Ddydd Gwener 11 Mawrth, croesawodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu Dr Rob Nash, Darllenydd mewn Seicoleg o Brifysgol Aston. Mae Rob yn arbenigwr mewn adborth a chynhaliodd weithdy sy’n edrych yn benodol ar ffyrdd y gallwn wella a datblygu ymgysylltiad ag adborth.
Ein digwyddiad Siaradwr Gwadd nesaf yw Dr Mary Davies o Oxford Brookes a bydd cydweithwyr eraill yn ymuno â hi i drafod sut y gallwn ganfod twyll contract posibl yn ystod y broses farcio. Cynhelir y gweithdy hwn ar 20 Mai 2022, 12:30-13:30. Mae modd archebu ar gyfer y sesiwn nawr.
Bydd y gweithdy’n cael ei gynnal ar-lein trwy Teams ac anfonir dolen atoch cyn y digwyddiad.
Gweler isod ddisgrifiad o’r sesiwn a bywgraffiad y siaradwr.
Disgrifiad o’r sesiwn
Pam nad ydyn nhw’n gwrando ar fy adborth?
Mae’n well gan y rhan fwyaf o bobl berfformio’n dda yn hytrach na pherfformio’n wael, ac un o brif amcanion rhoi adborth i fyfyrwyr yw eu cynorthwyo i wella eu perfformiad. Pam, felly, mae ein myfyrwyr mor aml yn anwybyddu, yn gwrthwynebu ac yn gwrthod yr adborth a rown iddynt, a beth allwn ni ei wneud am hyn? Er mwyn rhoi’r gweithdy mewn cyd-destun, byddwn yn ystyried yn gyntaf i ba raddau mae’r problemau hyn yn unigryw i fyfyrwyr. Yn benodol, byddaf yn rhannu ambell ddarlun o feysydd amrywiol mewn seicoleg gymdeithasol sy’n dangos y cymhellion meidrol sydd wrth wraidd osgoi adborth. Gan gadw’r agweddau hyn mewn cof, awn ymlaen i ymchwilio i’r rhwystrau ymddangosiadol a gwirioneddol sy’n cyfyngu ar allu myfyrwyr i fynd I’r afael â’u hadborth yn effeithiol. Byddwn yn ystyried ffyrdd ymarferol y gallwn ni, fel addysgwyr, gyfrannu at oresgyn y rhwystrau hyn. Trwy gydol y trafodaethau, mae cynaliadwyedd yn allweddol: wrth i’r baich gwaith academaidd gynyddu fwyfwy, ni all ein hatebion bob amser gynnwys rhoi mwy o adborth, adborth mwy cyflym, ac adborth mwy cywrain. Byddaf yn rhannu fy mhrofiadau o geisio rhoi ar waith yr hyn rydw i wedi ei ddysgu wrth addysgu eraill dros gyfnod o bron i ddegawd yn gweithio ar y problemau hyn.
Bywgraffiad y siaradwr
Mae Dr Rob Nash yn Ddarllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Aston ac yno, ar y funud, mae’n Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Israddedigion yn yr Ysgol Seicoleg. Fel seicolegydd arbrofol, prif arbenigedd Rob yw’r cof dynol, yn arbennig y ffordd y mae atgofion yn magu rhagfarn, yn cael eu hystumio a’u ffugio. Er hyn, mae hefyd yn arwain a chyhoeddi ymchwil ar bwnc adborth mewn addysg, gyda’r pwyslais ar y ffordd mae pobl yn ymateb ac adweithio wrth gael adborth. Mae Rob yn Uwch Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch, yn Gyd-olygydd y cyfnodolyn a adolygir gan gymhreiriaid Legal & Criminological Psychology, ac mae’n un o awduron Developing Engagement with Feedback Toolkit (Higher Education Academy, 2016).
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni (lteu@aber.ac.uk).
Mae’n bleser gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gyhoeddi ein Siaradwr Gwadd nesaf.
Ar 16 Chwefror, 2pm-4pm, bydd Kevin L. Merry yn cynnal dosbarth meistr ar Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu a sut mae dull hwnnw o weithio wedi’i roi ar waith ym Mhrifysgol De Montfort.
Gallwch ddarllen mwy am Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ar wefan CAST.
Cynhelir y gweithdy ar-lein drwy Teams. Bydd dolen yn cael ei hanfon atoch cyn y digwyddiad.
Rhoddir disgrifiad o’r sesiwn a bywgraffiad y siaradwr isod.
Disgrifiad o’r Sesiwn
Yn 2015, mabwysiadodd Prifysgol De Montfort Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) fel ei dull o ddysgu, addysgu ac asesu i’r sefydliad cyfan, mewn ymateb i’r ffaith bod amrywiaeth eithriadaol ymhlith ei dysgwyr. Mae Dylunio Cyffredinol yn ddull sy’n ymgorffori amrywiaeth o opsiynau sy’n golygu ei fod yn hygyrch ac yn gynhwysol i grwpiau amrywiol o ddysgwyr sydd ag amrywiaeth eang o anghenion a dewisiadau dysgu.
Yn y dosbarth meistr hwn, bydd Dr Kevin Merry yn cyflwyno’r dull “Brechdan Caws” o gynorthwyo dysgwyr i feistrioli eu dysgu. Erbyn hyn, y ‘Brechdan Caws’ yw’r cyfrwng a ddefnyddir gan staff dysgu De Montfort i ddechrau ymgorffori Dylunio Cyffredinol yng ngwaith dylunio eu sesiynau addysgu, eu modiwlau a’u rhaglenni. Yn benodol, bydd Kevin yn darparu cyfres o weithgareddau ymarferol a fydd yn helpu’r cyfranogwyr i ddatgelu sylfeini addysgeg y Brechdan Caws. Ar ben hynny, bydd Kevin yn gwahodd y cyfranogwyr i ddechrau meddwl am rai o’r ystyriaethau allweddol y mae’n rhaid i athrawon eu gwneud wrth gynllunio a dylunio profiadau dysgu o safbwynt Dylunio Cyffredinol, a sut y gellir gwneud hyn gan ddefnyddio ymagwedd systemau’r dull CUTLAS.
Yn olaf, bydd Kevin yn gorffen y sesiwn drwy ymdrin â’r cwestiwn mawr hollol amlwg – sef asesiadau a ddyluniwyd yn gyffredinol. Trwy ddarparu arweiniad ac enghreifftiau ymarferol o gymhwyster De Montfort ei hun, sef y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch, bydd Kevin, gobeithio, yn chwalu rhai o’r mythau o amgylch Dylunio Cyffredinol ac asesu, gan helpu’r cyfranogwyr i fabwysiadu dulliau o asesu dysgu sy’n canolbwyntio’n fwy ar Ddylunio Cyffredinol.
Fel rhan o raglen DPP eleni, cawsom groesawu nifer o siaradwyr gwadd a’n cyflwynodd i safbwyntiau newydd ac arbenigedd unigryw ar amrywiol agweddau ar ddysgu ac addysgu. Er mwyn paratoi am y flwyddyn sydd i ddod, hoffem eich atgoffa o rai o’r pynciau a drafodwyd a’r adnoddau sydd ar gael i chi. Ein gobaith yw, trwy ddatblygu ar y sesiynau hyn a sesiynau eraill a drefnwyd i chi gan yr Uned eleni, y byddwch yn teimlo’n barod i addasu ac arloesi wrth addysgu.
Yng Nghynhadledd Fach gyntaf y flwyddyn, cawsom gyfle i wrando ar Dr Naomi Winstor oedd yn dadlau mai mater o ddyluniad, yn y bôn, yw cynyddu’r defnydd a wneir gan fyfyrwyr o adborth, ac y gellir trawsffurfio rhan y myfyrwyr mewn asesiad trwy roi cyfleoedd iddynt ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddefnyddio adborth yn effeithiol, a rhoi cyfleoedd iddynt ddefnyddio adborth,.
Ym mhrif araith y Gynhadledd Fach hon, dysgodd y gynulleidfa am elfennau allweddol seicoleg gadarnhaol yng nghyd-destun addysg uwch a strategaethau ymarferol er mwyn gwella eu lles eu hunain.
Edrychodd Kate Lister o Advance HE ar greu cymunedau digidol effeithiol a all gyfrannu at roi ymdeimlad o berthyn a phwrpas i fyfyrwyr, hyrwyddo cysylltiadau ystyrlon, a rhoi cefnogaeth heb ddibynnu ar y campws.
Cafodd Dr Kate Exley ei gwahodd i gyflwyno gweithdy ar y dasg o symud darlithoedd, a arferai gael eu cyflwyno mewn darlithfeydd ac ystafelloedd dosbarth mawr, er mwyn eu cyflwyno ar-lein.
Yn ystod ein Gŵyl Fach ar asesu, arweiniodd Dr Sally Brown a Dr Kay Sambell weithdy a gynlluniwyd i atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd yn ystod y newidiadau cymhleth a wnaed gan academyddion y llynedd, ac edrych yn fanwl ar y syniad o ddulliau asesu dilys.
Gwahoddwyd yr Athro Mick Healey a Dr Ruth Healey i gyflwyno gweithdy ynglŷn â phartneriaethau rhwng myfyrwyr ac aelodau staff, a chawsant eu holi ynghylch cael myfyrwyr i gymryd rhan yn y prosiectau a’r darpariaethau rydym yn eu cyflwyno ar hyn o bryd.
Cawsom gyfle hefyd i wrando ar Andy McGregor o JISC yn sôn am ddyfodol asesu. Sgwrs yn seiliedig ar bapur JISC: The future of assessment: five principles, five targets for 2025, sy’n gosod pum targed am y bum mlynedd nesaf er mwyn datblygu asesu i fod yn fwy dilys a hygyrch, a’i awtomeiddio’n briodol ac yn ddiogel.
Cyflwynodd Joe Probert ac Izzy Whitley o Vevox, sef meddalwedd pleidleisio’r brifysgol, sesiwn ar sut i ddefnyddio pleidleisio’n effeithiol er mwyn ennyn diddordeb dysgwyr.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly archebwch cyn gynted â phosibl.
Trosolwg o’r Sesiwn:
Mae nifer o gydweithwyr wedi bod yn addysgu’n gyfunol neu ar-lein ers nifer o flynyddoedd ond mae pandemig Covid wedi golygu ei bod yn rhaid i ni gyd ddarparu llawer o’n dysgu ac addysgu o bell. Mae hyn wedi golygu symud ein darlithoedd, a draddodwyd o’r blaen mewn darlithfeydd ac ystafelloedd dosbarth mawr, i lwyfannau ar-lein. Mae’r cyflymder y mae’r newid mawr hwn wedi digwydd yn ei hun wedi achosi heriau sylweddol i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae’r gweithdy cyfunol hwn yn bwriadu darparu cyfarwyddyd, enghreifftiau a fforwm i gydweithwyr rannu eu profiadau a’u syniadau ar gyfer gwella’r ddarpariaeth hon.
Cyflwynir y gweithdy mewn dwy ran:
Bydd cyfres o 3 fideo byr ar gael ar neu cyn 30 Mehefin 2021 a dylid eu gwylio’n annibynnol cyn ymuno â’r fforwm drafod – oddeutu 45 munud o astudio annibynnol.
Fforwm drafod a gynhelir ar Teams ar 7 Gorffennaf, ble bydd gan gyfranogwyr gyfle i ofyn cwestiynau, rhannu profiadau a thrafod y pwnc – 1 awr o hyd.
Erbyn diwedd y ddwy awr, dylech allu:
Ystyried diben y ddarlith ar-lein yn ystod pandemig Covid
Trafod amrywiaeth o faterion dylunio ymarferol wrth symud darlithoedd ar-lein
Rhannu profiadau a syniadau gyda chydweithwyr ‘yn yr un cwch’
Dechrau cynllunio eich camau nesaf a beth y gallwch ei roi ar waith o ganlyniad i’r gweithdy
Mae’r gweithdy hwn wedi’i fapio’n bennaf i A2, A5, K2, K3 ar yr UKPSF.
Yn rhan o’n Gŵyl Fach Asesu, estynnodd yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu wahoddiad i’r Athro Kay Sambell a’r Athro Sally Brown gynnal gweithdy i ystyried sut y gallai gwaith asesu esblygu oherwydd y newid yn ein harferion yn sgil y pandemig.
Yn rhan o’r gweithdy, recordiodd Sally a Kay y rhannau hyn: Gwella prosesau asesu a chynnig adborth ar ôl y pandemig: dulliau go iawn o wella sut mae myfyrwyr yn dysgu ac yn ymroi i’w hastudiaethau.
Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, gallwch weld y recordiadau drwy glicio yma:
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hail siaradwr allanol ar gyfer Cynhadledd Dysgu ac Addysgu eleni: Andy McGregor, Andy yw Cyfarwyddwr Technoleg Addysg ar gyfer JISC.
Bydd gweithdy Andy’n canolbwyntio ar ddyfodol asesu ac mae’n seiliedig ar bapur JISC: The future of assessment: five principles, five targets for 2025, sy’n gosod pum targed ar gyfer y pum mlynedd nesaf i ddatblygu asesu i fod yn fwy dilys, hygyrch, wedi’i awtomeiddio’n briodol ac yn ddiogel.
Mae Andy yn gyfrifol am reoli portffolio JISC o brosiectau datblygu ac ymchwil sy’n datblygu gwasanaethau newydd i helpu prifysgolion a cholegau i wella addysg ac ymchwil.
Yn ogystal ag Andy, y siaradwr gwadd eleni yw Dr Chrissi Nerantzi o Brifysgol Fetropolitan Manceinion.
Cynhelir y nawfed gynhadledd dysgu ac addysgu flynyddol ar-lein rhwng dydd Mercher 30 Mehefin a dydd Gwener 2 Gorffennaf. Gallwch archebu lle drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon.