Yn ôl arolwg o ddisgwyliadau myfyrwyr a gynhaliwyd yn 2020 gan Wonkhe yn gofyn am sefyllfaoedd lle y byddai cyfyngiad ar sesiynau dysgu wyneb-yn-wyneb, dywedodd 71 y cant y byddent yn ei chael hi’n anodd cadw eu brwdfrydedd a chynnal eu diddordeb mewn dysgu.
Suty gallwn sicrhau bod ein myfyrwyr yn ymroi i’r tasgau ar-lein nad ydynt yn fyw?
Mae’r ddamcaniaeth Hunanbenderfynu (SDT – self-determination theory) gan Deci a Ryan (1985, 2002) yn ddamcaniaeth am ysgogiad sydd, ar hyn o bryd, ymhlith y rhai mwyaf cynhwysfawr, a’r rhai a chanddynt y sylfaen empeiraidd gadarnaf. Mae ymchwil wedi dangos bod Damcaniaeth Hunanbenderfynu yn rhagfynegi amrywiaeth o ganlyniadau dysgu, gan gynnwys perfformiad, dyfalbarhad a bodlonrwydd â chyrsiau (Deci a Ryan, 1985). Gellir defnyddio strategaethau a seilir ar y Ddamcaniaeth hon mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd addysgol, gan gynnwys llwyfannau dysgu ar-lein (Kuan-Chung a Syh-Jong, 2010). Yn ôl y Ddamcaniaeth, pan fydd anghenion seicolegol sylfaenol myfyrwyr yn cael eu bodloni o ran ymreolaeth, cymhwysedd a pherthnasedd, maent yn fwy tebyg o fewnoli eu symbyliad i ddysgu ac o ymroi i’w hastudiaethau.
Ffynhonnell: https://ela-source.com/2019/09/25/self-determination-theory-in-education/