Hoffem eich gwahodd chi i sesiwn Fforwm yr Academi olaf y flwyddyn a fydd yn cymryd lle ar 24 Mai.
Bydd y sesiwn hon yn gyfle i ni edrych yn ôl ar raglen Fforwm yr Academi eleni, a gynlluniwyd yn benodol i gefnogi staff i addysgu mewn gwahanol ffyrdd mewn ymateb i’r pandemig, a myfyrio ar yr hyn y gallwn ei ddatblygu ymhellach.
Y pynciau y gwnaethom ymdrin â hwy eleni oedd:
- Creu Cymuned Dysgu ac Addysgu
- Creu Podlediadau yn Panopto
- Pam a sut i helpu myfyrwyr i fyfyrio ar eu dysgu
- Strategaethau Cymhelliant ar gyfer Ymgysylltu â Dysgu Ar-lein
- Sut alla i gynllunio gweithgareddau ar-lein a gweithgareddau wyneb yn wyneb?
- Sut alla i wneud fy addysgu’n fwy cynhwysol?
- Sut alla i ymgorffori lles yn y cwricwlwm?
- Paratoi myfyrwyr ar gyfer asesiadau
Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni.