Sicrhau bod myfyrwyr yn ymroi i’r tasgau ar-lein nad ydynt yn fyw: Safbwynt y Ddamcaniaeth Hunanbenderfynu

Yn ôl arolwg o ddisgwyliadau myfyrwyr a gynhaliwyd yn 2020 gan Wonkhe yn gofyn am sefyllfaoedd lle y byddai cyfyngiad ar sesiynau dysgu wyneb-yn-wyneb, dywedodd 71 y cant y byddent yn ei chael hi’n anodd cadw eu brwdfrydedd a chynnal eu diddordeb mewn dysgu.

Suty gallwn sicrhau bod ein myfyrwyr yn ymroi i’r tasgau ar-lein nad ydynt yn fyw?

Mae’r ddamcaniaeth Hunanbenderfynu (SDT – self-determination theory) gan Deci a Ryan (1985, 2002) yn ddamcaniaeth am ysgogiad sydd, ar hyn o bryd, ymhlith y rhai mwyaf cynhwysfawr, a’r rhai a chanddynt y sylfaen empeiraidd gadarnaf. Mae ymchwil wedi dangos bod Damcaniaeth Hunanbenderfynu yn rhagfynegi amrywiaeth o ganlyniadau dysgu, gan gynnwys perfformiad, dyfalbarhad a bodlonrwydd â chyrsiau (Deci a Ryan, 1985). Gellir defnyddio strategaethau a seilir ar y Ddamcaniaeth hon mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd addysgol, gan gynnwys llwyfannau dysgu ar-lein (Kuan-Chung a Syh-Jong, 2010). Yn ôl y Ddamcaniaeth, pan fydd anghenion seicolegol sylfaenol myfyrwyr yn cael eu bodloni o ran ymreolaeth, cymhwysedd a pherthnasedd, maent yn fwy tebyg o fewnoli eu symbyliad i ddysgu ac o ymroi i’w hastudiaethau.

Image showing the three components of self-determination theory: competence, autonomy and relatedness, all contributing to motivation.

Ffynhonnell: https://ela-source.com/2019/09/25/self-determination-theory-in-education/

Ymreolaeth

“Rwy’n annog myfyrwyr i ymchwilio i syniad penodol er mwyn iddynt ddod â’r gwaith yn ôl gyda nhw i’r dosbarthiadau byw. Yn fy mhrofiad i, os yw’r myfyrwyr yn gyfrifol am ddod o hyd i ddeunydd sy’n llywio’r drafodaeth, teimlant fod ganddynt ran fawr ynddi.” (Forbes, 2020)

  1. Sicrhewch, i’r graddau mwyaf posib, fod y myfyrwyr yn teimlo bod ganddynt lais a dewis yn eu gweithgareddau academaidd.
  • Defnyddiwch holiadur neu fwrdd trafod i holi myfyrwyr ynghylch yr hyn maent yn gobeithio ei gael o’r modiwl.
  • Gwnewch y gweithgareddau nad ydynt yn fyw mor hyblyg â phosib, e.e. os gofynnwch iddynt ysgrifennu darn i flog, gadewch i’r myfyrwyr ddewis y pwnc.
  1. Rhowch resymeg ystyrlon i’r myfyrwyr i ddangos pam fydd gweithgaredd dysgu yn ddefnyddiol.
  • Rhowch grynodeb clir o ganlyniadau dysgu pob gweithgaredd (neu flociau o weithgareddau).

Cymhwysedd

“Dim ond gweithgareddau y mae myfyrwyr yn gallu eu deall a’u meistroli fyddan nhw’n ymddiddori ynddynt a gweld gwerth personol iddyn nhw.” (Kuan-Chung a Syh-Jong, 2010). t.).

  1. Cyflwynwch y gweithgareddau a fydd yn darparu’r her orau, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i roi prawf ar eu galluoedd academaidd ac i’w datblygu.
  • Adolygwch eich maes llafur: https://onlineteaching.open.suny.edu/page/reviewsyllabus
  • Defnyddiwch offer yn Blackboard fel ‘adaptive release’ sy’n rhyddhau deunydd fesul cam neu ‘statws adolygu’ i atgyfnerthu canfyddiad y myfyrwyr eu bod yn gwneud cynnydd. Peidiwch â gorlwytho myfyrwyr â swmp mawr o weithgareddau ar yr un pryd.
  1. Rhowch ddeunydd ac adborth addas i’r myfyrwyr i hyrwyddo eu cynnydd a’u teimlad bod eu dysgu’n effeithiol.
  • Cadwch strwythur eich modiwl yn syml, yn hawdd symud drwyddo, a chyson.
  • Esboniwch sut i symud drwy’ch modiwl ac awgrymwch amserlen iddynt ar gyfer cwblhau’r gweithgareddau.
  • Cyfathrebwch â’r myfyrwyr yn rheolaidd a byddwch ar gael iddynt i ateb eu cwestiynau.
  • Rhowch adborth defnyddiol iddynt.

Cyswllt

“Mae’r ymchwil wedi dangos bod un o’r heriau mwyaf i sefydliadau dysgu a thiwtoriaid wrth lunio a gweithredu cyrsiau ar-lein yw darparu ymdeimlad o gymuned, gydag adborth adeiladol a chyfathrebu mewn modd agored.” (Boiling, et al., 2011, t.)

  1. Meithrinwch ymdeimlad o berthyn.
  • Defnyddiwch offer yn Blackboard sy’n hwyluso gwaith cydweithredol, megis byrddau trafod neu wicis.
  • Defnyddiwch enghreifftiau a seilir ar sefyllfaoedd y byd go iawn.
  • Cysylltwch y sesiynau byw â’r gweithgareddau ar-lein nad ydynt yn cael eu cynnal yn fyw.
  1. Dangoswch eich bod yn hoffi, parchu a gwerthfawrogi’ch myfyrwyr.
  • Gwnewch fideo byr amdanoch chi’ch hunan fel person.
  • Byddwch yn aelod gweithredol o gymuned ar-lein eich modiwl; ymatebwch i sylwadau’ch myfyrwyr ar safleoedd trafod ac wicis.

Cyfeiriadau

Boling, E.C., Hough, M., Krinsky, H., Saleem, H., & Stevens, M. (2012). Cutting the distance in distance education: Perspectives on what promotes positive, online learning experiences. The Internet and Higher Education. 15(2), 118-126.

Forbes, L. K. (2020). Fostering Fun: Engaging Students with Asynchronous Online Learning. Wedi’i adalw o https://www.facultyfocus.com/articles/online-education/fostering-fun-engaging-students-with-asynchronous-online-learning/

Jackson, A. (2020). The expectation gap: students’ experience of learning during Covid-19 and their expectations for next year. Wedi’i adalw o https://wonkhe.com/blogs/the-expectation-gap-students-experience-of-learning-during-covid-19-and-their-expectations-for-next-year/

Kuan-Chung, C. & Syh-Jong, J. (2010). Motivation in online learning: Testing a model of self-determination theory. Computers in Human Behavior. 26(4), 741-752.

Niemiec, C.P. & Ryan, R. M. (2009). Autonomy, competence, and relatedness in the classroom. Applying self-determination theory to educational practice. Theory and Research in Education. 7(2), 133-144.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*