Anogir staff addysgu i ddarparu mynediad i sesiynau addysgu ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu mynychu dosbarth wyneb yn wyneb. Mae’r canllawiau isod yn rhoi rhestr wirio gam wrth gam o’r holl bethau sydd angen eu gwneud er mwyn cynnal sesiwn effeithiol ar yr un pryd i fyfyrwyr sy’n bresennol yn y dosbarth a’r rhai hynny sy’n ymuno â’r dosbarth drwy MS Teams.
Cyn y sesiwn:
- Creu cyfarfod Teams ar gyfer y sesiwn gan ddefnyddio offeryn Cyfarfodydd Teams ar Blackboard.
- Rhoi gwybod i fyfyrwyr am y posibilrwydd o ymuno â’r sesiwn drwy Teams a darparu canllawiau addas iddynt ar sut i wneud hynny.
Sylwer: Bydd angen gwneud hi’n glir bod y ddarpariaeth ar-lein yn unig ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu mynychu’r sesiwn yn uniongyrchol yn y dosbarth, a bod disgwyl i bob myfyriwr sy’n iach, ac nad yw’n hunanynysu, i fynychu’r sesiynau wyneb yn wyneb. Bydd presenoldeb myfyrwyr yn ystod sesiynau wyneb yn wyneb yn cael ei fonitro’n ofalus.
- Adolygu’r canllawiau ystafell ddysgu, a gwylio’r clipiau fideo yn dangos sut mae’r ystafell ddysgu ar-lein yn gweithio:



Yn y blogbost hwn, byddwn yn edrych ar rai awgrymiadau ar gyfer monitro blwch sgwrs Teams pan fo pobl yn bresennol yn yr ystafell yn ogystal ag ar-lein.

