Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Cynhadledd Fer nesaf.
Ar 20 Rhagfyr, byddwn yn cynnal digwyddiad ar-lein i drafod Cynaliadwyedd mewn Addysg Uwch.
Yn y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni, cawsom gwmni Dr Alex Hope o Brifysgol Northumbria, a fu’n siarad am sut y gallem gynnwys Cynaliadwyedd yn y Cwricwlwm. Gallwch wrando ar sgwrs Alex o’r gynhadledd ar-lein.
Os hoffech gyfrannu at y digwyddiad, ymatebwch i’r Galw am Gynigion erbyn dydd Gwener 18 Tachwedd 2022.
Gallai’r pynciau posibl gynnwys:
- Cynaliadwyedd yn y Cwricwlwm
- Asesu a Chynaliadwyedd
- Datblygu Myfyrwyr sy’n ymwybodol o Gynaliadwyedd
- Olrhain Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig
Mae’n bosibl archebu lle ar gyfer y digwyddiad undydd nawr – archebwch ar-lein.
Bydd cyflwynwyr allanol yn ymuno â ni yn y digwyddiad felly cofiwch gadw llygaid ar ein blog wrth i ni gyhoeddi ein rhaglen.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, rhowch wybod i ni: udda@aber.ac.uk.