Yn ddiweddar, traddododd yr Athro Rafe Hallett o Brifysgol Keele brif araith a oedd yn ymchwilio i’r cysyniad o fyfyrwyr fel cynhyrchwyr digidol.
Roedd ei gyflwyniad yn annog addysgwyr i ddarganfod pa ddulliau y mae myfyrwyr eisoes yn eu defnyddio i gyd-greu ac sy’n eu galluogi i gydweithredu wrth gynhyrchu gwybodaeth. Yn ôl yr Athro Hallett, mae’r dull saernïol hwn o weithio yn arwain at brofiad mwy ystyrlon. Mae’r myfyrwyr yn creu allbynnau sydd ar gael yn allanol i systemau prifysgol a gellir eu dangos a’u rhannu fel eu hallbynnau ‘nhw’. Mae hyn yn cyfrannu at yr ymdeimlad bod eu gwaith ‘o bwys’, ac mae’n hollol wahanol i gyflwyno asesiad gan ddilyn y diwyg arferol, h.y. asesiad sy’n cael ei ddarllen, ei farcio a’i archifo.
Mae galluogi myfyrwyr i fod yn gynhyrchwyr digidol yn golygu bod angen iddynt adeiladu ar y sgiliau sydd ganddynt eisoes ac i ddatblygu critigolrwydd digidol er mwyn dewis yr adnoddau digidol cywir ar gyfer yr hyn y maent yn ceisio’i wneud. Mae’n un ffordd o hwyluso asesiadau mwy dilys, sy’n gysyniad a drafodwyd gan Kay Sambell a Sally Brown yn ein gŵyl fach yn ddiweddar.
Yn ddiweddar rydym wedi prynu meddalwedd pleidleisio’r Brifysgol – Vevox a all fod yn ychwanegiad ardderchog i’r offer yr ydych yn eu defnyddio eisoes. Yn ystod y Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol (archebu lle ar y gynhadledd)) bydd ein rheolwr cyfrif Vevox, Joe Probert yn egluro sut y gellir defnyddio Vevox ar gyfer gweithgareddau dysgu. Ddydd Mercher, byddwn hefyd yn cael cyfle i ymuno â gweminar ar sut i ddefnyddio Vevox yn eich ystafell ddosbarth hybrid. Os hoffech weld sut mae Vevox wedi cael ei ddefnyddio gan sefydliadau eraill, gallwch hefyd edrych ar yr astudiaethau achos hyn.
Offer arall yr ydym wedi ysgrifennu amdano o’r blaen yw Padlet sy’n rhad ac am ddim ac yn cael ei ddefnyddio’n eang ar draws y sector. Edrychwch ar ein blogbost blaenorol sy’n cynnwys rhai syniadau ar sut y gallai gael ei ddefnyddio i addysgu. Mae yna hefyd recordiad o gyflwyniad ar Padlet gan Danielle Kirk a gyflwynwyd yn ystod y 7fed Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol.
Yn seiliedig ar ddarganfyddiadau’r Arolwg Mewnwelediad Digidol rydym hefyd wedi cyhoeddi rhestr o offer digidol ac apiau defnyddiol ar gyfer dysgu. Efallai yr hoffech argymell y rhain i’ch myfyrwyr drwy rannu’r neges hon â hwy neu eu cyfeirio at offer penodol a fydd yn eu helpu gyda’r hyn y maent ei angen.
Os ydych chi’n penderfynu defnyddio unrhyw feddalwedd trydydd parti ar gyfer dysgu ac addysgu, mae yna rai ystyriaethau i’w gwneud i’ch cadw chi a’ch myfyrwyr yn ddiogel ar-lein.
Yn arolwg Mewnwelediad Digidol 2018/19 gwnaethom ofyn i fyfyrwyr roi enghreifftiau o’r offer digidol sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer dysgu yn eu barn hwy. Rydym am rannu rhai o’r enghreifftiau ar ein blog.
Endnote – meddalwedd rheoli cyfeirnodau (am ddim i’w lawrlwytho i staff a myfyrwyr PA)
Mendeley – meddalwedd rheoli cyfeirnodau a rhwydwaith ymchwilwyr
Trefnu a monitro eich cynnydd
ApAber– gwirio eich amserlen, gweld pa gyfrifiaduron sydd ar gael ar y campws, gweld balans eich Cerdyn Aber, edrych ar amserlenni bysiau lleol a llawer mwy
GradeHub – offer i olrhain eich cynnydd a rhagfynegi pa farciau sydd eu hangen arnoch i gael eich gradd
Asana – rhaglen ar y we a dyfeisiau symudol a luniwyd i helpu timau i drefnu, olrhain a rheoli eu gwaith
MyStudyLife – yn anffodus mae’r gwasanaeth hwn yn dod i ben ond rhowch gynnig ar myHomework (ap) yn lle hynny, bydd yn eich helpu i drefnu eich llwyth gwaith
Study Blue – cardiau fflach ar-lein, cymorth gyda gwaith cartref a datrysiadau gwerslyfrau
Quora – llwyfan i ofyn cwestiynau a chysylltu â phobl sy’n cyfrannu mewnwelediad unigryw ac atebion o safon
Memrise – llwyfan iaith sy’n defnyddio cardiau fflach fel cymhorthion cofio, ond sydd hefyd yn cynnig cynnwys a grëwyd gan ddefnyddwyr ar amrywiaeth eang o bynciau eraill
GeoGebra – rhaglen geometreg, algebra, ystadegau a chalcwlws ryngweithiol
KhanAcademy – cyrsiau, gwersi ac ymarferion ar-lein rhad ac am ddim
Tomato Timers – Mae ‘Techneg Pomodoro’ yn ddull o reoli amser, mae’r dechneg yn defnyddio amserydd i dorri’r gwaith yn gyfnodau, fel rheol 25 munud o hyd, wedi’u gwahanu gan egwyliau byr
Mae cael mynediad i’r data meincnodi yn rhoi cyfle i ni weld yn union pa mor dda yr ydym yn ei wneud a phenderfynu pa faterion sy’n benodol i Aberystwyth a pha rai sy’n gyffredin i’r holl sefydliadau Addysg Uwch yn ein sector.
Yn gyffredinol, gwnaeth cryn dipyn yn fwy o fyfyrwyr yn PA nodi bod darpariaeth ddigidol y brifysgol hon (meddalwedd, caledwedd, amgylchedd dysgu) yn ‘Ardderchog’.
Mewn nifer o agweddau, roedd cyfraddau darpariaethau digidol PA yn uwch na’r data meincnodi, fodd bynnag, o ran gweithgareddau digidol rhyngweithiol, megis defnyddio gemau addysgol neu efelychiadau, meddalwedd pleidleisio neu weithio ar-lein gydag eraill, roedd y canlyniadau’n is.
Yn y neges nesaf yn y gyfres ‘Mewnwelediad Digidol’ byddwn yn cyflwyno enghreifftiau o apiau ac offer dysgu defnyddiol a roddwyd gan fyfyrwyr.
Gwnaeth cryn dipyn y fwy o fyfyrwyr yn PA ymateb i ddweud bod ganddynt fynediad i ‘ddarlithoedd wedi’u recordio’ yn y brifysgol pryd bynnag yr oeddent eu hangen.
Mae cryn dipyn yn fwy o fyfyrwyr yn PA yn cytuno bod y brifysgol yn eu cynorthwyo i gadw’n ddiogel ar-lein.
Mae cryn dipyn yn fwy o fyfyrwyr yn PA yn cytuno eu bod yn gallu dod o hyd i bethau’n hawdd ar yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir.
Mae cryn dipyn yn fwy o fyfyrwyr yn PA yn cytuno bod asesiadau ar-lein yn cael eu cyflwyno a’u rheoli’n dda.
Doedd cryn dipyn yn fwy o fyfyrwyr yn PA byth yn gweithio ar-lein gydag eraill yn rhan o’u cwrs.
Doedd cryn dipyn yn fwy o fyfyrwyr yn PA byth yn defnyddio dyfais bleidleisio na chwisiau ar-lein i roi atebion yn y dosbarth yn rhan o’u cwrs.
[Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bûm yn dilyn cwrs FutureLearn o’r enw Using Technology in Evidence-Based Teaching and Learning sy’n cael ei redeg gan y Coleg Addysgu Siartedig ac yn canolbwyntio ar ddefnyddio technolegau dysgu mewn addysg gynradd ac uwchradd. Er bod y cyd-destun yn wahanol i addysg uwch, bu’n gwrs diddorol a goleuedig iawn. Bu’n ddefnyddiol i ganfod mwy am y system addysg y daw ein myfyrwyr ohoni, ac mae’n dda hefyd i ddysgu mwy am wahanol offerynnau a thechnolegau na ddefnyddiwn i’r un graddau efallai mewn prifysgolion.
Un o’r offerynnau y mae athrawon mewn ysgolion yn ei ddefnyddio’n aml yw Padlet. Gwyddom fod Padlet yn cael ei ddefnyddio mewn prifysgolion ac efallai bod defnyddwyr Padlet ymhlith ein darllenwyr. Ond, nid oedd yn rhywbeth yr oeddwn i wedi’i ddefnyddio ryw lawer, felly penderfynais gael golwg arno.
Mae Padlet (https://padlet.com/) yn ei ddisgrifio ei hun yn ‘feddalwedd cynhyrchiant’ sy’n gwneud cydweithredu yn haws. Fe’i cynlluniwyd o amgylch y syniad o wal neu fwrdd y gallwch chi a defnyddwyr eraill ychwanegu cerdiau neu nodiadau ato. Gall y cerdiau gynnwys testun, lluniau, dolenni cyswllt, fideos a ffeiliau.
I greu bwrdd Padlet, bydd yn rhaid ichi greu cyfrif – gallwch gael cyfrif am ddim sy’n darparu 3 bwrdd a hawl i uwchlwytho 10Mb. Byddwch hefyd yn gweld hysbysebion yn y fersiwn hwn. Gallwch gofrestru drwy Google neu greu eich cyfrif eich hun. Gall myfyrwyr gyfrannu at y byrddau heb greu cyfrif, ond os byddant yn dymuno gwybod pwy sydd wedi postio beth, bydd yn rhaid iddynt greu cyfrif. Gall byrddau fod yn breifat neu’n gyhoeddus, a gallwch reoli pwy i’w gwahodd i bostio i’r byrddau. (Mynnwch olwg ar ein post ar feddalwedd pleidleisio ac ystyriaethau preifatrwydd).
Ceir dau ddefnydd posibl amlwg ar gyfer Padlet – gweithgareddau curadu neu ymchwilio yw’r cyntaf, a chasglu adborth i fyfyrwyr yw’r ail. Gallwch ddod o hyd i lawer o astudiaethau achos o ysgolion, colegau a phrifysgolion yn defnyddio Padlet i alluogi myfyrwyr i gasglu adnoddau a deunyddiau ar y cyd, e.e. ar gyfer cyflwyniadau a phrosiectau grŵp neu ar gyfer paratoi seminarau. Mae gwaith israddedigion Blwyddyn Sylfaen Seicoleg Prifysgol Sussex yn enghraifft hyfryd (https://journals.gre.ac.uk/index.php/compass/article/view/714)
Mae’n bosib y bydd llawer ohonom hefyd wedi gweld Padlet yn cael ei ddefnyddio i hwyluso rhyngweithio mewn darlithoedd neu gyflwyniadau. Gall myfyrwyr bostio eu cwestiynau ar wal Padlet yn ystod darlith i alluogi’r darlithydd i weld sylwadau a chwestiynau. O’i ddefnyddio yn y modd hwn, mae gan Padlet rai o’r un offerynnau â mathau eraill o feddalwedd pleidleisio. Er nad yw’n galluogi cyfranogwyr i ateb cwestiynau, mae’n ffordd wych o gasglu ymatebion ysgrifenedig y gellir eu defnyddio’n ddiweddarach, neu eu harchifo i gyfeirio atynt yn y dyfodol.
Er bod unigolion sy’n defnyddio rhithrealiti yn ymwybodol o’r ffaith nad yw eu profiadau’n rhai real, mae’r ymatebion corfforol a seicolegol a ysgogir ganddo yn debyg i’r rhai a brofir mewn sefyllfaoedd gwirioneddol.
Mae defnyddio triniaethau iechyd meddwl rhithrealiti yn agor posibiliadau o weithio trwy’r ymatebion i ysgogiadau problematig heb orfod eu hwynebu mewn bywyd go iawn. Mae i hyn fudd amlwg, ymarferol; er enghraifft, mae creu efelychiad o hedfan ar gyfer unigolyn sy’n brwydro â ffobia ynglŷn â hedfan yn ateb llawer haws na threfnu taith awyren i’r unigolyn.
Ar ben hyn, gall y therapydd weithio nid yn unig ar sail disgrifiad y claf ond gall wylio’u hymatebion. Gall y therapydd a’r claf ill dau reoli’r ysgogiadau a gall hynny wneud y driniaeth yn ddiogelach yn gorfforol a seicolegol.
‘Mae gan rithrealiti’r gallu i drawsnewid y ffordd o asesu, deall a thrin problemau iechyd meddwl’ (Freeman, et al., t. 2392). Cafodd ei ddefnyddio ar gyfer asesu a thrin ffobiâu, pryder, PTSD, caethiwed, paranoia, anhwylderau bwyta ac awtistiaeth. Er enghraifft, mae ap Rhithrealiti, a grëwyd yn Ysgol Gwaith Cymdeithasol Tulane yn rhwystro cleifion caeth i gyffuriau a diod rhag llithro’n ôl ‘trwy ddefnyddio sgiliau hunan-reolaeth ac ymwybyddiaeth mewn efelychiadau realistig lle mae cyffuriau a diod wrth law’ (Leatham, 2018, para.13).
Yn ddiweddar, mae Gareth Norris a Rachel Rahman o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth ar y cyd â chydweithwyr o’r Adran Cyfrifiadureg wedi cynnal prosiect ymchwil arbrofol sy’n defnyddio rhithrealiti trwy edrych ar ei bosibiliadau ar gyfer hel atgofion mewn oedolion hŷn.
Llwyddodd y Grŵp E-ddysgu i gaffael setiau pen rhithrealiti a chamera y gall staff eu defnyddio wrth addysgu ac mewn ymchwil. Gallwch greu amgylcheddau dysgu ymdrwytho neu ddefnyddio deunydd rhithrealiti sydd eisoes ar gael. Archebwch y setiau rhithrealiti a’r camera o stoc y llyfrgell.
Freeman, D., Reeve. S., Robinson, A., Ehlers, A., Clark, D., Spanlang, B. & Slater, M. (2017). Virtual reality in the assessment, understanding, and treatment of mental health disorders. Psychological Medicine, 47 (2393-2400).
Ddydd Mercher 10 Ebrill, bydd y Grŵp E-ddysgu’n cynnal Cynhadledd Fer yr Academi eleni. Mae’r Gynhadledd Fer yn fersiwn llai o’n Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol sy’n ein galluogi i gasglu ynghyd gyfres o gyflwyniadau a gweithdai sy’n ymwneud â phwnc dysgu ac addysgu penodol. Thema’r Gynhadledd Fer eleni yw Addysg Gynhwysol.
Mae’n bleser gennym gadarnhau ein rhaglen ar gyfer y prynhawn:
Debra Croft (CWPSI) – Making ‘Core Skills’ Exciting and Accessible
Bydd y cyflwyniadau hyn yn cynnig cyfres o awgrymiadau ymarferol a fydd yn helpu i wneud eich dogfennau a’ch amgylcheddau dysgu yn fwy cynhwysol. Yn ogystal â hyn, byddwn yn edrych ar sut y gellid defnyddio’r strategaethau hyn yn ymarferol ac o fewn cyd-destun addysgu.
Gobeithio y bydd modd i chi ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael yn y Gynhadledd Fer felly archebwch le drwy’r dudalen archebu hon.
Yn sgil y neges ar ddefnyddio meddalwedd pleidleisio ar gyfer addysgu cawsom ymholiad ynghylch y posibilrwydd o ddefnyddio meddalwedd pleidleisio megis PollEverywhere neu Mentimeter ar gyfer modiwlau Dysgwyr o Bell.
Isod ceir canlyniadau ein profi a’n hymchwil.
Mentimeter
Gan fod gan bob cyflwyniad god gwahanol ar gyfer cael mynediad i’r pôl, gallwch bleidleisio hyd yn oed pan nad yw’r cyflwyniad yn cael ei arddangos. Ond, os nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer pleidleisio byw, dylai pob cyflwyniad gynnwys un sleid yn unig. Os yw’r cyflwyniad yn cynnwys dau neu fwy o sleidiau (ac nad yw wedi’i arddangos gan awdur y pôl) dim ond i’r sleid gyntaf y caiff y cyfranogwyr fynediad iddi.
PollEverywhere
Mae gan PollEverywhere swyddogaeth sy’n caniatáu i chi grwpio cwestiynau/polau a’u troi’n arolwg y gellir ei rannu a’i lenwi gan gyfranogwyr yn eu hamser eu hunain. Ond bydd yn rhaid i chi ‘ysgogi’r arolwg a dim ond un cyflwyniad y gallwch ei ysgogi ar y tro (https://www.polleverywhere.com/faq cwestiwn: Can I combine multiple questions (polls) into a survey?)
Mae offer arolygon ar-lein eraill ar gael megis Google Forms neu Wufoo. Gellir eu defnyddio gan nifer anghyfyngedig o gyfranogwyr (ond nid yw hyn yn wir am PollEverywhere, y cyfyngiad gyda’r cynllun rhad ac am ddim yw 25 o ymatebwyr). Fodd bynnag, nid oes gan yr offer hyn gymaint o amrywiaeth o gwestiynau (yn arbennig o’i gymharu â PollEverywhere) ac nid ydynt mor ddeniadol eu golwg.
Gellir rhannu’r ddolen i unrhyw un o’r arolygon ar-lein gyda myfyrwyr drwy e-bost, cyhoeddiad neu ddolen yn yr ardal gynnwys ar Blackboard (yn achos PollEverywhere dim ond un arolwg ar y tro y cewch ei rannu, yr un sydd wedi’i ‘ysgogi’).
Rhannu canlyniadau â myfyrwyr:
Nid yw’r offer adrodd am ganlyniadau yn Mentimeter a PollEverywhere ar gael o fewn y cynllun rhad ac am ddim. Gallech rannu’r canlyniadau â’r myfyrwyr drwy gymryd sgrinluniau o’r graffiau gyda’r ymatebion a’u cyflwyno fel delwedd, eitem neu un o’r sleidiau mewn cyflwyniad PowerPoint ar Blackboard.
Yn Google Forms a Wufoo gallwch lawrlwytho’r canlyniadau i Excel. Ond, os hoffech gyflwyno’r canlyniadau mewn modd hygyrch a gweledol, byddai’n well defnyddio’r dull sgrinlun a ddisgrifir uchod. Pan fyddwch yn defnyddio profion neu arolygon Blackboard, gallwch weld yr ystadegau drwy’r Ganolfan Raddau ac naill ai eu lawrlwytho i Excel neu’u cadw fel dogfen pdf.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, mae croeso i chi eu rhannu â ni.
Mae cynnal arolwg barn neu bleidlais yn y dosbarth yn ffordd wych i sicrhau bod myfyrwyr yn cymryd rhan ac yn cydadweithio’n fwy yn yr ystafell ddosbarth (gweler er enghraifft: Shaw et al, 2015; Boyle a Nicol 2003; Habel a Stubbs, 2014; Stratling, 2015). Fe’i defnyddir yn helaeth mewn addysg bellach ac uwch, ac mae nifer o staff Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio arolygon barn yn y dosbarth yn gyson. Yn ogystal â’r setiau llaw Qwizdom sydd ar gael yn offer i’w benthyca mae mwy a mwy yn defnyddio gwasanaethau ar-lein fel Poll Everywhere, Socrative a Mentimeter (ymysg eraill). Mae’r gwasanaethau hyn yn fodd i’r myfyrwyr ddefnyddio’u dyfeisiau eu hunain (megis ffonau symudol, tabledi a gliniaduron) i gymryd rhan mewn arolygon barn, rhoi adborth a gofyn cwestiynau.
Gall y Grŵp E-ddysgu roi ystod eang o wybodaeth a chymorth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn defnyddio arolygon barn wrth addysgu. Mae hyn yn amrywio o gyngor ar sut i gynnwys arolygon barn yn llwyddiannus yn eich arferion addysgu, i gymorth ymarferol ar greu a defnyddio arolygon yn y dosbarth.
Ar hyn o bryd, nid yw Prifysgol Aberystwyth yn cynnig dull pleidleisio ar-lein a gefnogir yn ganolog ar gyfer dyfeisiau symudol. Er hynny, mae ystod eang o wasanaethau ar gael, llawer ohonynt â fersiynau di-dâl neu fersiynau prawf. Bwriad y blog hwn yw eich helpu i asesu pa ddull sy’n fwyaf addas i chi a’ch myfyrwyr.
Beth hoffech chi ei wneud? Fel ym mhob technoleg ddysg sy’n cael ei rhoi ar waith, y cwestiwn cyntaf y mae angen ichi ei ofyn yw ‘Beth hoffwn i weld y myfyrwyr yn ei wneud?’ Bydd y gwasanaeth a ddewiswch yn dibynnu ar yr ateb. Er enghraifft, os ydych chi am i’ch myfyrwyr gyflwyno cwestiynau, neu roi adborth ysgrifenedig, chwiliwch am wasanaeth sy’n cynnig mwy na chwestiynau amlddewis
Faint o fyfyrwyr fydd yn y dosbarth? Mae llawer o’r fersiynau di-dâl neu’r fersiynau cyfyngedig o feddalwedd sy’n codi tâl yn gosod cyfyngiad ar nifer y myfyrwyr sy’n cael eu defnyddio. Edrychwch yn ofalus ar fanylion yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y fersiwn di-dâl.
Rydym yn argymell yn gryf hefyd y dylech edrych ar BolisiPreifatrwydd y gwasanaeth, er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod pa ddata personol amdanoch chi a’ch myfyrwyr fydd yn cael ei gasglu (edrychwch ar ein blogiadau ar y mater hwn).
Pan fyddwch chi wedi penderfynu pa wasanaeth i’w ddefnyddio, dyma gynghorion ar ddefnyddio pleidleisio’n llwyddiannus yn y dosbarth.
Meddwl am eich cwestiwn/cwestiynau. Mae llawer o adnoddau ar gael ynghylch llunio cwestiynau da, yn enwedig cwestiynau aml-ddewis. Peidiwch â theimlo bod rhaid ichi ofyn cwestiwn sydd ag ateb cywir neu anghywir. Weithiau gall cwestiwn sy’n ennyn trafodaeth neu sy’n dangos ehangder y safbwyntiau ar bwnc yn fuddiol.
Defnyddio arolwg barn i ddechrau trafodaeth. Mae amryw o ffyrdd ichi ddefnyddio arolygon barn a thrafodaethau grŵp gyda’i gilydd – dwy ffordd boblogaidd yw Cyfarwyddyd Cymheiriaid (yn enwedig gwaith Eric Mazur) neu Gyfarwyddyd Dosbarth Cyfan (Dufresne, 1996)
Ymarfer. Gofalwch ymarfer cyn y sesiwn fel eich bod yn gyffyrddus ac yn gyfarwydd â defnyddio’r cwestiynau a dangos y canlyniadau. Gallwch wneud hyn o’ch swyddfa drwy ddefnyddio dyfais symudol megis tabled neu ffôn symudol.
Neilltuo amser yn y ddarlith. Os ydych yn defnyddio gweithgareddau arolygon barn yn y dosbarth, gofalwch adael digon o amser i’r myfyrwyr gael gafael ar eu dyfeisiau, meddwl am yr atebion ac ymateb. Efallai y bydd angen amser hefyd i gywiro unrhyw gamddealltwriaeth neu esbonio’r atebion.
Mae yna ystod eang o gyfleoedd i ddefnyddio arolygon barn – o gasglu gwybodaeth am faint mae’r myfyrwyr yn ei wybod ar ddechrau modiwl i ddarganfod pa bynciau y mae angen ichi ymdrin â nhw mewn sesiwn adolygu. Gallwch hefyd gasglu barn, cael adborth ar sut mae’r ddarlith yn mynd, neu gasglu cwestiynau dienw. Os ydych chi’n defnyddio arolygon barn wrth addysgu, cysylltwch â ni i sôn mwy – gallen ni hyd yn oed gynnwys eich gwaith ar y blog!
Os ydych chi eisoes wedi darllen Rhan Un o’r gyfres hon, byddwch yn gwybod mor ddefnyddiol yw gwasanaethau pleidleisio ar-lein at ymgysylltu’n uniongyrchol â’r myfyrwyr yn y dosbarth (os nad ydych – cymerwch olwg).
Yn ogystal â dewis offeryn sy’n addas at eich gwaith addysgu a dysgu chi, fe all fod angen hefyd ichi edrych ar Bolisi Preifatrwydd y gwasanaeth sydd o ddiddordeb ichi. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall:
pa ddata personol y mae’r cwmni dan sylw yn ei gasglu amdanoch;
pa ddata personol y gall fod rhaid i’ch myfyrwyr ei roi;
gwybodaeth am sut mae’ch cyflwyniadau’n cael eu storio;
sut a ble mae’ch data’n cael ei gadw.
Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau’n sicrhau bod eu Polisi Preifatrwydd yn eithaf hawdd dod o hyd iddo (ar y rhan fwyaf o wefannau roedd dolen ar waelod y tudalen hafan o dan y pennawd Preifatrwydd).
Dyma’n prif gynghorion ni ar ddefnyddio arolygon barn ar-lein:
Gwelsom fod Telerau ac Amodau’r rhan fwyaf o wasanaethau yn eithaf byr a hawdd i’w deall – roedd rhai hyd yn oed yn darparu crynodeb byr o’r prif bwyntiau.
Gan amlaf, nid yw’n ofynnol i’r myfyrwyr greu cyfrifon neu gofrestru ar gyfer gwasanaeth i gymryd rhan mewn gweithgaredd pleidleisio. Mae hyn yn golygu mai’r unig wybodaeth sy’n cael ei chasglu am y mwyafrif o’r myfyrwyr yw manylion y porwr neu’r ddyfais etc a ddefnyddiwyd i gysylltu â’r bleidlais. A fydd hyn ddim yn cael ei gysylltu â’u henw na’u cyfeiriad ebost.
Ym mhob achos, mae angen i’r staff gofrestru gyda gwasanaeth er mwyn cael creu arolygon a’u dangos. Yn y mwyafrif o’r gwasanaethau, gallwch naill ai creu enw defnyddiwr a chyfrinair, neu gysylltu â chyfrif sydd eisoes ar gael (megis Google neu Facebook).
Os byddwch yn creu’ch cyfrif eich hun, peidiwch â defnyddio’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth fel cyfrinair i’r gwasanaeth pleidleisio. Dilynwch ein cynghorion i greu cyfrinair cryf ar wahân (https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=25)
Os ydych yn defnyddio cyfrif sy’n bodoli eisoes, cofiwch y gall y data gael ei rannu rhwng y ddau wasanaeth. Bydd eich cyfrif Facebook neu Google yn cynnwys llawer o wybodaeth amdanoch, sef gwybodaeth na fyddwch am iddi gael ei rhannu o bosibl. Efallai yr hoffech edrych ar osodiadau’r cysylltiad er mwyn sicrhau eich bod yn fodlon ar lefel y data fydd yn cael ei rannu.
Edrychwch ar yr hawliau sydd gennych ar eich arolygon. Mae rhai gwasanaethau’n caniatáu i ddefnyddwyr eraill bori a rhannu cyflwyniadau, felly efallai yr hoffech ystyried pa mor weledol yw eich cyflwyniadau.
Ystyriwch pa drydydd partïon y bydd eich data’n cael ei rannu gyda nhw. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn dewis gwasanaeth lle mae’r data naill ai yn seiliedig yn yr UE, neu lle mae’r cwmni yn defnyddio safon Tarian Ddiogelwch yr UE-Unol Daleithiau. A gwiriwch eich dewisiadau – hoffech chi optio allan o restrau postio, hysbysebion etc?
Ar hyn o bryd, does gan Brifysgol Aberystwyth ddim trwydded safle ar gyfer gwasanaeth arolygon barn ar-lein. Felly, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer un o’r gwasanaethau hyn byddwch yn cofrestru fel unigolyn, ac nid fel cynrychiolydd i Brifysgol Aberystwyth neu ar ei rhan.