Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi y cynhelir y cyntaf o Gynadleddau Byr yr Academi eleni ar ddydd Llun 16 Rhagfyr 2019. Bydd y Gynhadledd Fer hon yn ymchwilio i natur fanteisiol a chymhleth gwaith grŵp, yn y dosbarth a’r tu allan iddo, ac fel dull o asesu.
Rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r Brifysgol i roi cyflwyniadau, arddangosiadau, gweithdai a thrafodaethau ar sut y maent yn mynd i’r afael ag addysgu grwpiau. Os hoffech gyflwyno cynnig i’r gynhadledd fer eleni, llenwch y ffurflen hon ar-lein cyn dydd Llun 18 Tachwedd.
Dyma rai o’r pynciau posibl:
- Dylunio a marcio asesiad grŵp (gan gynnwys marcio gan gyfoedion)
- Dulliau o fewnosod gwaith grŵp i’ch addysgu (addysgu mawr a bach)
- Defnyddio technoleg mewn gwaith grŵp
- Rheoli a chynorthwyo dynameg grŵp gwahanol
Gallwch gofrestru i ddod i’r Gynhadledd Fer drwy glicio ar y ddolen hon. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch udda@aber.ac.uk.