Defnyddio RhithRealiti ym maes Iechyd Meddwl

Er bod unigolion sy’n defnyddio rhithrealiti yn ymwybodol o’r ffaith nad yw eu profiadau’n rhai real, mae’r ymatebion corfforol a seicolegol a ysgogir ganddo yn debyg i’r rhai a brofir mewn sefyllfaoedd gwirioneddol.

Mae defnyddio triniaethau iechyd meddwl rhithrealiti yn agor posibiliadau o weithio trwy’r ymatebion i ysgogiadau problematig heb orfod eu hwynebu mewn bywyd go iawn. Mae i hyn fudd amlwg, ymarferol; er enghraifft, mae creu efelychiad o hedfan ar gyfer unigolyn sy’n brwydro â ffobia ynglŷn â hedfan yn ateb llawer haws na threfnu taith awyren i’r unigolyn.

Ar ben hyn, gall y therapydd weithio nid yn unig ar sail disgrifiad y claf ond gall wylio’u hymatebion. Gall y therapydd a’r claf ill dau reoli’r ysgogiadau a gall hynny wneud y driniaeth yn ddiogelach yn gorfforol a seicolegol.

‘Mae gan rithrealiti’r gallu i drawsnewid y ffordd o asesu, deall a thrin problemau iechyd meddwl’ (Freeman, et al., t. 2392). Cafodd ei ddefnyddio ar gyfer asesu a thrin ffobiâu, pryder, PTSD, caethiwed, paranoia, anhwylderau bwyta ac awtistiaeth. Er enghraifft, mae ap Rhithrealiti, a grëwyd yn Ysgol Gwaith Cymdeithasol Tulane yn rhwystro cleifion caeth i gyffuriau a diod rhag llithro’n ôl ‘trwy ddefnyddio sgiliau hunan-reolaeth ac ymwybyddiaeth mewn efelychiadau realistig lle mae cyffuriau a diod wrth law’ (Leatham, 2018, para.13).

Yn ddiweddar, mae Gareth Norris a Rachel Rahman o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth ar y cyd â chydweithwyr o’r Adran Cyfrifiadureg wedi cynnal prosiect ymchwil arbrofol sy’n defnyddio rhithrealiti trwy edrych ar ei bosibiliadau ar gyfer hel atgofion mewn oedolion hŷn.

Llwyddodd y Grŵp E-ddysgu i gaffael setiau pen rhithrealiti a chamera y gall staff eu defnyddio wrth addysgu ac mewn ymchwil. Gallwch greu amgylcheddau dysgu ymdrwytho neu ddefnyddio deunydd rhithrealiti sydd eisoes ar gael. Archebwch y setiau rhithrealiti a’r camera o stoc y llyfrgell.

Cyfeiriadaeth:

Farnsworth, B. (2018, Mai 1). The Future of Therapy – VR and Biometrics. Wedi’i adfer o https://imotions.com/blog/vr-therapy-future-biometrics/

Freeman, D. & Freeman, J. (2017, Mawrth 22). Why virtual reality could be a mental health gamechanger. Wedi’i adfer o https://www.theguardian.com/science/blog/2017/mar/22/why-virtual-reality-could-be-a-mental-health-gamechanger

Freeman, D., Reeve. S., Robinson, A., Ehlers, A., Clark, D., Spanlang, B. & Slater, M. (2017). Virtual reality in the assessment, understanding, and treatment of mental health disorders. Psychological Medicine, 47 (2393-2400).

Leatham, J. (2018, Mehefin 22). How VR is helping Children with Autism Navigate the World around Them. Wedi’i adfer o https://www.vrfitnessinsider.com/how-vr-is-helping-children-with-autism-navigate-the-world-around-them/

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*