Yn dilyn llwyddiant ein sesiynau galw heibio ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer Gweithgareddau Dysgu ac Addysgu, rydym wedi penderfynu cynnal y sesiynau hyn drwy gydol mis Hydref.
Bydd y rhain yn gyfle anffurfiol i chi siarad â’n Harbenigwyr Dysgu Ar-lein ac i fynd i’r afael ag unrhyw ymholiadau a allai fod wedi codi yn ystod wythnosau cyntaf y tymor. Mae croeso i chi ofyn i ni am gyngor ar unrhyw agweddau sy’n ymwneud â defnyddio MS Teams – o gyngor technegol i gyngor ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer myfyrwyr sydd ddim yn gallu ymuno â sesiynau wyneb yn wyneb.
*Noder y bydd sesiynau gyda seren (*) yn sesiynau dwyieithog, a bydd pob sesiwn heb seren yn cael ei rhedeg fel sesiynau cyfrwng Saesneg.
Bydd y sesiynau galw heibio hyn yn cael eu cynnal ar:
09.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *
13.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *
14.10.2020 (14:00-15:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams
16.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *
20.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *
21.10.2020 (14:00-15:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams
23.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *
27.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *
28.10.2020 (14:00-15:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams
30.10.2020 (10:00-11:00): Ymunwch â Chyfarfod MS Teams *