rannu i’r adrannau canlynol:
- Cyngor ar gyfer dylunio promptiau gyda DA Cynhyrchiol
- Llyfrgell Promptiau i Fyfyrwyr a Llyfrgellwyr Pwnc
- Llyfrgell Promptiau i Staff
- Llyfrgell Promptiau i Ymchwilwyr
Os ydych chi’n defnyddio promptiau yn eich astudiaethau neu waith yr hoffech ei rannu, cysylltwch â ni ar llyfrgellwyr@aber.ac.uk.
Byddem wrth ein bodd yn ei gynnwys yn ein Llyfrgell Promptiau DA.
