Gan Joseph Wiggins
Unwaith eto mae Prifysgol Aberystwyth wedi rhedeg yr Arolwg Mewnwelediad Digidol Myfyrwyr, arolwg sy’n gofyn i ddysgwyr am effaith dysgu ar-lein a dysgu a weithredir â thechnoleg. Eleni cwblhaodd dros 600 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yr arolwg.
Metrigau Allweddol
Mae arolwg JISC wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf gyda rhywfaint o’r cwestiynau metrig allweddol wedi’u newid. Ar gyfer y cwestiynau sydd wedi aros yr un fath neu’n debyg iawn gallwn gymharu gyda chanlyniadau y llynedd.
Metrig Allweddol | 2020-2021 | 2021-2022 |
Cymorth i ddefnyddio eich dyfeisiau eich hun | 60% | 81% |
Mynediad at lwyfannau ar-lein oddi ar y safle | 67% | 74% |
Amgylchedd dysgu ar-lein | 40% | 83% |
Ansawdd y dysgu ar-lein ar y cwrs | 69% | 80% |
Yn y mwyafrif o’r metrigau allweddol hyn gwelwyd cynnydd cadarnhaol gyda Phrifysgol Aberystwyth wedi gwella ers y flwyddyn flaenorol. Caiff y duedd hon i wella ei hadlewyrchu drwy holl ganlyniadau’r arolwg.
Yn achos cwestiynau a newidiodd yn y metrigau allweddol nid oes modd cymharu nifer ohonynt oherwydd y newidiadau a wnaed. Er enghraifft y llynedd holwyd am ddeunyddiau dysgu ar-lein ‘Wedi’u cynllunio’n dda’. Newidiwyd hyn i ddeunyddiau dysgu ar-lein ‘Difyr a chymhellol’. Gyda thueddiadau dysgu ar-lein mae cwestiynau’n ymwneud â chymhelliant yn nodweddiadol yn fwy negyddol, gan wneud cwestiynau sy’n defnyddio’r ansoddeiriau hyn lawer yn fwy negyddol.
Cymhariaeth Meincnodi
Nid yw’r problemau gyda chymharu â chanlyniadau’r flwyddyn flaenorol yn broblem gan fod JISC yn rhedeg yr arolwg yn genedlaethol ar draws sefydliadau addysg uwch a phellach. Mae’r data ehangach yn rhoi data meincnodi addas i ni.
Cwestiwn | Ein data ni | Data’r DU |
Cymorth i ddefnyddio eich dyfeisiau eich hun | 62.56% | 57.62% |
Cymorth gyda mynediad at lwyfannau ar-lein/gwasanaethau oddi ar y safle | 74.40% | 69.26% |
Ansawdd yr amgylchedd dysgu ar-lein | 82.56% | 76.93% |
Deunyddiau dysgu ar-lein difyr a chymhellol | 44.33% | 42.84% |
Mae dysgu ar-lein yn gyfleus | 72.36% | 68.03% |
Ansawdd y dysgu ar-lein ar y cwrs | 80.39% | 74.32% |
Rhoi gwobr/cydnabyddiaeth am sgiliau digidol | 21.79% | 24.04% |
Cefnogaeth i ddysgu’n effeithiol ar-lein | 71.86% | 66.08% |
Gyda’r meincnodi hwn mae’r data’n dangos bod PA yn sgorio’n uwch na data cenedlaethol y DU ym mhob un o’r metrigau allweddol bron. Mae’r bwlch rhwng ein canlyniadau yn fwy gyda data PA 5% yn fwy mewn saith o’r cwestiynau.
Yr unig fetrig oedd yn gymharol is wrth edrych ar ddata meincnodi’r DU oedd un o’r metrigau newydd a ychwanegwyd eleni. Cydnabyddiaeth a gwobrwyo myfyrwyr am sgiliau digidol. Fodd bynnag mae hwn yn cyd-fynd â data cenedlaethol gyda chwymp o 2% yn unig o’r data cenedlaethol.
Mae’r metrig newydd hwn yn amlinellu problem sydd gan bob sefydliad addysg uwch a phellach o ran cydnabyddiaeth i fyfyrwyr. Gan fod angen i ddysgwyr fod â dealltwriaeth o systemau technolegol i wneud defnydd llawn o’u cyrsiau, byddai cydnabod y sgiliau hyn yn helpu iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Dyfeisiau
Bellach mae dyfeisiau’n chwarae rhan fwy mewn addysg ac yn yr arolwg, y ddwy ddyfais uchaf oedd ‘Gliniaduron’ a ‘Ffonau Clyfar’.
Gyda’r wybodaeth hon, fe’n hysbysir ar gyfer gweddill yr arolwg mai dyma’r prif ddyfeisiau y mae myfyrwyr yn eu defnyddio i ryngweithio gyda dysgu ar-lein. Oherwydd bod gan y cwestiwn flwch ticio ni allwn ganfod pa gyfuniadau o ddyfeisiau mae’r myfyrwyr yn eu defnyddio.
Offerynnau Digidol
Pan ofynnwyd i fyfyrwyr mewn cwestiynau testun rhydd pa offeryn neu gymwysiadau digidol oedd yn ‘wirioneddol ddefnyddiol’ ar gyfer dysgu ar-lein, roedd dau brif gymhwysiad.
- nododd 43.4% Blackboard
- nododd 9.4% Microsoft Teams
Gan fod y cwestiynau’n rhai testun rhydd eglurodd rhai myfyrwyr resymeg eu dewis. Yn achos Blackboard nododd y myfyrwyr: Gallu eu cyrchu o wahanol fathau o ddyfeisiau, canolog i’r profiad dysgu, wedi’u gosod a’u trefnu’n dda.
Mewn achosion o gyfeirio at drefnu modiwlau, nododd rhai myfyrwyr y problemau, gyda rhai modiwlau’n broblematig a heb fod yn addas i’r diben mewn rhai modiwlau.
Cwestiwn | Cytuno % |
Ydych chi’n cytuno ein bod ni’n eich cefnogi i ddefnyddio eich dyfais/dyfeisiau eich hun? | 62.56 |
Ydych chi’n cytuno ein bod ni’n eich cefnogi i gyrchu llwyfannau a gwasanaethau ar-lein oddi ar y safle? | 74.40 |
Ydych chi’n cytuno ein bod yn cyfathrebu’n effeithiol ar-lein? | 66.67 |
Ydych chi’n cytuno ein bod yn cynnig cyfle i chi fod yn rhan o benderfyniadau am lwyfannau dysgu? | 36.14 |
Ym mhob un o’r cwestiynau hyn cawsom ymatebion cadarnhaol gan fyfyrwyr o ran cyflwr presennol dysgu ar-lein, gyda rhai myfyrwyr yn gwneud pwynt eu bod yn teimlo nad oedd rhan iddynt mewn penderfyniadau am ddysgu ar-lein.
Pan ofynnwyd pa feysydd oedd myfyrwyr yn teimlo y dylai PA fuddsoddi ynddynt, roedd myfyrwyr yn gwyro at uwchraddio neu wella systemau presennol gydag ychydig iawn o fyfyrwyr yn gofyn am fwy o gefnogaeth ar-lein.
Gofynnwyd i fyfyrwyr am anawsterau o ran dysgu ar-lein. Cafwyd sbigyn mawr yn benodol gyda ‘Cyswllt Wi-Fi gwael’. Fodd bynnag nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddilyniant felly ni allwn wirio a yw’r Wi-Fi neu unrhyw rai o’r problemau yn deillio o’r Brifysgol neu broblemau goddrychol y dysgwyr.
Gofynnwyd i fyfyrwyr pa weithgaredd neu weithgareddau dysgu ar-lein oedden nhw wedi’u gwneud dros y bythefnos ddiwethaf. Yr opsiwn uchaf oedd cyrchu darlithoedd a dosbarthiadau wedi’u recordio. Caiff hyn ei amlygu yn y dadansoddiad testun rhydd, gan fod llawer o sylwadau’n nodi bod gallu ailedrych ar y deunydd a mynd drosto yn gymorth mawr wrth ddysgu.
Deunyddiau ar-lein a dysgu ar-lein
Gofynnwyd i fyfyrwyr i ba raddau roedden nhw’n cytuno â datganiadau am ddysgu ar-lein.
Datganiad | Cytuno% | Niwtral% | Anghytuno% |
Mae deunyddiau ar-lein yn ddifyr ac yn cymell | 44.30 | 40.50 | 15.10 |
Mae deunyddiau ar-lein ar y lefel a’r cyflymder cywir | 62.00 | 31.00 | 7.00 |
Mae deunyddiau ar-lein yn hygyrch | 77.10 | 20.20 | 2.70 |
Mae deunyddiau ar-lein ar gael yn amserol | 66.80 | 27.00 | 6.20 |
Mae dysgu ar-lein yn gyfleus | 72.40 | 16.30 | 11.30 |
Mae dysgu ar-lein yn gadael i chi gyfrannu yn y ffyrdd rydych chi’n eu dewis | 51.40 | 27.80 | 20.80 |
Mae dysgu ar-lein yn eich galluogi i wneud cynnydd da yn eich astudiaethau | 53.10 | 28.40 | 20.80 |
Mae dysgu ar-lein yn gwneud i chi deimlo’n rhan o gymuned o staff a myfyrwyr | 26.20 | 31.20 | 42.70 |
Mae dysgu ar-lein yn gadael i chi gael mynediad cyfartal | 58.30 | 32.80 | 9.00 |
Mewn sawl achos cafwyd ymateb cadarnhaol gan fyfyrwyr, a chytunwyd bod y deunyddiau dysgu ar gael, yn hygyrch ac ar y cyflymder cywir. Roedd rhaniad rhwng rhai myfyrwyr o ran ymgysylltu â’r deunyddiau gydag ymateb niwtral uchel.
O ran dysgu ar-lein unwaith eto fe welwn ganlyniad cadarnhaol gan fwyaf gyda’r unig wendid yn broblem a ymddangosodd y llynedd, sef problem teimlo’n rhan o gymuned y brifysgol wrth ddysgu ar-lein.
Sylwadau Testun Rhydd
Cafwyd dros 2,000 o sylwadau testun rhydd yn canolbwyntio ar agweddau allweddol o’r profiad dysgu ar-lein.
Roedd y cwestiwn cyntaf yn holi am agweddau cadarnhaol dysgu ar-lein
- 19.3% o fyfyrwyr hygyrchedd
- nododd 16.9% o fyfyrwyr reoli amser a chyflymder y gwaith
- nododd 9.2% o fyfyrwyr recordiadau darlithoedd
- ni nododd 1.4% o fyfyrwyr unrhyw reswm
Roedd yr ail gwestiwn yn holi am agweddau negyddol dysgu ar-lein
- nododd 20.6% o fyfyrwyr ddiffyg a/neu anhawster cymhelliant
- nododd 9.8% o fyfyrwyr bethau’n tynnu sylw/amgylcheddau dysgu anaddas
- nododd 2.6% o fyfyrwyr Blackboard
Gair Olaf
Yn gyffredinol, roedd gan fyfyrwyr ymateb cadarnhaol iawn i ddysgu ar-lein gyda gwelliant ers y llynedd, ac o’i gymharu â’r meincnod roedd data Prifysgol Aberystwyth yn uwch na data’r DU.
Pan ofynnwyd i ddysgwyr am ansawdd cyffredinol yr amgylchedd dysgu ar-lein sgoriodd 82.6% PA yn dda neu’n uwch.
Pan ofynnwyd i ddysgwyr am ansawdd cyffredinol y profiad dysgu ar-lein ar eu cwrs sgoriodd 80.4% PA yn dda neu’n uwch.